Ariennir Sir Ddinbych Ffyniannus gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyninat Gyffredin y DU drwy’r flaenoriaeth fuddsoddi ‘cefnogi busnesau lleol’. Mae nod y prosiect yn cyd-fynd â nodau’r Gronfa Ffyninat Gyffredin y DU i hybu cynhyrchiant, cyflog, swyddi a safonnau byw drwy dyfu’r sector preifat, gyda ffocws ar gefnogi mentrau micro a bach yn Sir Ddinbych.
Yr amcanion yw:
Rhaid i’r holl brosiectau llwyddiannus fod wedi’u cwblhau ac wedi hawlio’r cyllid erbyn 30 Medi 2024 fan bellaf.
Bydd y gronfa’n cefnogi mentrau micro a bach yn Sir Ddinbych yn uniongyrchol trwy ddarparu dau gynllun grant tuag at gostau sy’n ymwneud â chyflwyno cynhyrchion neu brosesau newydd:
Bydd busnesau micro a bach presennol, busnesau newydd a mentrau cymdeithasol yn gymwys i wneud cais. Bydd y prosiectau yn galluogi mentrau i arloesi; mabwysiadu technolegau ynni-effeithlon a charbon isel; a threialu cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newydd. Bydd ffocws ar ehangu busnes, cefnogi cyflwyno technolegau arloesol a ffyrdd newydd o wneud busnesau.
Ceir manylion llawn cyllid grant Sir Ddinbych Ffyniannus yn y NODIADAU CYFARWYDDYD.
Bydd angen llenwi FFURFLEN CYMHWYSO CYN GWNEUD CAIS ar-lein. Bydd y Swyddog Prosiect Grantiau Busnes yn cysylltu â chi i drafod eich cais.
Donna Hughes ar 01490 340500 / 07833 084352