cronfa budd cymunedol brenig wind ltd

Cyfle i gymunedau gwledig Mynydd Hiraethog elwa ar fferm wynt Brenig

underline

Cyfle i gymunedau gwledig Mynydd Hiraethog elwa ar fferm wynt Brenig.  Mae cronfa Budd Cymunedol Brenig Wind Ltd yn cael ei gweinyddu gan asiantaeth datblygu gwledig Cadwyn Clwyd, sydd eisoes wedi dyfarnu chwarter miliwn o bunnoedd mewn ychydig dros flwyddyn i sefydliadau o ardal Hiraethog Conwy a Sir Ddinbych.

Mae’r ardal hon yn ymestyn o Lanelwy yn y gogledd i Faerdy, ger Corwen, yn y de ac o Afon Clwyd yn y dwyrain ar draws Fynydd Hiraethog i Gerrigydrudion a Dyffryn Conwy – mae map o’r ardal sy’n elwa ar gael ar wefan Cadwyn Clwyd.  Mae’n cael ei hariannu gan Brenig Wind Ltd, sydd â 16 o dyrbinau gwynt yn troi ar hyd gorwel Mynydd Hiraethog i gynhyrchu mwy na 37.6 megawat o bŵer – digon i bweru mwy na deng mil ar hugain o gartrefi’r flwyddyn.

“Mae Cadwyn Clwyd eisoes wedi dosbarthu £267,000 mewn tair rownd o gyllid i grwpiau cymunedol ar gyfer 47 o wahanol brosiectau ac wedi’u helpu i sicrhau £60,000 pellach, sy’n golygu bod y fro wledig hon wedi derbyn £327,000 mewn dim ond 12 mis,” meddai David Heelan o Brenig Wind Ltd.

Hyd yma, mae’r gronfa wedi darparu cymorth ariannol i sefydliadau sy’n amrywio o glwb Mini Rygbi Rhuthun, Clwb Pêl-droed Nantglyn, Côr Meibion Llansannan, clwb trampolîn Flying High Dinbych a Gŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol Gogledd Cymru yn Llanelwy.

Un o’r sefydliadau cyntaf i elwa oedd Clwb Beicio Hiraethog, yn Llansannan, a dderbyniodd bron i £7,000 ar gyfer beiciau trydan, i annog pobl leol i gyfnewid pedair olwyn am ddwy.

Dywedodd trefnydd y Clwb, Huw Rawson:

“Yn Llansannan waeth i ba gyfeiriad yr ewch chi bron, mae yna elltydd, felly roeddem yn meddwl y byddai beiciau trydan yn ffordd wych i annog pobl i ddechrau beicio.

“Mae wedi bod yn llwyddiannus iawn, a phawb wrth eu boddau.  Roeddem yn mynd allan dwy neu dair gwaith yr wythnos ar gyfer teithiau grŵp ac mae rhai pobl yn eu benthyca i fynd i feicio eu hunain.

“Rydym hefyd wedi derbyn cymorth gan Chwaraeon Cymru ac erbyn hyn mae gennym 13 beic trydan o un neu ddau i feicwyr iau i feiciau camu drwodd i ferched i feiciau mynydd a beiciau rasio.”

Fe wnaeth y cyfnodau clo y llynedd effeithio’n fawr ar y clwb er bod beiciau yn parhau i gael eu defnyddio gan unigolion ond mae’r clwb yn bwriadu ail-ddechrau’r teithiau grŵp ym mis Ebrill.

Ychwanegodd Huw:

“Maent yn ffordd wych i fynd allan a gweld cefn gwlad ac maent yn help mawr gyda’r elltydd ond gallwch gael cymaint neu gyn lleied o help o’r modur trydan ag y byddwch yn dymuno – y peth pwysig yw mynd allan i feicio.”

Rhoddwyd grant o £9,755 i Glwb Digidol Ysgol Cerrig ar gyfer 10 gliniadur ac 16 iPads ar gyfer eu Clwb Digidol ar ôl yr Ysgol ond yn ystod y cyfnod clo maent yn cael eu defnyddio gan blant gweithwyr allweddol sy’n mynychu’r ysgol yn ystod y cyfnod clo.

Dywedodd y Pennaeth, Eirlys Edwards:

“Pan fydd y cyfnod clo wedi dod i ben rydym yn gobeithio eu defnyddio yn y Clwb Digidol pan fydd plant o’r ysgol yn gallu helpu pobl hŷn yn y gymuned i’w defnyddio a dysgu sgiliau TG iddynt.”

“Yn y cyfamser, rydym wedi caniatáu i’r plant fenthyg y Chromebooks sydd gennym yn yr ysgol er mwyn iddynt allu dysgu gartref.”

Dywedodd Helen Williams, Rheolwr Prosiect Cadwyn Clwyd:

“Rydym yn falch iawn bod cymaint o sefydliadau wedi gallu elwa ar y Gronfa hyd yma ac rydym yn gobeithio i lawer mwy ohonynt gyflwyno cynigion y mis hwn.

“Mae hyn yn gyfle gwych i grwpiau cymunedol a chymdeithasau lleol gyflwyno cynigion ac mae angen iddynt feddwl am syniadau bach a mawr oherwydd mae arian ar gael ar gyfer prosiectau o bob math ar draws yr ardal.”

I gael gwybodaeth bellach am Glwb Beicio Hiraethog, gan gynnwys fideo, ewch i https://www.facebook.com/groups/624609091033908.