cronfa budd cymunedol brenig wind ltd

Hwb ariannol i wirfoddolwyr sy’n achub bywydau wrth helpu i frwydro’r pandemig coronafeirws

underline

Mae tîm o wirfoddolwyr sy’n achub bywydau, sydd wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â pharafeddygon Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn ystod yr argyfwng coronafeirws yn dathlu hwb ariannol wedi’i bweru gan wynt, sy’n werth mwy na £3,000 i dalu am offer brys newydd.
Mae Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol Dinbych, sydd fel arfer yn rhoi o’u hamser sbâr, i fynychu galwadau 999 a gweinyddu gofal meddygol brys, wedi bod yn darparu cymorth ychwanegol i’r gwasanaeth ambiwlans yn ystod y pandemig Covid-19.

Mae’r Ymatebwyr Cyntaf, sefydliad cenedlaethol o wirfoddolwyr sy’n cael eu hyfforddi gan Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, yn cael eu hyfforddi’n bennaf i ddarparu triniaeth adfywio cardio-pwlmonaidd a thriniaeth diffibriliwr i bobl cyn i’r parafeddygon gyrraedd, ond maent wedi gweithio ochr yn ochr â hwy i helpu i liniaru’r pwysau ar y Gwasanaeth.

Mae cangen Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol Dinbych yn derbyn cymorth yn awr i ehangu drwy grant gan Gronfa Budd Cymunedol Brenig Wind Ltd, sy’n dosbarthu £150,000 y flwyddyn i brosiectau cymunedol yn yr ardal drwy Cadwyn Clwyd, asiantaeth adfywio gwledig yng Nghorwen.

Mae’r tîm 12 aelod, gyda’u hoedran yn amrywio o’u hugeiniau hwyr i’w saithdegau cynnar, wedi ymgymryd â rôl newydd yn ystod y pandemig, yn helpu i ddosbarthu meddyginiaethau i ysbytai ac maent wedi’u hyfforddi hefyd i gynorthwyo parafeddygon i wisgo eu Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) i’w cadw’n ddiogel ar alwadau 999.

Pan fyddant yn dychwelyd i’w gwaith arferol o achub bywydau, bydd ganddynt £3,077 ychwanegol i brynu dau ddiffibriliwr, dau fag offer ychwanegol, dau fag ocsigen a chwe iwnifform arbenigol newydd i’r Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol.  Bydd hyn yn eu galluogi i gael aelodau ychwanegol o’r tîm ar shifft ar yr un pryd.

Dywedodd David Heelan, o Brenig Wind Ltd:

“Rydym yn falch iawn o’r cyfle i gynorthwyo ymatebwyr cyntaf gwirfoddol Dinbych, sy’n gwneud gwaith allweddol yn cynorthwyo’r gwasanaeth ambiwlans brys arferol yn yr ardal hon yn y cyfnod hollbwysig hwn.

“Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn eu galluogi i ehangu eu gwasanaeth yn y dyfodol, oherwydd mae budd a chymorth cymunedol yn hollbwysig i ni fel cwmni ac edrychwn ymlaen at weithio gyda mwy o fentrau a grwpiau cymunedol, a’u cefnogi drwy’r Gronfa yn y dyfodol.”

Croesawyd y grant gan y postman Dave MacKenzie, o Ddinbych, sy’n gwirfoddoli gyda’r Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol saith noson yr wythnos, a dywedodd y byddai’n cyfrannu llawer i gefnogi eu gwaith.  Dywedodd y postmon 56 oed, sydd wedi gwirfoddoli fel ymatebwr cyntaf am yr 11 mlynedd ddiwethaf:

“Rydym yn falch iawn ein bod wedi derbyn y grant oherwydd gallwn wneud cymaint gyda’r arian.  Mae’n mynd i wneud gwahaniaeth aruthrol i’n tîm.

“Mae’r offer a’r iwnifform yn ddrud.  Mae’n dasg fawr sicrhau bod arian yn dod i mewn a dal ati.

“Cyn y coronafeirws, roeddwn yn gweithio o 2pm i 4am bron bob diwrnod.  Nid wyf yn ystyried bod hyn yn wirfoddoli.  Roeddwn yn gwneud yr un peth yn yr Alban gyda Thîm Achub Mynydd Glenelg ac nid oeddwn yn meddwl am y peth.  I mi, roeddwn yno i rywun ac ar gael.  Mae’n rhywbeth sy’n rhan ohonof fi.

“Mae’r mwyafrif o’n galwadau yn ymwneud â phroblemau anadlu, trawiadau ar y galon ac ataliad y galon.  Rwyf wedi ceisio cyfrif sawl ataliad y galon yr wyf wedi’u mynychu ac ni allaf gofio.  Mae’n rhaid ei fod yn o leiaf 50 neu 60, ond mae’n debygol o fod yn fwy.

“Mae Covid-19 wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i’n gwaith ac nid ydym yn ymateb i’r un math o alwadau am resymau diogelwch.”

Ers dechrau’r pandemig, mae nifer o aelodau’r tîm wedi’u hyfforddi i gefnogi system gyfeillio Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) ac maent yn mynychu galwadau brysbennu 999 er mwyn rhyddhau ambiwlansiau achosion brys.

