Yn darparu cefnogaeth i leoliadau/cyfleusterau/mannau/grwpiau a arweinir gan y gymuned a/neu sy’n eiddo i’r gymuned i ddatblygu, cryfhau a gwella seilwaith cymunedol a phrosiectau cymunedol. Mae’r gronfa’n darparu swyddogaeth cymorth cofleidiol i grwpiau cymunedol gael mynediad at Gronfa Allweddol Gymunedol. Mae’r prosiect hefyd yn cynnig cymorth ac arweiniad swyddogion.
Pwy all Ymgeisio:
Gall y mathau canlynol o sefydliadau wneud cais am arian sy’n darparu neu’n ceisio darparu mynediad i wasanaethau a arweinir gan y gymuned a seilwaith cymunedol ar gyfer cymunedau ar draws Wrecsam:
Gall cynigion prosiect gael eu gwneud gan gonsortiwm o grwpiau, ond lle mae hyn yn wir, dylid nodi partner arweiniol yn Ffurflen Cynnig y Prosiect. Ni all unigolion gynnig prosiectau i’r Gronfa Allweddol.
Rhaid i bob ymgeisydd gael cyfansoddiad a chyfrif banc o leiaf.
Cronfa Allweddol Gymunedol:
Gellir ymgeisio am hyd at £50,000 o gyllid refeniw neu £35,000 chyfalaf yn dibynnu ar natur ac effaith y prosiect. Gallwch ymgeisio am gyllid cyfalaf a refeniw ar gyfer eich prosiect.
Cefnogi prosiectau cymunedol sy’n:
Mae rhestr o brosiectau sydd wedi’w cymeradwyo ar gael drwy ddilyn linc yma: Prosiectau wedi’w Cymeradwyo.
Mae gwerthusiad o raglen ariannu 2024/25 wedi’i gwblhau. Gallwch weld yr adroddiad llawn yma.
Ceir manylion llawn Cronfa Allweddol Cymunedau Ffyniannus Wrecsam yn y NODIADAU CYFARWYDDYD.
Bydd angen cwblhau Ffurflen Gais ar-lein. Bydd y Swyddog Prosiect yn cysylltu â chi i drafod eich cais.
Cadwyn Clwyd ar 01490 340500 neu AVOW ar 01978 312556