Cyllid Argyfwng Coronavirus

Cefnogaeth ar gyfer Sefydliadau Gweithredu Cymunedol

underline

Mae gan y Grwpiau Gweithredu Lleol yn ardaloedd gwledig Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam fynediad at gyllid i gefnogi mentrau cymunedol, elusennau, grwpiau cymunedol ffurfiol a sefydliadau’r sector cyhoeddus yn ardaloedd gwledig y siroedd hynny i’w galluogi i addasu eu cefnogaeth gymunedol rheng flaen yng nghyd-destun y sefyllfa Coronafeirws presennol sydd yn newid yn barhaus. Mae’r arian yma ar gael drwy Cadwyn Clwyd.

 

  1. Beth gellir ei gefnogi?

Gall sefydliadau geisio am hyd at £3,000 ar gyfer costau cymeradwy i ddatblygu dulliau newydd o ddarparu cefnogaeth ar gyfer gwasanaethau sydd yn mynd i’r afael â’r canlynol:

  • Cefnogi gwirfoddolwyr i ddarparu gwasanaethau ymatebol – drwy gostau sefydlu ar gyfer rhwydweithiau gwirfoddoli newydd
  • Mynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol oherwydd yr angen i hunanynysu
  • Sicrhau bod nwyddau angenrheidiol yn cyrraedd pobl agored i niwed ac sydd wedi eu hynysu
  • Adeiladu gwydnwch cymunedol
  • Helpu pobl/sefydliadau i arallgyfeirio / datblygu sgiliau newydd neu wella sgiliau cyfredol
  • Prynu technoleg i gefnogi cyflenwi gwasanaethau mewn cyfnod o newid
  • Cynyddu mynediad at nwyddau a gwasanaethau ar gyfer y bobl hynny sydd eu hangen fwyaf – drwy gefnogaeth i ddatblygu gwirfoddolwyr
  • Gwella canlyniadau iechyd/lles ar gyfer grwpiau ar yr ymylon – er enghraifft drwy gefnogaeth ar gyfer gwasanaethau cyfeillio dros y teleffon.
  • Sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch i bawb – gan gyfathrebu drwy ystod o gyfryngau, ar-lein, mewn print, rhwydweithiau cymunedol ac ati.

Noder, ni all y gronfa gefnogi prynu bwydydd a darpariaeth dydd i ddydd i gartrefi. Fodd bynnag, gall ariannu Offer Amddiffynnol Personol ar gyfer y rhai sy’n gweithio ar y rheng flaen ac sy’n darparu gwasnaeth.

 

  1. Am faint o arian y medra i wneud cais?

Bydd modd i’ch sefydliad geisio am hyd at 100% o gostau’r prosiect, hyd at gyfanswm cyfraniad o £3,000.

 

  1. A yw fy sefydliad yn gymwys i wneud cais?

Bydd angen i sefydliadau sy’n gwneud cais fod yn endidau cyfreithiol ffurfiol, er enghraifft cwmnïau nid-er-elw, elusennau, neu o’r sector cyhoeddus, ag iddynt hanes blaenorol amlwg o ddarparu gwasanaethau ar gyfer y gymuned.

 

  1. Sut mae gwneud cais?

Bydd angen i sefydliadau sydd am fod yn rhan o’r prosiect drafod eu gofynion dros y ffôn gydag un o swyddogion Cadwyn Clwyd, gan amlinellu eu prosiect a’r costau ac ati. Bydd pob ymgeisydd yn derbyn cymorth dros y ffôn neu drwy e-bost i gwblhau’r ffurflen gais. Mae Cadwyn Clwyd yn awyddus i’ch cynorthwyo a llenwi cymaint o’r gwaith papur ag sy’n bosib fel na chewch eich tynnu oddi wrth gyflawni’r gwaith hanfodol yr ydych yn ei wneud ar y rheng flaen.

 

  1. Beth sy’n digwydd nesaf?

Caiff y cais ei ystyried fel mater o flaenoriaeth, a’r nod yw darparu ymateb o fewn 24 awr. Os yw eich prosiect yn llwyddiannus, byddwn yn eich hysbysu a bydd Swyddog Prosiect ar gael i’ch helpu gyda gofynion gweinyddol eich prosiect.

 

  1. Pa gymorth arall y bydd fy sefydliad yn ei gael gan Cadwyn Clwyd?

Bydd Cadwyn Clwyd yn darparu amser swyddog ar gyfer y canlynol:

  • Cyfieithu deunyddiau cyfathrebu
  • Fformatio a dylunio deunyddiau cyfathrebu (e-gyfathrebu a chopïau caled)
  • Prawfddarllen
  • Cefnogaeth weinyddol gyffredinol
  • Monitro’r prosiect

Bydd swyddogion prosiect Cadwyn Clwyd hefyd yn mynd ati yn rhagweithiol i gynorthwyo’ch sefydliad i geisio cyllid pellach o ble bynnag mae ar gael pe bydd angen gwneud hynny.

 

  1. Pa ffordd arall gall fy sefydliad elwa o’r prosiect yma?

Bydd eich sefydliad yn ffurfio rhan o rwydwaith o sefydliadau tebyg yn ardaloedd gwledig Gogledd Ddwyrain Cymru. Cewch eich annog i rannu ymarfer da a gwersi a ddysgwyd gyda sefydliadau tebyg ble mae hynny’n bosib.

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag:

Adam Bishop – 01490 340505 neu adam.bishop@cadwynclwyd.co.uk

Donna Hughes – 01490 340500 neu donna.hughes@cadwynclwyd.co.uk

 

ffurflen gais:

COVID-19 grant application form