y broses

SUT RYDYM NI'N GWNEUD PENDERFYNIADAU

underline

Fel Cwmni, rydym yn annibynnol gyda strwythur llywodraethu clir a rheolaeth ariannol gadarn ac yn addasadwy i ddiwallu anghenion cyllidywr a chleientiaid.

Mae ein strwythur wedi’i sefydlu i;

  • Gweithredu rhaglenni a phrosiectau datblygu cymunedol ac economaidd
  • Bidio am gontractau masnachol
  • Gweinyddu grantiau ar ran ein sefydliadau contractio
  • Rheoli a gweithredu prosiectau sydd o fudd i’r gymuned a’r economi leol
  • Meithrin, cefnogi a galluogi datblygiad economaidd a arweinir gan y gymuned leol.

 

Mae ein strwythur gwneud penderfyniadau yn cynnwys yr elfennau canlynol:

Bwrdd y Cyfarwyddwyr – mae gennym 7 Cyfarwyddwr gwirfoddol sydd â sgiliau a phrofiad o ddatblygu cymunedol, datblygu economaidd a busnes a menter. Daw’r Cyfarwyddwyr o’r sectorau cyhoeddus, preifat a chymunedol/gwirfoddol. Mae cyfarwyddwyr yn gyfrifol am lywodraethu’r cwmni a gwneud penderfyniadau strategol.

Paneli Prosiect – mae gennym Baneli Prosiect sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau ar grantiau a chronfeydd allweddol o fewn y cwmni. Mae gan bob Panel gylch gorchwyl clir ac mae ganddynt aelodau o Cadwyn Clwyd a rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol.

Swyddogion Prosiect a Staff Gweinyddol – mae gennym swyddogion prosiect a staff gweinyddol sy’n gyfrofol am redeg y cwmni o ddydd i ddydd a’i bortffolio o brosiectau a rhaglenni.