Mae swm ariannol o £120,000 ar gael i achosion da ar hyd ardaloedd gwledig Sir Ddinbych a Sir Conwy yn y rownd diweddaraf o ariannu o’r gronfa gwerth £4 miliwn gan Brenig Wind Ltd.

Ers ei lansiad dwy flynedd yn ôl, mae Cronfa Gymunedol Brenig Wind Ltd wedi darparu £350,000 i grwpiau cymunedol, clybiau a chymdeithasau.

Ymysg rhai o’r rheiny i fuddio drwy’r gronfa yw clwb trampolinio poblogaidd ar gyfer unigolion anabl sydd yn dennu aelodau ar draws Sir Ddinbych, Sir Fflint a Sir Conwy ar ôl ail-agor eu drysau yn dilyn y cyfnodau clo.

Mae ‘Flying High’, sydd yn dennu aelodau rhwng oedrannau 6 i 60 ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru i’w sesiynnau wythnosol yng Nghanolfan Hamdden Dinbych, wedi defnyddio grant o £714 er mwyn prynnu crysau clwb newydd, cymhorthyddion hyfforddi ac i ddarparu hyfforddiant ychwanegol ac yswyriant.

Disgwylir i Gronfa Cymunedol Brenig Wind Ltd ddosbarthu bron i £4 miliwn dros 25 mlynedd i gymunedau yn yr ardal budd, gyda David Heelan o Brenig Wind Ltd yn dweud:

“Mae’n gyfle gwych i gymunedau gwledig i fuddio. Yn barod, mae Cadwyn Clwyd wedi dosbarthu dros £350,000 i fwy na 50 o brosiectau lleol amrywiol.

“Mae’r ceisiadau’n mynd gerbron panel grantiau lleol a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynnol ar sut a ble fydd yr arian yn cael ei wario.”

Mae’r ardal cymwys yn ymestyn o Llanelwy yn y gogledd i Faerdy, ger Corwen, yn y de ac o’r Afon Clwyd yn y gorllewin ar draws ardal Hiraethog i Gerrigydrudion a rhannau uchaf Dyffryn Conwy – mae map o’r ardal budd ar gael ar dudalen Fferm Wynt Brenig.

Mae’r arian yn dod o Brenig Wind Ltd, ble mae eu 16 tyrbin gwynt ar fynydd Hiraethog yn cynhyrchu dros 37.6 megawat o bwer – digon i bweru dros 30,000 o dai bob blwyddyn.

Mae’r gronfa wedi gwneud gwahaniaeth mawr i Flying High, gyda’u aelodau yn ôl ar waith bob nos Lun o 5yh, gan gynnal rheolau ymbellhau cymdeithasol ers dychwelyd yn dilyn y cyfnodau clo ond yn parhau i fwynhau’r wefr o drampolinio.

Dywedai Trysorydd y clwb, Anna Gresty, sydd gyda mab sy’n aelod rheolaidd gyda’r clwb:

“Mae Flying High wedi bod yn mynd ymlaen ers 10 mlynedd ac rydym yn dennu bobl o ardal eang ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru – rydym ni hyd yn oed wedi cael rhywun yn eu 80au a oedd arfer cymryd rhan cyn y cyfnod clo.

“Mae wedi bod yn glwb bywiog, ond wrth gwrs roedd yn rhaid i ni gau yn ystod y cyfnod clo ac ers dychwelyd rydym wedi gorfod rheoli faint o bobl rydym ni’n cynnwys ym mhob sesiwn.

“Ond, rydym yn lwcus oherwydd mae gennym ni hyfforddiant gwych gan Laurel Morgan a’i thîm ac rydym wedi codi arian ar gyfer offer da ar gyfer aelodau sydd yn an-symudol.”

Mae Pete Morgan, o Ruthin, gyda mab 10 mlwydd oed o’r enw Max sydd yn mynychu Ysgol Brondyffryn yn Ninbych, dywedodd:

“Mae ganddo awtistiaeth ac roedd yn anodd iawn dod o hyd i weithgareddau allgyrsiol gallai gymryd rhan ynddynt, ond mae hwn wedi bod yn berffaith.

“Mae Max wedi bod yn trampolinio ers pedair mlynedd, ac mae wrth ei fodd. Mae’n ei gadw’n heini ac yn rhoi cyfle iddo gyfarfod bobl newydd, felly mae wedi bod yn dda iawn iddo.

“Mae wedi cael trafferth yn gymdeithasol ac does dim llawer ar gael ar gyfer plant sydd gyda anghenion arbennig, roedd dod o hyd i’r clwb yma yn wych o berspectif iechyd. Mae’n rhoi cyfle iddo losgi ychydig o galoriau bob wythnos.”

Mae Cronfa Budd Cymunedol Brenig Wind Ltd wedi helpu dros 50 o brosiectau lleol gan gynnwys lawntiau bowlio yn Ninbych a Llansannan, cegin yn Neuadd Goffa Bylchau, gliniaduron ac iPads ar gyfer clwb ar-ôl ysgol yng Ngherrigydrudion, camerau i dracio wiwerod coch yng Nghoedwig Clocaenog a diffibriliwr mewn hen focs ffôn yn Nantglyn.

Dywedodd Swyddog Rheoli Prosiect Cadwyn Clwyd, Helen Williams:

“Mae yna lawer o ddiddordeb wedi bod yn y gronfa, ac mae gymaint o sefydliadau wedi elwa ohono’n barod.

“Rydym yn edrych am llawer mwy i gael eu ceisiadau i fewn erbyn y dyddiad cau, hyd yn oed os ydych wedi ymgeisio o’r blaen ac wedi bod yn aflwyddianus, gallwch gysylltu gyda ni er mwyn trafod cais newydd.

“Mae hwn yn gyfle gwych i grwpiau cymunedol lleol a chymdeithasau sydd angen meddwl yn fawr a bach, oherwydd mae’r arian ar gael ar gyfer amrediad eang o brosiectau ar draws yr ardal.”

Mae Rownd 6 o Gronfa Budd Cymunedol Brenig Wind Ltd wedi agor ar y 1af o Dachwedd, mi fydd Cadwyn Clwyd yn cynnal sesiynnau galw yn Neuadd y Plwyf Bylchau, yn y Groes ar Ddydd Mercher, Tachwedd 24ain o 3yp tan 6yh, ac yn rhithiol dros Zoom ar Ddydd Llun, Rhagfyr y 1af o 2yp tan 6yh.

Er mwyn archebu lle mewn sesiwn galw-heibio, cysylltwch gyda brenig@cadwynclwyd.co.uk neu ffoniwch 01490 340500.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Mercher, Ionawr y 5ed, 2022. Mae manylion ar sut i ymgeisio ar gyfer y rownd diweddaraf hefyd ar dudalen Fferm Wynt Brenig.