Dysgwch amdanom ni

Amdanom Ni

underline

Mae Cadwyn Clwyd Cyfyngiedig yn fenter gymdeithasol sy’n rhoi arweiniad a chefnogaeth i gymunedau a mentrau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a thu hwnt. Mae’r Cwmni’n canolbwyntio ar gamau gweithredu sy’n ysgogi cyfranogiad llawr gwlad, gweithio mewn partneriaith ac arloesi i gefnogi prosiectau economaidd-gymdeithasol ar gyfer cymunedau a mentrau sy’n gweithredu ar lefel leol. Mae’n gweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau lleol a mentrau bach i gynorthwyo gyda datblygu a gweithredu prosiectau sydd o fudd i economi leol yr ardal.

Mae gan y Cwmni a’i staff gyfoeth o brofiad blaenorol o gyflwyno rhaglenni datblygu gwledig, cymunedol ac economaidd o fewn y sectorau Arallgyfeirio Amaethyddiaeth, Bwyd-Amaeth a Bwydydd Arbennigol, Cynlluniau Amgylcheddol, Cymorth Busnes, Twristiaeth Diwylliannol, Twristiaeth Werdd, Prosiectau Treftadaeth a Chadwraeth, Datblygiad Mentrau Cymdeithasol, Datblygiad Cymunedol, Meithrin Gallu Cymunedol a Mynediad i Wasanaethau.

Mae’r Cwmni ar hyn o bryd yn darparu prosiectau a ariennir gan Lywodraeth y DU yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam ac mae’n ymwneud â chefnogi cymunedau a mentrau o fewn y meysydd canlynol:

Darganfod

Ein Cefndir

underline

Asiantaeth Datblygiad Gwledig yw Cadwyn Clwyd Cyfyngiedig, sy’n darparu arweiniad a chymorth i ddatblygu ac arallgyfeirio a chymorth i ddatblygu ac arallgyfeirio’r economi leol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a thu hwnt trwy gronfeydd Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, yr Undeb Ewropeaidd, y Sector Cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector preifat. Sefydlwyd y Cwmni yn 2001 gyda’i brif weithgareddau presennol yn canolbwytio ar Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam a Chonwy (Brenig) ynghyd â phrosiectau Cymru gyfan. Roedd ei ragflaenydd, Cadwyn LEADER II Cyfyngiedig yn weithredol rhwng 1994 a 2002 ac yn gweithredu yng Nghonwy, Sir Ddinbych a Wrecsam. Rydym yn Gwmni Cyfyngiedig trwy Warant nid-er-elw. Rydym wedi ein cyfansoddi i weithredu a chyflwyno rhaglenni er budd cymunedau yng Nghymru.

Ein nod cyffredinol fel cwmni yw meithrin a galluogi datblygiad economaidd-gymdeithasol a arweinir gan y gymuned er budd cymunedau Gogledd Cymru a thu hwnt.

Amcanion y Cwmni yw:

  • Cefnogi a galluogi gweithredoedd sy’n ysgogi cyfranogiad llawr gwlad/cymunedol.
  • Cefnogi a galluogi gweithio mewn partneriaeth rhwng rhanddeiliaid a’r gymuned leol.
  • Cynorthwyo a galluogi cymunedau i ddatblygu a gweithredu atebion arloesol i gyfleoedd, heriau a phroblemau sy’n gwynebu cymunedau a mentrau bach a chanolig.
  • Gweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau lleol i gynorthwyo i sicrhau cyllid i alluogi datblygu a gweithredu prosiectau sydd o fudd i economi leol a llês cymunedol yr ardal.
  • Cynnal cymunedau trwy’r broses rheoli prosiect o feithrin gallu, sicrhau cyllid, rheoli caffael nwyddau a gwasanaethau, gweithredu’r prosiect, cyhoeddusrwydd a chyfathrebu, a monitro a gwerthuso.
  • Darparu cymorth ymarferol i gymunedau wneud y mwayaf o gyfleoedd ariannu trwy dargedu amrywiaeth o gyllidwyr a grantiau sydd ar gael.
  • Gweithredu fel sianel rhwng rhanddeiliaid fel Llywodraeth Cymru, Cyfoedd Naturiol Cymru, Awdurdodau Lleol a grwpiau sector cymunedau/llawr gwlad i lywio a bwydo i mewn i feysydd polisi a blaenoriaeth ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Ers 1994 rydym wedi gweithio gyda chymunedau i gyflenwi dros £30 miliwn mewn prosiectau, grantiau a chymorth i ddatblygiad cymunedol ac economaidd-gymdeithasol yn ein hardal weithredol a ledled Cymru. Rydym yn annibynnol gyda strwythur llwyodraethau clir, rheolaeth ariannol gadarn ac yn hyblyg i ddiwallu anghenion cyllidwyr a chleientiaid.

Ein cryfderau allweddol:

  • Mae gennym wybodaeth ymarferol am gymunedau, yr ardal ddaearyddol a’r materion a’r heriau sy’n wynebu cymunedau ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru.
  • Mae gennym gysylltiadau cryf gyda chymunedau.
  • Mae gennym hanes cadaran o weithio ar draws pob sector o’r gymuned i gynnwys mynediad i wasanaethau, datblygu cymunedol, twristiaeth, treftadaeth a diwylliant, yr amgylchedd, ynni adnewyddadwy cymunedol, amaethyddiaeth, bwyd a diod, amaeth-amgylchedd, cynnyrch lleol, datblygu busnes, menter ac entreupreneuriaeth, datblygu economaidd.
  • Mae gennym reolaeth gadarn a thryloyw o grantiau a hanes cadarn o ddarparu arian grant.
  • Rydym yn hyblyg yn ein hymagwedd wrth alluogi cymunedau i gyflawni eu prosiectau.
  • Mae gennym hanes cadarn o ymgysylltu a gweithio gyda grwpiau cymunedol.
  • Hanes amlwg o waith partneriaeth gyda rhanddeiliaid, cyllidwyr a’r gymuned.

darparu arweiniad a chymorth

divider
Cysylltwch â ni

Cysylltu â Cadwyn Clwyd

underline

Cysylltwch â Cadwyn Clwyd trwy lenwi’r ffurflen isod a bydd un o’r tîm yn cysylltu â chi.

E-bost: admin@cadwynclwyd.co.uk