Rownd 10: Hydref - Rhagfyr 2023

Cronfa Budd Cymunedol Brenig Wind Ltd

underline

Bydd Rownd 10 o Gronfa Budd Cymunedol Brenig yn agor 4ydd o Hydref, 2023.

Mae Cronfa Budd Cymunedol Brenig yn creu llawer o ddiddordeb a cheisiadau am gyllid i’r gronfa.  Os ydych wedi gwneud cais o’r blaen, ac nad ydych wedi bod yn llwyddiannus, sicrhewch eich bod yn cysylltu â Cadwyn Clwyd i gael arweiniad cyn ailgyflwyno eich cais mewn rowndiau yn y dyfodol.

DYDDIAD CAU AR GYFER CEISIADAU I GRONFA BUDD GYMUNEDOL BRENIG WIND LTD YW 17eg RHAGFYR 2023

Sesiwn galw heibio

Mae Cadwyn Clwyd wedi trefnu sesiwn galw heibio i chi ddod draw i gwrdd â’r tîm i drafod eich syniadau:

Dydd Mercher, 8fed o Tachwedd 2023 – Swyddfa Cadwyn Clwyd (Yr hen fanc HSBC), Stryd y Bont, Corwen, LL21 0AH – 3.00yp – 6.00yh

Cysylltwch 01490 340500 neu brenig@cadwynclwyd.co.uk i archebu eich lle

 

Dilynnwch y ddolen ar gyfer y dogfennau canlynol:

Cyfarwyddyd Grant

Ffurflen gais ar gyfer prosiectau llai na £10,000

Ffurflen gais ar gyfer prosiectau dros £10,000

Map ardal budd Brenig

Dychwelwch y ffurflen gais a dogfennau ychwanegol i brenig@cadwynclwyd.co.uk.  Dylid dychwelyd y ffurflen gais hon mewn Word, yn electronig ac mewn fformat wedi’i theipio, ni dderbynnir ffurflenni wedi’u hysgrifennu â llaw.  Peidiwch â throsi’r ffurflen i PDF gan ei bod yn drysu’r fformatio.

Cwestiynau am y Ceisiadau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gronfa neu’r broses ymgeisio, ebostwich brenig@cadwynclwyd.co.uk neu cysylltwch â 01490 340500 os gwelwch yn dda

Cefnogaeth ychwanegol

Mae cymorth ychwanegol ar gael i gymunedau ddatblygu a gweithredu prosiectau gan swyddogion yr awdurdodau lleol. Cysylltwch â:

Helen Williams: Swyddog Menter Cymunedol, Cadwyn Clwyd

t: 01490 340500

e: helen.williams@cadwynclwyd.co.uk

Fran Williams: Swyddog Datblygu Cymunedol, Cyngor Sir Ddinbych

t: 01824 712968

e: fran.williams@denbighshire.gov.uk

Ela Fôn Owen: Swyddog Cymuned, Treftadaeth a Diwylliant, Gwasanaeth Economi a Diwylliant, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

t:  01492 576 674

e: ela.fon.owen@conwy.gov.uk

Adroddiad Blynyddol 2022

Cylchlythyr (Haf 2022)

Adroddiad Blynyddol 2021

Cylchlythyr (Haf 2021)

Adroddiad Blynyddol 2020

Cylchlythyr (Haf 2020)

cronfa budd cymunedol brenig

newyddion a astudiaethau achos

underline
11 November 2021

Cymunedau gwledig yn cael eu hannog i wneud y mwyaf o lwyddiant ariannol rownd diweddaraf Cronfa Cymunedol Brenig Wind Ltd

Mae swm ariannol o £120,000 ar gael i achosion da ar hyd ardaloedd gwledig Sir Ddinbych a Sir Conwy yn y rownd diweddaraf o ariannu o’r gronfa gwerth £4 miliwn gan Brenig Wind Ltd. Ers ei lansiad dwy flynedd yn ôl, mae Cronfa Gymunedol Brenig Wind Ltd wedi darparu £350,000 i grwpiau cymunedol, clybiau a… Read More…

23 July 2021

Llifoleuadau clwb pel-droed yn tynnu sylw at gyllid cymunedol fferm wynt

Mae clwb pel-droed uchelgeisiol wedi cicdanio apêl i grwpiau cymunedol ymgeisio am gyllid, gyda chyfanswm o £60,000 ar gael. Mae Clwb Pel-droed Rhuthun yn paratoi ar gyfer y tymor newydd ar ôl cwblhau uwchraddio eu cyfleusterau’n sylweddol, yn cynnwys system llifoleuo newydd sy’n creu argraff fawr. Mae’r goleuadau newydd yn barod i’w switsio ymlaen gyda… Read More…

22 July 2021

Mae Brenig Wind Ltd Yn Gweld Aelod Panel Gwirfoddol

Mae Cadwyn Clwyd yn ceisio unigolyn gyda meddylfryd cymunedol i ymuno â Phanel Grant Brenig Wind Limited a fydd yn gyfrifol am asesu ceisiadau grant. Mae Brenig Wind Limited wedi’i leoli yn ardal Cyngor Cymuned Nantglyn a ward etholiadol Llanrhaeadr yng Nghinmeirch yng Nghyngor Sir Ddinbych. Mae’r datblygwyr, Brenig Wind Limited, wedi gosod 16 tyrbin… Read More…

01 April 2021

Cyfle i gymunedau gwledig Mynydd Hiraethog elwa ar fferm wynt Brenig

Cyfle i gymunedau gwledig Mynydd Hiraethog elwa ar fferm wynt Brenig.  Mae cronfa Budd Cymunedol Brenig Wind Ltd yn cael ei gweinyddu gan asiantaeth datblygu gwledig Cadwyn Clwyd, sydd eisoes wedi dyfarnu chwarter miliwn o bunnoedd mewn ychydig dros flwyddyn i sefydliadau o ardal Hiraethog Conwy a Sir Ddinbych. Mae’r ardal hon yn ymestyn o Lanelwy… Read More…

