ar gyfer tymor yr haf

Lansio mapiau ymwelwyr a theithiau newydd

underline

Cyn gwyliau prysur yr haf, mae Partneriaeth Twristiaeth Dyma Wrecsam wedi lansio cyfres o fapiau a theithlenni newydd i ymwelwyr sy’n ceisio annog twristiaid i ymweld â mwy o ardaloedd yn y Fwrdeistref Sirol.

Yn dilyn cyfres o weithdai ar gyfer y diwydiant twristiaeth lleol yn y Gwanwyn, mae tair ar ddeg o deithlenni newydd wedi’u datblygu sy’n arddangos rhai o’r lleoedd mwyaf poblogaidd a’r lleoedd llai hysbys i ymweld â nhw, i fwyta ac i aros ynddynt yn Wrecsam.  Mae’r teithlenni hyn yn amrywio o ddyddiau allan i’r teulu, lleoedd sy’n croesawu cŵn, anturiaethau yn ymwneud â bwyd ac ymweliadau deuddydd ar gyfer y rhai sy’n hoff o antur.

Diolch i gyllid a gafwyd drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru a’u ffioedd aelodaeth eu hunain, mae’r bartneriaeth twristiaeth wedi llwyddo i gynnal gweithdai gyda’r diwydiant, argraffu’r teithlenni a mapiau a fydd ar gael yn y mwyafrif o gyrchfannau twristiaeth lleol a chomisiynu grŵp o flogwyr poblogaidd i nodi‘r teithlenni ymhellach yr haf hwn.

Mae twristiaeth yn parhau i ffynnu yn Sir Wrecsam ac yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn bennaf gan eu bod yn agos at Ogledd Orllewin Lloegr ar gyfer rhai sy’n dod ar deithiau dydd a rhai sy’n dymuno dianc am benwythnos, gyda data’n dangos bron i 40% o dwf mewn twristiaeth yn y blynyddoedd diwethaf.

Dywedodd Cadeirydd Partneriaeth Dyma Wrecsam, Sam Regan:  

“Er ein bod yn yr oes ddigidol yn awr, drwy weithio gyda’r diwydiant rydym yn gwybod bod galw am fapiau wedi’u hargraffu’n parhau ac mae’r prosiect hwn wedi derbyn cefnogaeth gan fusnesau twristiaeth lleol ac mae gennym gynnyrch gwych i ddenu mwy o ymwelwyr dros yr haf a’r hydref.   Mae’r teithlenni yn cynnwys nifer o fusnesau ac atyniadau twristiaeth ar draws Sir Wrecsam a chawsant eu datblygu gyda’r diwydiant a myfyrwyr teithio a thwristiaeth o Goleg Cambria mewn tri gweithdy gwych yn gynharach eleni”.

Ychwanegodd hwylusydd y gweithdai a Llysgennad Twristiaeth Gogledd Cymru, Tansy Rogerson:  

“Roedd hwyluso’r gweithdai yn bleser pur ac yn atgyfnerthu brwdfrydedd y rhai sy’n gweithio yn y diwydiant tuag at y cynnig twristiaeth yma yn Sir Wrecsam.   Mae twristiaeth ar draws y rhanbarth yn ffynnu a Gogledd Cymru yw prif ardal antur Ewrop – felly mae Sir Wrecsam mewn lleoliad da i elwa o fwy o ymwelwyr yn awr gan fod rhywbeth i bawb yn y teithlenni hyn!”  

Ble i gael y map:

I’w gweld – mae’r teithlenni a chopïau digidol o’r map ar gael ar www.thisiswrexham.co.uk/inspireme a dilynwch @ThisIsWrexham ar gyfryngau cymdeithasol dros yr haf i weld yr anturiaethau sydd ar gael!