Brenig Wind Ltd

Swydd Wag Gwirfoddolwr - Aelod o'r Panel

underline

Mae Cadwyn Clwyd yn ceisio unigolyn gyda meddylfryd cymunedol i ymuno â Phanel Grant Brenig Wind Limited a fydd yn gyfrifol am asesu ceisiadau grant.

Mae Brenig Wind Limited wedi’i leoli yn ardal Cyngor Cymuned Nantglyn a ward etholiadol Llanrhaeadr yng Nghinmeirch yng Nghyngor Sir Ddinbych.

Mae’r datblygwyr, Brenig Wind Limited, wedi gosod 16 tyrbin a phob un ohonynt yn 2.35MW, a fydd yn darparu cyfanswm capasiti o 37.6MW ac mae’n ymrwymedig i dalu cronfa budd cymunedol o £3000/MW â chyswllt i’r Mynegai Prisiau Manwerthu o fis Ebrill 2019.

Daeth Brenig Wind Limited yn weithredol at 30ain Mawrth 2019 ac mae’r gronfa flynyddol yn dechrau ar oddeutu £4055/MW, sy’n gyfwerth â £152,468 y flwyddyn am hyd at 25 mlynedd.  Mae’r gronfa’n cael ei dosbarthu i gymunedau a chyrff lleol at ddibenion amgylcheddol, economaidd gymdeithasol ac addysgol.  Mae’r gronfa wedi bod ar gael i gymunedau ers Hydref 2019.

i wneud cais

I wneud cais i ddod yn aelod o’r panel, bydd gofyn i chi ddarparu llythyr eglurhaol yn nodi sut rydych chi’n cwrdd â gofynion yn y Fanyleb Person Panel (cliciwch yma).

Gellir dod o hyd i’r fanyleb person wedi ei hatodi.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 19eg o Awst 2021.  

Dylid anfon ceisiadau at brenig@cadwynclwyd.co.uk

dogfennau ychwanegol

Ardal Budd

Manylion y Grant

Adroddiad Blynyddol 2020

Am ragor o wybodaeth

Cysylltwch â brenig@cadwynclwyd.co.uk neu am sgwrs anffurfiol cysylltwch ar 01490 340508.