mae ciesiadau ir gronfa yma wedi cau
Mae’r grant hwn ar agor i geisiadau gan fusnesau. Bydd cymeradwyaeth derfynol am geisiadau grant yn amodol ar Cadwyn Clwyd yn derbyn cymeradwyaeth gan yr awdurdod rheoli ar gyfer cronfeydd SPF y DU.
Ariennir prosiect Cronfa Twf Twristiaeth Sir y Fflint gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin (UKSPF), drwy’r flaenoriaeth fuddsoddi ‘cefnogi busnesau lleol’. Mae nod y prosiect yn cyd-fynd â nodau’r UKSPF i hybu cynhyrchiant, cyflog, swyddi a safonau byw drwy dyfu’r sector preifat, gyda ffocws ar gefnogi mentrau micro a bach yn Sir y Fflint.
Yr amcanion yw:
- Creu swyddi a hybu cydlyniant cymunedol, trwy fuddsoddiadau sy’n adeiladu ar ddiwydiannau a sefydliadau sy’n bodoli eisoes, ac yn amrywio o gymorth i ddechrau busnesau i welliannau gweladwy i dwristiaeth leol, a’r sector ymwelwyr.
- Cynyddu buddsoddiad y sector preifat mewn gweithgareddau sy’n hybu twf, drwy gymorth wedi’i dargedu i ficrofusnesau a busnesau bach i ymgymryd ag arloesedd newydd i gwmni, mabwysiadu technolegau a thechnegau carbon isel sy’n gwella cynhyrchiant, sy’n defnyddio ynni’n effeithlon; gwella profiad yr ymwelydd; a thargedu marchnadoedd newydd.