Mae Rownd 4 Cronfa Budd Cymunedol Brenig Wind Ltd ar agor. Dyddiad Cau ar gyfer derbyn ceisiadau ydi 1af o Fawrth 2021.
Byddwn yn cynnal Sesiynau Galw i Mewn Rhithiol dros Zoom ar Ddydd Iau 18fed Chwefror 2021 i gynnig cyngor ac arweiniad ar y broses ymgeisio. I archebu’ch lle, cysylltwch â Helen Williams ar 01490 340508 neu brenig@cadwynclwyd.co.uk
Ffurflen gais ar gyfer prosiectau llai na £10,000
Ffurflen gais ar gyfer prosiectau dros £10,000
Dychwelwch y ffurflen gais a dogfennau ychwanegol i brenig@cadwynclwyd.co.uk. Dylid dychwelyd y ffurflen gais hon mewn Word, yn electronig ac mewn fformat wedi’i theipio, ni dderbynnir ffurflenni wedi’u hysgrifennu â llaw. Peidiwch â throsi’r ffurflen i PDF gan ei bod yn drysu’r fformatio.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gronfa neu’r broses ymgeisio, ebostwich brenig@cadwynclwyd.co.uk neu cysylltwch â 01490 340500 os gwelwch yn dda
Mae cymorth ychwanegol ar gael i gymunedau ddatblygu a gweithredu prosiectau gan swyddogion yr awdurdodau lleol. Cysylltwch â:
Fran Rhodes: Swyddog Datblygu Cymunedol, Cyngor Sir Ddinbych
t: 01824 712968
e: fran.rhodes@denbighshire.gov.uk
Ela Williams: Swyddog Cymuned, Diwylliant a Threftadaeth, Bwrdeistref Sirol Conwy
t: 01492 576674
Heddiw (4 o Chwefror) mae cynllun newydd, Nerth Dy Ben, a sefydlwyd gan chwe ffrind, yn lansio sengl a gwefan newydd sy’n rhannu syniadau ac ysbrydoliaeth am gryfder meddwl yng nghefn gwlad Cymru. Pwrpas Nerth Dy Ben, prosiect a redir gan wirfoddolwyr, yw rhoi llwyfan i unigolion rannu profiadau positif, yn y Gymraeg, am fyw… Read More…
Mae tîm o wirfoddolwyr sy’n achub bywydau, sydd wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â pharafeddygon Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn ystod yr argyfwng coronafeirws yn dathlu hwb ariannol wedi’i bweru gan wynt, sy’n werth mwy na £3,000 i dalu am offer brys newydd. Mae Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol Dinbych, sydd fel arfer yn rhoi o’u… Read More…
Mae menter bentref fywiog sy’n cludo bwyd a diod i bobl ynysig ac agored i niwed yn ardal orllewinol Sir Ddinbych wledig yn ystod y pandemig Covid-19 wedi derbyn mwy na £20,000 i roi hwb i’w gwasanaethau. Mae gan Glawddnewydd, pentref rhwng Rhuthun a Cherrigydrudion siop a thafarn, y Glan Llyn, sy’n cael ei rhedeg… Read More…
Mae cronfa grant cymunedol fferm wynt o bron i £4 miliwn dros 25 mlynedd bellach ar gael i gymunedau o amgylch safle Brenig Wind Ltd i ddechrau elwa ohoni. Daw’r fferm wynt sy’n eiddo i Brenig Wind Limited yn weithredol ym mis Mawrth 2019 ac mae ganddo 16 tyrbin yr un o 2.35MW, gan roi… Read More…
Mae Brenig Wind Ltd yn falch o gyhoeddi bod y 22 grwp canlynol wedi cael cynnig ac wedi derbyn Grant Cronfa Gymunedol Brenig Wind Ltd (rownd 2: Chwefro – Mawrth 2020) Ymgeisydd: Sioe Cyffylliog a Bontychel Disgrifiad: Offer – Trelar blwch 10′ gyda ramp, System PA Symudol a 2 Gazeboo Swm y grant: £3,634.86 Ymgeisydd: … Read More…
Mae Brenig Wind Ltd yn falch o gyhoeddi bod y 14 grwp canlynol wedi cael cynnig ac wedi derbyn Grant Cronfa Gymunedol Brenig Wind Ltd (rownd 1: Hydref – Rhagfyr 2020) Ymgeisydd: Cyfeillion Ysgol Carreg Emlyn, Clocaenog (clwb ar ôl ysgol) Disgrifiad: 15 iPad ar gyfer clwb ar ôl ysgol a grwpiau cymunedol yn… Read More…
Mae Brenig Wind Ltd yn falch o gyhoeddi bod y 11 grwp canlynol wedi cael cynnig Grant Cronfa Gymunedol Brenig Wind Ltd (rownd 3: Awst 2020) Ymgeisydd: Canolfan Uwchaled Disgrifiad: Adnewyddu bar coffi a storfa cegin Swm y grant: £9,587.29 Ymgeisydd: Clocaenog Playground Project Disgrifiad: Ail osod offer chwarae sydd wedi difrodi Swm y grant: £8,935.22 Ymgeisydd:… Read More…