Lawnsio Cronfa Newydd

Budd Cymunedol Brenig Wind Ltd

underline

Mae cronfa grant cymunedol fferm wynt o bron i £4 miliwn dros 25 mlynedd bellach ar gael i gymunedau o amgylch safle Brenig Wind Ltd i ddechrau elwa ohoni. Daw’r fferm wynt sy’n eiddo i Brenig Wind Limited yn weithredol ym mis Mawrth 2019 ac mae ganddo 16 tyrbin yr un o 2.35MW, gan roi cyfanswm capasiti gosodedig o 37.6MW – digon i bweru dros 6000 o gartrefi bob blwyddyn.

Mae Cadwyn Clwyd wedi’i gomisiynu gan Brenig Wind Limited i sefydlu a gweinyddu’r Gronfa Budd Cymunedol ar gyfer y fferm wynt. Pwrpas y gronfa gymunedol yw darparu buddion i’r cymunedau sy’n nalgylch y fferm wynt.

Esboniodd Lowri Owain, Rheolwraig Cwmni Cadwyn Clwyd,

“Bydd y gronfa’n darparu tua £150,000 bob blwyddyn sydd yn dilyn y Mynegai Index dros 25 mlynedd ar gyfer cymunedau yn Sir Ddinbych a Chonwy o fewn 15km i safle Brenig. Mi wnaethom ymgynghori â’r gymuned leol ddiwedd y llynedd i glywed eu syniadau ar sut y dylid gwario’r gronfa a pha feysydd ddylai elwa o’r gronfa, ac yna mi ddatblygwyd meini prawf grant yn seiliedig ar farn y cymunedau”

“Mae’r gronfa a lansiwyd yr wythnos hon yn hyblyg a gall gefnogi prosiectau fel trafnidiaeth gymunedol, mynediad at wasanaethau, cefnogaeth ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol cymunedol, cynhwysiant digidol fel band eang, datblygu a chefnogi mentrau cymdeithasol er enghraifft siop gymunedol neu dafarn gymunedol, prosiectau twristiaeth a arweinir gan y gymuned, clybiau chwaraeon a gweithgareddau hamdden ac ati. Fe fydd grant bach o hyd at £10,000 a grant mwy o £10,000 i £ 50,000” ychwanegodd.

Mae Fferm Wynt Brenig yn rhan o ardal ehangach yng Nghoedwig Clocaenog lle mae tyrbinau gwynt yn cael eu gosod, y mae pob un ohonynt yn mynd i dodd a chronfa budd i’r gymuned. Cadeirydd Grŵp Llywio Prosiect Hiraethog yw Cynghorydd Sir Sir Ddinbych Eryl Williams, o Clawddnewydd, a ddywedodd: “Mae’n gyfle enfawr i gymunedau’r ardal, a bydd panel grantiau o gynrychiolwyr o’r ardal leol yn gwneud penderfyniadau ar y grantiau i’r gymuned. Mae angen i ddarpar ymgeiswyr a grwpiau cymunedol fod yn barod i feddwl allan o’r bocs a meddwl yn ehangach ac edrych ar gyfleoedd i weithio gyda’i gilydd ar brosiectau cyffredin gyda grwpiau a sefydliadau eraill yn yr ardal.”

sesiwn galw heibio

Maent wedi sefydlu dwy sesiwn galw heibio i’r gymuned ddod i drafod eu syniadau a cheisiadau grant posibl.

Mae’r rhain yng Nghanolfan Ymwelwyr Llyn Brenig, Llyn Brenig, Cerrigydrudion, LL21 9TT ar:

Dydd Mercher 25 Medi rhwng 3pm a 5.45pm a dydd Mercher 16eg Hydref rhwng 3pm a 5.45pm. Dylid anfon ceisiadau grant wedi’u cwblhau at brenig@cadwynclwyd.co.uk erbyn y dyddiad cau, sef dydd Llun 11eg Tachwedd 2019.

 

Mae cefnogaeth ychwanegol i gymunedau ddatblygu a gweithredu prosiectau ar gael gan Swyddogion Awdurdod Lleol. Cysylltwch â:

Fran Rhodes – Sir Ddinbych CC – Swyddog Datblygu Cymunedol ar 01824 712968 neu fran.rhodes@denbighshire.gov.uk

neu

Ela Williams – CBS Conwy – Swyddog Cymuned, Diwylliant a Threftadaeth ar 01492 576674 neu ela.williams@conwy.gov.uk