Gallant helpu’r parafeddygon i wisgo eu PPE gradd uchel, a gwaredu’r cyfarpar diogelu ar ôl pob galwad, trosglwyddo offer a sicrhau bod rheoliadau hylendid yn cael eu dilyn.

Mae’r ymatebwyr cyntaf fel arfer yn cael eu galw allan i alwadau argyfwng cod coch yn eu hardal ond ychwanegodd Dave, a symudodd i Ddinbych yn 2000:

“Nid ydym yn mynychu unrhyw alwadau coch o gwbl ar hyn o bryd.

“Mae’n rhaid i barafeddygon wisgo siwt gorchuddio a dillad diogelu lefel PP3.  Rydym wedi’n hyfforddi i gael gwared ar y cit cyfan mewn bag peryglus ar ôl pob galwad ac mae’n cymryd dau i wneud hynny’n ddiogel.

“Byddem ni hefyd yn hoffi bod mewn PPE llawn ond nid ydym yn mynd i mewn i unrhyw adeiladau, rydym yn aros y tu allan.  Rydym hefyd wedi bod yn dosbarthu meddyginiaeth yn ôl ac ymlaen o ysbytai ac yn mynychu galwadau am gwympiadau, sy’n lliniaru’r pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans arferol.”

Mae Cronfa Brenig yn cael ei llywio gan yr 16 tyrbin gwynt sy’n troi ar Fynydd Hiraethog o amgylch Llyn Brenig, ac a ddechreuodd droi 18 mis yn ôl i gynhyrchu digon o bŵer i fwy na thrideg mil o gartrefi’r flwyddyn.

Dywedodd Rheolwr Cadwyn Clwyd, Lowri Owain:

“Bwriedir i gronfa Brenig ddarparu buddiannau i’r cymunedau sy’n cynnal ac yn byw gyda’r fferm wynt yn ardal Sir Ddinbych a Chonwy a hyd yma, mae £200,000 wedi’i ddosbarthu i sefydliadau amrywiol, o neuaddau pentref i glwb hwylio.

“Mae’n bwysig bod cymaint o bobl â phosibl yn ymwybodol o’r cyfleoedd oherwydd mae’n gyfle aruthrol i’r cymunedau yn ac o amgylch ardal Brenig.  Rydym wedi sefydlu panel grantiau o bobl leol o’r ardal i wneud penderfyniadau ar y cyllid.

“Mae trydedd rownd y gronfa ar agor yn awr ac rydym yn gwahodd ceisiadau o’r gymuned erbyn y dyddiad cau ar Awst 7.”

Yn y cyfamser, dywedodd Dave ei fod yn edrych ymlaen at ddychwelyd i’r galwadau coch eto, pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.

“Mae’n golygu diogelu bywydau, ac rwy’n credu bod hynny’n wych.  Mae’n fwy nac achub bywydau, rydych yn cwrdd â phobl, ac yn gwneud gwahaniaeth,” meddai.

“Rwyf wedi bod ar alwadau ac wedi eistedd gyda phobl sydd wedi gofyn beth yw pwynt bywyd?  Byddwch yn eistedd am ychydig ac yn trafod eich profiadau chi o fywyd ac rydych yn cysylltu gyda phobl.

“Dyna yw’r peth gorau i mi.  Byddwn yn casáu eistedd adref yn gwneud dim.  Mae mynd allan a helpu pobl yn anhygoel.”

Dywedodd ei gyd-wirfoddolwr a Thrysorydd Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol Dinbych, Tony Killow, y byddai’r arian yn cael ei wario cyn gynted ag y byddai’r pandemig yn dod i ben.

“Bydd y grant hwn yn ariannu dau ymatebwr arall, i bob diben.  Rydym yn falch iawn oherwydd dyma’r swm mwyaf i ni ei dderbyn ar unrhyw adeg benodol,” dywedodd y gŵr 71 oed o Langynhafal, yn Nyffryn Clwyd.

“I gael un ymatebwr gydag offer llawn byddai’n costio £1,400.  Rydym yn talu am bopeth ein hunain, ar wahân i’r hyfforddiant, sy’n cael ei ddarparu gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru, a hwy hefyd sy’n talu am y cyflenwadau yn ein bagiau offer.

“Rydym yn gwneud hyn oherwydd bod y GIG wedi helpu’r rhan fwyaf ohonom yn ein bywydau felly rydym eisiau rhoi rhywbeth yn ôl a helpu.

“Rwyf wedi cael fy achub dwywaith ar ôl cael trawiadau ar y galon.  Mae hyn rai blynyddoedd yn ôl erbyn hyn.  Nid oeddwn eisiau bod y person na allai wneud unrhyw beth pe byddai’n digwydd i rywun arall.

“Mae gennym nyrs yn y tîm, gweithwyr gofal, postmon, peiriannydd electroneg, arbenigwr TG a gosodwr mesuryddion deallus, cymysgedd go iawn.

“Pan roddir hyfforddiant i ymatebwr, byddant yn ymrwymo i o leiaf pum awr yr wythnos ond mae’n anochel y bydd yn llawer mwy na hynny.  Mae’n rhaid i ni fod yn hyblyg oherwydd ymrwymiadau gwaith, ond gall gynyddu i 12 neu 15 awr yn rhwydd.”