Cefnogi gwelliannau i ble mae bobl yn byw, gweithio a chwarae ynddynt drwy ffocysu ar adferiad ôl-Covid a thwf gwyrdd ar lefel cymunedol...

Cymunedau Gwyrdd

underline

Mae’r Prosiect Cymunedau Gwyrdd nawr wedi cau. 

Bwriad Cymunedau Gwyrdd oedd dod a phobl a natur at eu gilydd, er lles yr amgylchedd a chymunedau; galluogi cymunedau i drawsnewid eu hardal lleol a’i gwneud yn lefydd deiniadol i fyw, gweithio a chwarae ynddynt; cynyddu cyfleoedd i wirfoddoli yn lleol a bod allan yn yr awyr agored a chryfhau cysylltedd drwy greu cyfleoedd i fywyd gwyllt ffynu ar yr un pryd.

Roedd prosiect Cymunedau Gwyrdd yn cael ei ariannu dwy gronfa Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW) Llywodraeth Cymru. Roedd yn ofynnol i’r prosiectau/mentrau integreiddio egwyddorion Rheolaeth Gynaliadwy o Adnoddau Naturiol (SMNR) i fewn i weithgareddau ac isadeiledd cymunedol.

Roedd Cymunedau Gwyrdd yn cynnig hyd at £30,000 i 30 o gymunedau gwledig yn Siroedd Dinbych, Conwy, Fflint a Wrecsam i gymryd rhan yn y prosiect, a fydd yn cael eu dewis drwy broses galwad agored.

Rhai enghreifftiau o brosiectau cymwys yw:
  • Gerddi cymunedol, rhandiroedd a pherllannau, coedlannau, mynwentydd, afonydd a phyllau lleol
  • Ardaloedd bywyd gwyllt a gwarchodfeydd natur
  • Milltiroedd cymunedol i gysylltu cymunedau a thrafnidiaeth werdd gan gynnwys rhwydweithiau beicio a mannau gwefru
  • Llwybrau cerdded, trofeydd trefol a chylchdeithiau o amgylch pentrefi

Mae rhestr o’r prosiectau sydd yn cael eu cefnogi gan Cymunedau Gwyrdd i’w weld yma.

Dyma fideo byr o’r Swyddog Rheoli, Haf Roberts, yn cyflwyno prosiect Cymunedau gwyrdd:

Cymunedau Gwyrdd

NEWYDDION A ASTUDIAETHAU ACHOS

underline
05 July 2023

Pentref Clawddnewydd gyda pwll i fod yn falch ohono unwaith eto

Mae pwll sych a fu unwaith yn fan dyfrio pwysig i dda byw a oedd yn teithio ar ffordd hynafol y porthmyn wedi’i adfer i’w hen ogoniant. Mae’r pwll yng Nghlawddnewydd yn sefyll ochr yn ochr â thafarn y pentref, y Glan Llyn, ac unwaith eto mae dŵr yn taro ar ei ymylon diolch i… Read More…

21 June 2023

Tir o amgylch neuadd aberduna wedi’i ail-bwrpasu i wneud lle ar gyfer eco-adfywio…

Mae coetir rhyfeddol â grewyd gan gynweithiwr cymdeithasol yn trawsnewid bywydau yn ogystal â chefn gwlad ar ffiniau Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Syniad Lucy Powell yw Outside Lives, ac gyda’i thîm o bron i 200 o wirfoddolwyr yn troi’r tir o amgylch Neuadd Aberduna, ger Maeshafn, yn faes breuddwydion ecogyfeillgar. Mae’r prosiect yn… Read More…

26 June 2023

Neuadd bentref yn troi at egni adnewyddadwy gyda chymorth Cadwyn Clwyd

Mae neuadd bentref yn Nyffryn Clwyd wedi symud yn nes at gyrraedd targed sero net – gan ei wneud yn un o’r adeiladau cyhoeddus mwyaf carbon niwtral yng Nghymru. Mae neuadd bentref Llanbedr Dyffryn Clwyd newydd gael ei addasiadau ynni adnewyddadwy diweddaraf drwy gronfa Cymunedau Gwyrdd, sy’n cael ei weinyddu gan Asiantaeth Datblygiad Gwledig, Cadwyn… Read More…

04 May 2022

PROSIECTAU GARDDIO CYMUNEDOL GOGLEDD CYMRU YN BUDDIO

Mae’r Gronfa’n darparu arian i roi hwb i gynaliadwyedd ar draws y rhanbarth ac mae’n cael ei weinyddu gan asiantaeth datblygu gwledig Cadwyn Clwyd. Mae’r rhaglen sy’n cefnogi’r prosiect, sef Rhaglen Datblygu Gwledig Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, yn cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD), a Llywodraeth Cymru. Mae’r gronfa… Read More…

22 October 2021

Cymunedau gwledig i rannu cronfa gwerth £ 1.3 miliwn ar gyfer prosiectau gwyrdd

Mae trefi a phentrefi ledled Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael eu heirio i lunio prosiectau gwyrdd arloesol er mwyn ennill darn o gronfa gwerth £1.3 miliwn gyda’r nod o hybu’r amgylchedd leol. Nod y gronfa Cymunedau Gwyrdd yw i ddarparu cefnogaeth i brosiectau cynaliadwy a arweinir gan gymunedau. Bydd y gronfa’n cael ei lansio’r mis… Read More…