communitylines
Cronfa Ffyniant Gyffredin

Cymunedau Ffyniannus Sir y Fflint Cronfa Allweddol

underline

Bydd cyfleoedd ariannu newydd yn cael eu lansio cyn bo hir. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhoi ar ein gwefan – cadw’ch lygaid allan am ddiweddariadau.

Yn darparu cefnogaeth i leoliadau/cyfleusterau/mannau/grwpiau a arweinir gan y gymuned a/neu sy’n eiddio i’r gymuned i ddatblygu, cryfhau a gwella seilwaith cymunedol a phrosiect cymunedol. Mae’r gronfa’n darparu swyddogaeth cymorth cofleidiol i grwpiau cymunedol gael mynediad at Gronfa Allweddol Gymunedol. Mae’r prosiect hefyd yn cynnig cymorth ac arweiniad swyddogion.

Y Nod:

  • Lledaenu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig yn y mannau hynny lle maent are u gwannaf.
  • Adfer ymdeimlad o gymuned, balchder lleol a perthyn, yn enwedig yn y mannau hynny lle maent wedi’u colli.
  • Grymuso arweinwyr a chymunedau lleol, yn enwedig yn y mannau hynny sydd heb asiantaeth leol.

Yr Amcanion:

  • Cryfhau ein gwead cymdeithasol a meithrin ymdeimlad o falchder a pherthyn lleol, trwy fuddsoddi mewn gweithgareddau sy’n gwella cysylltiadau ffisegol, diwylliannol a chymdeithasol a mynediad i amwynderau, er enghraifft seilwaith cymunedol a mannau gwyrdd lleol, a phrosiectau a arweinir gan y gymuned.
  • Adeiladu cymdogaethau gwydn, iach a diogel, trwy fuddsoddi mewn lleoedd o safon y mae pobl eisiau byw, gweithio, chwarae a dysgu ynddynt, trwy welliannau wedi’u targedu i’r amgylchedd adeiledig a naturiol dulliau arloesol o atal trosedd.

Pwy all Ymgeisio:

Gall y mathau canlynol o sefydliadau wneud cais am arian sy’n darparu neu’n ceisio darparu mynediad at wasanaethau a arweinir gan y gymuned a seilwaith cymunedol ar gyfer cymunedau ledled Sir y Fflint:

  • Grwpiau gwirfoddol a chymunedol
  • Cynghorau Cymuned / Cynghorau Tref
  • Elusennau Cofrestredig
  • Mentrau cymdeithasol, gan gynnwys cwmnïau cyfyngedig drwy warantau, CIC’s ac Ymddiriedolaethau Datblygu, ar yr amod eu bod yn gweithredu ar sail nid er elw (gan gynnwys undebau credyd)
  • Cwmnïau Cydweithredol

 

Gall cynigion prosiect gael eu gwneud gan gonsortiwm o grwpiau, ond lle mae hyn yn wir, dylid nodi partner arweiniol yn Ffurflen Cynnig y Prosiect. Ni all unigolion gynnig prosiectau i’r Gronfa Allweddol.

 

Rhaid i bob ymgeisydd gael cyfansoddiad a chyfrif banc o leiaf.

Beth Sydd Ar Gael:

Gellir ymgeisio hyd at £5,000 – Cymorth Ariannol Cyn Datblygu Prosiect – REFENIW:

Er mwyn cefnogi’r cymunedau i fwrw iddi i sefydlu a gweithredu prosiectau a byddai’n ariannu

  • astudiaethau dichonoldeb (e.e. ar gyfer mentrau cymunedol newydd megis trosglwyddo asedau neu adeiladau cymunedol (estyniadau neu adeiladu o’r newydd),
  • ymgynghoriaeth arbenigol (e.e. costau pensaer a thirfesurydd).

 Gellir ymgeisio hyd at £35,000 – Cronfa Allweddol Gymunedol – CYFALAF:

Grant cronfa allweddol cyfalaf er mwyn cefnogi prosiectau cymunedol sydd yn:

  • darparu mannau cymunedol, megis neuaddau pentref, mannau gwyrdd neu ganolfannau cymunedol er mwyn i gymdeithas sifil leol a grwpiau cymunedol eu defnyddio;
  • hwyluso cynhyrchu ynni adnewyddadwy a rheoli gwastraff mewn dwylo lleol er mwyn gwella’r gwaith pontio i fyw bywydau carbon isel;
  • creu a gwella mannau gwyrdd lleol yn y gymuned, gerddi cymunedol, dyfrffosydd a chloddiau, ynghyd ag ymgorffori nodweddion naturiol a gwelliannau i fioamrywiaeth mewn mannau cymunedol ehangach;
  • cyflawni a chefnogi gweithgareddau celfyddydau, diwylliannol, treftadaeth a chreadigol lleol sydd o dan ofal y gymuned;
  • cynnig modd i bobl fanteisio ar wasanaethau drwy gyfleusterau chwaraeon lleol;
  • cynnig seilwaith digidol mewn asedau a chyfleusterau sy’n eiddo i’r gymuned.

 

Mae rhestr o brosiectau sydd wedi’w cymeradwyo ar gael drwy ddilyn y linc yma: Prosiectau wedi’w Cymeradwyo. 

 

Sut i wneud cais:

Ceir manylion llawn Cronfa Allweddol Cymunedau Ffyniannus Sir y Fflint yn y NODIADAU CYFARWYDDYD.

I gwblhau Ffurflen Gais cliciwch yma > FFURFLEN GAIS

DYDDIAD CAU AM GEISIADAU DYDD SUN 15eg MEHEFIN 2025

Os hoffech drafod eich syniadau, cysylltwch â:

Cadwyn Clwyd ar 01490 340500 neu FLVC ar 01352 744000