Ariennir Cronfa Cydweithredu Busnes Sir Ddinbych Ffyniannus gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU drwy’r flaenoriaeth fuddsoddi ‘cefnogi busnesau lleol’.
Bydd Cronfa Cydweithredu Busnes Sir Ddinbych Ffyniannus yn hyrwyddo ac yn cefnogi rhwydweithio a chydweithio, trwy ymyriadau sy’n dod a busnesau a phartneriaid ynghyd o fewn ac ar draws sectorau i rannu gwybodaeth, arbenigedd ac adnoddau, ac ysgogi arloesedd a thwf. Bydd yn canolbwyntio ar;
Mae crynodeb o’r Gronfa Cydweithio ar gael yma.
Mewn partneriaeth â Chadwyn Clwyd, mae gwasanaeth Swyddog Digidol Cyngor Sir Ddinbych yn cefnogi busnesau yn Sir Ddinbych sy’n cael trafferthion efo’r rhyngrwyd.
Mae cysylltiad da yn hanfodol i fusnesau, ond mae llawer o fusnesau yn wynebu heriau wrth drio cael cysylltiad dibynadwy a chyflym. Gyda sawl cynllun llywodraeth ar gael ac Openreach yn dal i ehangu eu cysylltiad ffibr y rhanbarth, gall fod yn anodd i berchnogion busnes ddal i fyny efo’r opsiynau sydd ar gael.
I helpu, mae’r Cyngor yn cynnig gwasanaeth ymgynghorol rhad ac am ddim, lle mae Swyddog Digidol penodol yn gallu darparu cyngor perthnasol, ymchwilio i faterion ar eich rhan, holi Openreach a darparu adroddiad manwl ar eich cysylltiad a’r atebion sydd ar gael.
“Mae cysylltiad digidol yn hanfodol ar gyfer twf a chynaliadwyedd busnesau. Drwy’r gwasanaeth yma rydym ni’n gwneud yn siŵr nad yw busnesau Sir Ddinbych yn cael eu gadael ar ôl a bod ganddyn nhw fynediad at y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i ffynnu yn yr oes ddigidol.
“Rydym ni’n deall y pwysau sydd ar fusnesau lleol, ac mae’r gwasanaeth hwn yn un ffordd rydym ni’n helpu i oresgyn rhwystrau a chreu cyfleoedd ar gyfer twf.”
Mae cefnogaeth a gwybodaeth hefyd ar gael am y rhwydwaith LoRaWAN newydd y mae Sir Ddinbych yn ei osod ar draws y sir gyda chyllid gan Uchelgais Gogledd Cymru. Bydd y rhwydwaith hwn yn un â mynediad agored, gan ganiatáu i fusnesau a thrigolion gysylltu eu synwyryddion â’r rhyngrwyd. Gall synwyryddion LoRaWAN arbed amser ac arian i fusnesau drwy fonitro sefyllfaoedd o bell ac anfon rhybudd at y defnyddiwr pan fydd digwyddiad yn cael ei sbarduno.
Mae’r gwasanaeth wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ac ar gael i bob busnes yn y sir yn rhad ac am ddim.
Am fwy o wybodaeth neu i gael cefnogaeth, cysylltwch â Philip Burrows, y Swyddog Digidol, ar philip.burrows@sirddinbych.gov.uk.
Bydd y gronfa yn cefnogi grwpiau fel grwpiau busnes, siambrau masnach, a chlystyrau busnes i wireddu prosiectau ar lawr gwlad sydd o fudd iddynt ar y cyd; a sefydliadau sy’n gweithredu yn y sir sy’n ceisio cyflawni prosiectau wedi’w targedu at fentrau micro a bach gan gynnwys mentrau cymdeithasol.
Ceir manylion llawn Cronfa Cydweithio Busnes Sir Ddinbych Ffynniannus yn y NODIADAU CYFARWYDDYD.
Bydd angen cwblhau FFURFLEN GYNNIG PROSIECT. Bydd y Swyddog Prosiet Cydweithredu Busnes yn cysytllu â chi i drafod y cais.