Cefnogir Cronfa Allweddol Pobl a Sgiliau Sir Ddinbych gan Gyngor Sir Ddinbych ac fe’i hariannwyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) darparu cefnogaeth i gyflogaeth

Cronfa Allweddol Pobl a Sgiliau Sir Ddinbych

underline

Bydd y Gronfa Allweddol hon yn ategu nod Sir Ddinbych i gynorthwyo gyda darparu cymorth cyflogadwyedd o safon

Bydd y Gronfa Allweddol hefyd yn ategu amcanion blaenoriaeth Pobl a Sgiliau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sef:

  • Hybu sgiliau craidd a chefnogi oedolion i wneud cynnydd yn eu gwaith, drwy dargedu oedolion naill ai heb gymwysterau neu sgiliau neu â chymwysterau a sgiliau mathemateg lefel isel, ac uwchsgilio’r boblogaeth sy’n gweithio, gan greu effaith economaidd bersonol a chymdeithasol, a drwy annog dulliau arloesol o leihau’r rhwystrau sy’n atal oedolion rhag dysgu.
  • Lleihau’r lefelau o anweithgarwch economaidd drwy fuddsoddi mewn cymorth bywyd a gwaith dwys a phwrpasol sydd wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion yr ardal. Dylai’r buddsoddiad hwyluso cydgysylltu darpariaeth prif ffrwd a gwasanaethau lleol mewn ardal ar gyfer y rhai sy’n cymryd rhan, drwy fanteisio ar gymorth gweithwyr allweddol un-i-un, gan wella’r deilliannau o ran gwaith i garfannau penodol sy’n wynebu rhwystrau i’r farchnad lafur.
  • Cynorthwyo’r rheiny sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur i oresgyn rhwystrau rhag dod o hyd i waith drwy ddarparu cymorth hollgynhwysol wedi’i deilwra’n lleol, gan gynnwys modd iddyn nhw ddatblygu sgiliau sylfaenol.
  • Cynorthwyo ardaloedd lleol i ariannu diffygion o ran y ddarpariaeth sgiliau lleol i gefnogi pobl i wneud cynnydd yn eu gwaith, ac ychwanegu at y ddarpariaeth sgiliau oedolion lleol e.e. drwy ddarparu cymorth ychwanegol; cyflawni darpariaeth drwy ystod fwy eang o ffyrdd neu gynnal darpariaeth fwy dwys / arloesol, yn seiliedig ar gymwysterau a heb fod yn seiliedig ar gymwysterau.

gan gynnwys addysg a hyfforddiant sy’n fodd i bobl o bob oedran gyflawni hyd eithaf eu gallu, yn bersonol ac yn broffesiynol.

Gallai’r Gronfa Allweddol ariannu hyd at 100% o’r costau cymwys. Gan ddwyn i ystyriaeth y raddfa amser gymharol fyr o ran darparu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mae cyllid cyfatebol yn ddewisol h.y. nid yw’n orfodol. Bydd y Gronfa Allweddol yn caniatáu cymaint o hyblygrwydd â phosibl o ran gwerth y grant y gofynnir amdano.

Pwy allai ymgeisio?

Gall y mathau canlynol o fudiadau ymgeisio am gyllid, fodd bynnag, mae’n rhaid i bob ymgeisydd fod â hanes o weithredu yn Sir Ddinbych:

Mudiadau gwirfoddol neu elusennol cyfansoddiadol

  • Elusennau cofrestredig
  • Grwpiau neu glybiau cyfansoddiadol
  • Cwmnïau nid-er-elw neu Gwmnïau Buddiant Cymunedol (mentrau   cymdeithasol)

Gall consortiwm o fudiadau gyflwyno cais. Fodd bynnag, mewn achos o’r fath, bydd angen nodi partner arweiniol yng Nghynnig / Ffurflen Gais y Prosiect.

Nid oes hawl gan Gwmnïau Masnachol neu Unigolion gynnig prosiectau i’r Gronfa Allweddol.

Mae’n rhaid i bob ymgeisydd feddu ar gyfansoddiad a chyfrif banc o leiaf.

  • Ysgolion (ar yr amod bod eich prosiect yn ymwneud gydag ac yn  fanteisiol i’r gymuned leol)
  • Corff statudol (gan gynnwys cyngor tref, plwyf a chymuned)
  • Cyrff sector cyhoeddus

Sut I ymgeisio?

Gallwch weld manylion llawn y Gronfa Pobl a Sgiliau yn y Nodiadau Canllaw.

Mae’r ffenestr ar gyfer ceisiadau bellach ar gau.

Mae’r sefydliadau, prosiectau a swm y cyllid a sicrhawyd o’r gronfa hon wedi’u rhestru yma: Prosiectau Cronfa Allweddol Pobl a Sgiliau Sir Ddinbych.

 

 

I wybod mwy, cysylltwch gyda Dawn Johnson ar Cadwyn Clwyd:

admin@cadwynclwyd.co.uk

01490 340500