cronfa budd cymunedol brenig wind ltd

Nerth Dy Ben yn rhoi platfform i rannu profiad o fewn y Gymru wledig

underline

Heddiw (4 o Chwefror) mae cynllun newydd, Nerth Dy Ben, a sefydlwyd gan chwe ffrind, yn lansio sengl a gwefan newydd sy’n rhannu syniadau ac ysbrydoliaeth am gryfder meddwl yng nghefn gwlad Cymru.

Pwrpas Nerth Dy Ben, prosiect a redir gan wirfoddolwyr, yw rhoi llwyfan i unigolion rannu profiadau positif, yn y Gymraeg, am fyw a gweithio yng nghefn gwlad Cymru, a hynny drwy gyfrwng cân, fideo, sgwrs, podlediad, stori a llun.

‘Byw i’r Dydd’ yw enw’r sengl newydd sydd wedi ei chreu i nodi lansio Nerth Dy Ben. Cyfansoddwyd y gân gan yr amryddawn, Rhydian Meilir gyda’r bardd Ffion Gwen, o Lannefydd, Sir Conwy yn cydweithio â Rhydian gyda’r geiriau. Y cerddor dawnus, Mei Gwynedd gynhyrchodd y sengl. Mae’r criw yn falch o allu cyhoeddi’r sengl yn barod at Ddydd Miwsig Cymru hefyd.

Yn ôl Nia Parry, cyflwynydd a chynhyrchydd teledu o Rhostryfan, Caernarfon:

“Rydyn ni’n chwech yn griw o ffrindiau ac rydan ni’n teimlo’n gyffrous iawn wrth gyrraedd y garreg filltir yma, lle rydyn ni’n gallu rhannu ein gweledigaeth am Nerth Dy Ben o’r diwedd.

“Mae’n gynllun cwbl wirfoddol ac yn deillio o syniadau rydym wedi eu cael dros y blynyddoedd diwethaf am gymunedau gwledig Cymreig, pobl ac amgylchiadau lle rydyn ni wedi profi’r ymdeimlad cymunedol ‘na sy’n rhoi cryfder i ni ddygymod, cyflawni a goroesi sefyllfaoedd o ddydd i ddydd.

Un sydd wedi cyfrannu fideo i’r wefan newydd www.nerthdyben.cymru yw Rhodri Siôn, mab fferm 25 oed o Nebo ger Llanrwst. Trafod pwysigrwydd bod allan yn yr awyr agored y mae Rhodri, a’r ymdeimlad o wthio’i hun wrth gerdded a mynydda. Mae’n trafod delio â straen mewn amgylchiadau heriol, fel tywydd garw ar fynydd, a’r lles meddyliol a chorfforol mae hynny’n ei roi iddo mewn amgylchiadau arferol bywyd.

Alaw Owen, ei brawd Ifan Owen o Landdoged, Llanrwst; Elen Lois o Langernyw, Nia Lloyd o Rydycroesau, Croesoswallt ac Amanda Harries o Plwmp, Ceredigion yw’r chwe chyfaill, gyda Nia Parry, sy’n rhan o sefydlu’r prosiect.

 Yn ôl Ifan Owen, sy’n rheolwr iechyd anifeiliaid yn y diwydiant amaethyddol:

“Mae’r cynllun yma’n agos at ein calonnau ni, gan i ni gyd brofi cryfder corff a meddwl wedi i Alaw gael ei niweidio mewn damwain car difrifol ddwy flynedd yn ôl. Fel teulu a ffrindiau, roedd hi’n gyfnod anodd, ond mi dynnon ni i gyd oddi ar gryfder Alaw ei hun, wrth iddi gryfhau a gwella yn dilyn y ddamwain.

“Ein gobaith, wrth i’r wefan sefydlu a’r cynllun ddatblygu, yw cynnal digwyddiadau Nerth Dy Ben (wedi Covid19), gan godi ymwybyddiaeth a thanlinellu’r pwysigrwydd o gynnal meddwl cadarnhaol, drwy rannu meddylfryd bobl o fewn y gymuned wledig am gryfder meddwl.”

Yn ôl Alaw ei hun:

“Mae Nerth dy Ben yn lle i bawb sydd angen eu hatgoffa, am y chwistrelliad bach ychwanegol yna o egni a hyder. Yn hytrach na meddwl am yr hyn na allwn ni wneud, mae Nerth Dy Ben yn ymgyrchu i atgoffa’n hunain o’n cryfderau o dro i dro. Mae o’n gerrynt eithriadol o bwerus i ni ei ddefnyddio, ei gydnabod a’i rannu.

“Dan ni’n llwyr sylweddoli na all pawb feddwl am gryfder o hyd, ac mae yna wybodaeth ar y wefan am elusennau a gwasanaethau gwerthfawr iechyd meddwl sy’n gallu cynnig cymorth i unrhyw un sydd ei angen yn y Gymraeg.”

Fel rhan o’r wefan, mae adran benodol arni ‘Nerth yr Ifanc’ sy’n cynnwys cyfraniadau blogs a vlogs gan bobl ifanc am eu cryfder meddwl nhw. Un o uchafbwyntiau’r adran yw rhestr o 5 cân uchaf ‘Cana nerth dy ben’ gan gyfranwyr sy’n rhannu cerddoriaeth codi calon sy’n gwneud i rywun ganu a dawnsio i’r miwsig.

Yn ôl Ruth Williams, Menter Iaith Sir Ddinbych sy’n cefnogi’r cynllun:

“Mae’n braf iawn cydweithio efo criw o bobl ifanc sy’n frwdfrydig am siarad yn agored ac yn bositif am brofiadau bywyd, a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae meddwl positif ac iach yn hollbwysig, ac mae gallu rhannu profiad trwy blatfformau sy’n berthnasol ac yn hawdd i bobl gyrraedd atynt, yn y Gymraeg, yn bwysig. Rydyn ni’n falch iawn o gydweithio â Nerth Dy Ben gan weld sengl newydd gan bobl ifanc o’n hardal ni yn cael ei rhyddhau yn barod ar gyfer Dydd Miwsig Cymru.”

Ariennir y prosiect gan Gronfa Budd Cymunedol Brenig Wind Ltd.

I ddeall mwy am Nerth dy Ben, ewch i’r wefan www.nerthdyben.cymru

Bydd ‘Byw i’r Dydd’ yn cael ei rhyddhau ar Ddydd Miwsig Cymru (dydd Gwener 5 Chwefror) a bydd y gân a’r fideo i’w gweld ar www.nerthdyben.cymru ac ar gael i’w lawrlwytho ar iTunes a’r platfformau arferol gyda chyfran o bob lawrlwythiad yn dod yn ôl i ariannu’r prosiect.

I glywed y gân a chaneuon eraill Dydd Miwsig Cymru, ewch i wefan neu ap www.amam.cymru; Twitter neu Instagram @Miwsig_ neu Facebook @Miwsig