Mae menter bentref fywiog sy’n cludo bwyd a diod i bobl ynysig ac agored i niwed yn ardal orllewinol Sir Ddinbych wledig yn ystod y pandemig Covid-19 wedi derbyn mwy na £20,000 i roi hwb i’w gwasanaethau.
Mae gan Glawddnewydd, pentref rhwng Rhuthun a Cherrigydrudion siop a thafarn, y Glan Llyn, sy’n cael ei rhedeg gan bobl leol, ac maent wedi cyflwyno gwasanaethau allgymorth newydd yn ystod yr argyfwng presennol.
Maent yn cael eu cynorthwyo gan grant gan Gronfa Budd Cymunedol Fferm Wynt Brenig sy’n dosbarthu £150,000 y flwyddyn i brosiectau cymunedol yn yr ardal drwy Cadwyn Clwyd, asiantaeth datblygu gwledig yng Nghorwen.
Mae’r dafarn wedi bod ar gau ystod y cyfyngiadau symud ond nid felly ei chegin, ac mae’r cogydd, Carolyn Young a’i thîm wedi bod yn brysur yn paratoi prydau tecawê poeth, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu dosbarthu am ddim i bobl ynysig ac agored i niwed yn y gymuned,
Mae tafarn y Glan Llyn a siop y pentref, yn y ganolfan gymunedol gerllaw, yn cael eu staffio gan dimau cyflogedig a thîm estynedig o wirfoddolwyr ac mae gwasanaethau dosbarthu bwydydd wedi’u trefnu hefyd, yn ogystal â gwasanaethau presgripsiwn o feddygfa Plas Meddyg yn Rhuthun.
“Mae’r siop gymunedol a’r dafarn yn cydweithio’n dda iawn ac maent wedi bod yn gweithio’n galed i helpu pobl yn yr ardal wledig hon yn ystod y pandemig.
“Rydym yn darparu hyd at 35 o ddosbarthiadau bocsys a bwydydd, y rhan fwyaf ohonynt wedi’u harchebu’n lleol o siopau’n cynnwys The Bake House yn Rhuthun, siop gig yn Ninbych a chyflenwyr lleol eraill, ac rydym hyd yn oed wedi dosbarthu papurau newydd hefyd.
“Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ein helpu gyda gyrwyr bysiau mini yr ysgol leol sy’n gwneud y dosbarthiadau ar ein rhan.”
Defnyddir yr arian o grant Brenig Wind Ltd i uwchraddio’r gwasanaethau yn y Glan Llyn a’r siop a byddant yn cynnwys tiliau newydd cysylltiedig, oerydd newydd ar gyfer seler y dafarn er mwyn storio cwrw yn briodol, teledu sgrin lydan ac arian ar gyfer cais cynllunio ar gyfer bloc toiledau newydd yn y dafarn yn ogystal â Chydlynydd ar gyfer y Siop a’r Dafarn.
Mae Cronfa Brenig yn cael ei llywio gan yr 16 tyrbin gwynt sy’n troi ar Fynydd Hiraethog o amgylch Llyn Brenig, ac a ddechreuodd droi 18 mis yn ôl i gynhyrchu digon o bŵer i fwy na thrideg mil o gartrefi’r flwyddyn.
“Mae’r prosiect yng Nghlawddnewydd yn enghraifft wych o gymuned yn dod at ei gilydd i ddarparu a diogelu gwasanaethau yn yr ardal wledig hon.
“Bwriedir i gronfa Brenig ddarparu buddiannau i’r cymunedau sy’n cynnal ac yn byw o amgylch y fferm wynt yn Sir Ddinbych a hyd yma mae £200,000 wedi’i ddosbarthu i sefydliadau amrywiol, o neuaddau pentref i glwb hwylio.
“Mae’n bwysig bod cymaint o bobl â phosibl yn ymwybodol o’r cyfleoedd oherwydd mae’n gyfle enfawr i’r cymunedau yn ac o amgylch ardal Brenig, ac rydym wedi sefydlu panel grantiau o bobl leol o’r ardal i wneud y penderfyniadau ar gyllid.”
“Mae’r gronfa yn werth £150,000 y flwyddyn dros fwy na 25 o flynyddoedd sy’n cynrychioli cyfle gwych i bobl y cymunedau hyn sy’n byw gyda’r tyrbinau gwynt.
“Fel pwyllgor rydym yn cyfarfod hyd at dair gwaith y flwyddyn i adolygu’r ceisiadau ac rwy’n credu bod y system yn un deg iawn sy’n cynrychioli gwerth am arian i’r bobl ac yn arbennig y plant yn y cymunedau gwledig hyn.
“Rydym hefyd yn awyddus i’r prosiectau hyn ddod â chymunedau lleol at ei gilydd fel yr ydym wedi gweld yng Nghlawddnewydd gyda’r siop a’r dafarn a’r ffordd mae pobl yn cydweithio i ddarparu prydau bwyd a gwasanaethau eraill.”
‘Rydym yn falch iawn ein bod yn gallu cefnogi mentrau lleol fel y Glan Llyn, sy’n gwneud gwaith gwych i helpu pobl ynysig ac agored i niwed yn y gymuned yn ystod cyfnod anodd. Mae buddiannau a chymorth cymunedol yn elfennau hollbwysig i’r cwmni ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag a chefnogi llawer mwy o fentrau a grwpiau yn y dyfodol.”
Am wybodaeth bellach am gronfeydd Brenig Wind Ltd, cysylltwch â Cadwyn Clwyd ar 01490 340500, e-bost: admin@cadwynclwyd.co.uk