Brenig Wind Ltd supported project
09 February 2021

Nerth Dy Ben yn rhoi platfform i rannu profiad o fewn y Gymru wledig

Heddiw (4 o Chwefror) mae cynllun newydd, Nerth Dy Ben, a sefydlwyd gan chwe ffrind, yn lansio sengl a gwefan newydd sy’n rhannu syniadau ac ysbrydoliaeth am gryfder meddwl yng nghefn gwlad Cymru. Pwrpas Nerth Dy Ben, prosiect a redir gan wirfoddolwyr, yw rhoi llwyfan i unigolion rannu profiadau positif, yn y Gymraeg, am fyw… Read More…

volunteer denbigh community first responders
03 July 2020

Hwb ariannol i wirfoddolwyr sy’n achub bywydau wrth helpu i frwydro’r pandemig coronafeirws

Mae tîm o wirfoddolwyr sy’n achub bywydau, sydd wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â pharafeddygon Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn ystod yr argyfwng coronafeirws yn dathlu hwb ariannol wedi’i bweru gan wynt, sy’n werth mwy na £3,000 i dalu am offer brys newydd. Mae Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol Dinbych, sydd fel arfer yn rhoi o’u… Read More…

16 June 2020

Mae tafarn gymunedol Glan Llyn, Clawdd Newydd yn ganolbwynt ar gyfer darparu bwyd yn yr ardal leol

Mae menter bentref fywiog sy’n cludo bwyd a diod i bobl ynysig ac agored i niwed yn ardal orllewinol Sir Ddinbych wledig yn ystod y pandemig Covid-19 wedi derbyn mwy na £20,000 i roi hwb i’w gwasanaethau. Mae gan Glawddnewydd, pentref rhwng Rhuthun a Cherrigydrudion siop a thafarn, y Glan Llyn, sy’n cael ei rhedeg… Read More…

17 September 2019

Lawnsio Cronfa Newydd Budd Cymunedol Brenig Wind Ltd

Mae cronfa grant cymunedol fferm wynt o bron i £4 miliwn dros 25 mlynedd bellach ar gael i gymunedau o amgylch safle Brenig Wind Ltd i ddechrau elwa ohoni. Daw’r fferm wynt sy’n eiddo i Brenig Wind Limited yn weithredol ym mis Mawrth 2019 ac mae ganddo 16 tyrbin yr un o 2.35MW, gan roi… Read More…

cronfa budd cymunedol brenig

Prosiectau wedi eu cymeradwyo

underline
cronfa budd cymunedol Brenig Wind Ltd Community Benefit Fund
12 April 2021

GRWPIAU CYMUNEDOL YN ELWA O ROWND PEDWAR CRONFA BUDD CYMUNEDOL BRENIG WIND LTD

Mae Brenig Wind Ltd yn falch i gyhoeddi bod yr 8 grwp canlynol wedi cael cynnig Grant Cronfa Budd Cymunedol Brenig Wind Ltd (rownd 4: Mawrth 2021). Ymgeisydd: Clwb Peldroed Tref Rhuthun Disgrifiad: Llifoleuadau Swm y grant: £10,000 Ymgeisydd: Cae Chwarae Llanfihangel GM Disgrifiad: Ffens Swm y grant: £5,889.00   Ymgeisydd: Clwb Rygbi Dinbych Disgrifiad:… Read More…

cronfa budd cymunedol Brenig Wind Ltd Community Benefit Fund
25 September 2020

GRWPIAU CYMUNEDOL YN ELWA O DRYDYDD ROWND O ARIAN BRENIG WIND LTD

Mae Brenig Wind Ltd yn falch o gyhoeddi bod y 11 grwp canlynol wedi cael cynnig Grant Cronfa Gymunedol Brenig Wind Ltd (rownd 3: Awst 2020) Ymgeisydd: Canolfan Uwchaled Disgrifiad: Adnewyddu bar coffi a storfa cegin Swm y grant: £9,587.29 Ymgeisydd: Clocaenog Playground Project Disgrifiad: Ail osod offer chwarae sydd wedi difrodi Swm y grant: £8,935.22 Ymgeisydd:… Read More…

05 May 2020

GRWPIAU CYMUNEDOL YN ELWA O AIL ROWND ARIAN CRONFA BUDD CYMUNEDOL BRENIG WIND LTD

Mae Brenig Wind Ltd yn falch o gyhoeddi bod y 22 grwp canlynol wedi cael cynnig ac wedi derbyn Grant Cronfa Gymunedol Brenig Wind Ltd (rownd 2: Chwefro – Mawrth 2020)   Ymgeisydd: Sioe Cyffylliog a Bontychel Disgrifiad: Offer – Trelar blwch 10′ gyda ramp, System PA Symudol a 2 Gazeboo Swm y grant: £3,634.86   Ymgeisydd: … Read More…

25 February 2020

Grwpiau cymunedol yn elwa o rownd gyntaf o arian Brenig Wind Ltd

Mae Brenig Wind Ltd yn falch o gyhoeddi bod y 14 grwp canlynol wedi cael cynnig ac wedi derbyn Grant Cronfa Gymunedol Brenig Wind Ltd (rownd 1: Hydref – Rhagfyr 2020)   Ymgeisydd: Cyfeillion Ysgol Carreg Emlyn, Clocaenog (clwb ar ôl ysgol) Disgrifiad: 15 iPad ar gyfer clwb ar ôl ysgol a grwpiau cymunedol yn… Read More…