COVID-19

yn darparu arian LEADER ar gyfer cymorth rheng flaen

underline

Covid 19 – Cadwyn Clwyd a Grwpiau Gweithredu Lleol yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam yn darparu arian LEADER ar gyfer cymorth rheng flaen.

Yn sgil ymateb chwin, sefydlwyd prosiect cydweithredol wedi’i ariannu gan LEADER ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru wledig ac fe gafodd ei lansio 24ain o Fawrth.  Mae’r prosiect yn helpu grwpiau cymunedol i ddatblygu a threialu ffyrdd newydd o ddarparu cymorth cymunedol rheng flaen.  Hyd yma, mae prosiect £54,000 yn cefnogi 14 o grwpiau cymunedol ac mae 3 arall ar y gweill.   Manylion pellach am brosiectau unigol a’u heffaith yn y gymuned leol i ddilyn ar gyfryngau cymdeithasol a diweddariadau ar y we gan Cadwyn Clwyd.

South Denbighshire Community Partnership

(tynwyd y llun llynedd)

Mae’r cymorth a ddarperir gan Cadwyn Clwyd a Grŵp Gweithredu Lleol Sir Ddinbych wedi galluogi Partneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych i gynnig mwy o bersonél ac adnoddau i ddarparu cymorth rheng flaen i’r gymuned yn ystod pandemic Covid-19.

Mae’r prosiect yn darparu siopa am fwyd, casglu presgripsiynau, atebion cludiant, pryd ar glud, dosbarthu parseli bwyd a gwneud atgyfeiriadau i Gyngor ar Bopeth Sir Ddinbych. Mae’r prosiect wedi sefydlu system TGCh newydd i alluogi’r rhwydwaith o wirfoddolwyr i weithredu’n effeithiol.

HF Trust

Mae HF Trust yn elusen sy’n cefnogi pobl ag anableddau dysgu yng nghefn gwlad Sir y Fflint.  Mae’r pandemig Covid-19 presennol wedi creu her newydd i’r Ymddiriedolaeth a’r 275 o unigolion maent yn eu cefnogi yn wythnosol. Mae llawer o’u gwaith yn seiliedig ar gymorth wyneb yn wyneb ac yn dod ag unigolion at ei gilydd mewn lleoliad penodol.  Nid ydynt bellach yn gallu gwneud hynny oherwydd mesurau ymbellhau cymdeithasol ac er mwyn sicrhau diogelwch yr holl bobl y maent yn eu cynorthwyo a’u staff.  Mae’r rhaglen LEADER yn cefnogi’r Ymddiriedolaeth i dreialu methodoleg newydd ar gyfer cefnogi unigolion ag anableddau dysgu sy’n cael eu hynysu gan ddefnyddio technoleg fodern.  Mae’r prosiect peilot wedi prynu 14 o dabledi i’w benthyg i unigolion y nodir bod ganddynt yr anghenion mwyaf.

Bydd HF Trust yn paratoi’r tabledi hyn gydag amrywiaeth o apiau, er enghraifft Zoom/Skype, YouTube, Facebook, a fydd yn caniatáu i’r unigolion hyn, sydd mewn peryg o ddioddef o unigedd cymdeithasol, alw eu ffrindiau a’u teulu o fewn lleoliad diogel wedi’i ganoli gan staff HF Trust.  Bydd mynediad i’r tabledi hefyd yn galluogi unigolion i gynnal eu hiechyd a’u lles drwy gael mynediad i fideos/apps a gweithgareddau ar-lein fel dosbarthiadau coginio, ffitrwydd a gweithgareddau cymdeithasol (bingo/cwisiau).  Bydd HF Trust hefyd yn sefydlu canolfan ddydd rithwir ac yn cynnal gweithgareddau gyda staff sy’n gyfarwydd i’r bobl y maent yn eu cynorthwyo.

Given to Shine

Mae Cadwyn Clwyd yn falch o fod yn cefnogi Given to Shine CIC i dreialu ffyrdd newydd o ddarparu eu gwasanaethau yng nghefn gwlad Wrecsam. Mae Given to Shine yn dosbarthu cynhyrchion bwyd a hylendid i’r rhai mwyaf bregus ac sy’n hunan ynysu yn ardaloedd gwledig Wrecsam trwy rwydwaith o wirfoddolwyr sy’n yn darparu’r pecynnau hyn o ddrws i ddrws.

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Cadwyn Clwyd a’r Grŵp Gweithredu Lleol Wrecsam drwy LEADER ac mae’n gweithio gyda phartneriaid ledled y Sir i sicrhau bod cymaint o’r eitemau deillio o’r ardal leol ac yn gynaliadwy, drwy fwyd sydd dros ben gan archfarchnadoedd a chan siopau lleol, i’r teuluoedd hynny sydd â’r angen mwyaf.