“Allai ddim pwysleisio ddigon gymaint o wahaniaeth mae’r grant wedi’i wneud. Gall ein cymuned symud ymlaen nawr, gan wybod bod ein hwb cymunedol yn addas at y diben, yn addas ar gyfer y dyfodol ac yn ffynnu. Mae hyn hefyd yn golygu y bydd ein pentref yn parhau i ffynnu.”
Julia Edge, Canolfan Gymunedol Cymau
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Cadwyn Clwyd wedi dyfarnu grantiau gwerth dros £190,000 i wyth neuadd bentref yn Sir y Fflint. Mae’r grantiau hyn wedi galluogi aelodau’r pwyllgor – gwirfoddolwyr yn aml – i ganolbwyntio ar drefnu digwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer y gymuned yn hytrach na phoeni’n barhaus am y dyfodol a thalu biliau.
Mae sawl neuadd bentref wedi defnyddio’r grantiau hyn i foderneiddio cyfleusterau sydd wedi dyddio.
Defnyddiodd Neuadd Bentref Rhes y Cae y cyllid i adnewyddu’r gegin a’i storfeydd. Fel digwyddiad ailagor, cynhaliwyd bore coffi ym mis Gorffennaf er budd NSPCC, gafodd ei groesawu gan y gymuned.
Fe wnaeth Neuadd Bentref Helygain hefyd adnewyddu’r gegin gyda nawdd y grant.
Cafodd Canolfan Gymunedol New Brighton grant i osod drws ffrynt trydan newydd, atgyweirio a diweddaru’r toiledau, a gosod drws tân newydd.
Dewisodd neuaddau pentref eraill ganolbwyntio ar wella effeithlonrwydd ynni.
Gosododd Neuadd Bentref Caerwys a Neuadd Bentref Treuddyn baneli solar a storfa batris, a helpodd hynny i leihau eu biliau ynni.
Cafodd paneli solar eu gosod yng Nghanolfan Gymunedol Talarce hefyd a gwelwyd gostyngiad amlwg yn y defnydd o ynni. Yn ogystal, fe wnaethant ail-rendro’r adeilad i atal dirywiad pellach a difrod gan y tywydd.
Bu’r Grant Ffioedd Proffesiynol yn amhrisiadwy i Neuadd Goffa Trelawnyd. Roedd yn caniatáu i’r pwyllgor gyflogi gweithwyr proffesiynol i baratoi cynlluniau pensaernïol a rheoli’r broses o gychwyn rhoi’r gwelliannau ar waith, gan gynnwys paratoi ceisiadau grant posibl.
Defnyddiodd Canolfan Gymunedol Cymau eu cyllid i fynd i’r afael â nifer o faterion allweddol. Maent wedi creu gardd gymunedol sy’n boblogaidd gyda theuluoedd a phlant lleol, wedi gosod to newydd yn lle’r un oedd yn gollwng, wedi gosod paneli solar, uwchraddio eu boiler, ailaddurno’r gegin, ac ychwanegu offer sain newydd a sgrin.
“Rwyf bob amser yn mwynhau ymweld â’r Cymau gan ei fod bob amser yn gynnes a chroesawgar, a chyfleusterau gwych. Mae’r gymuned yma mor gefnogol a gallaf deimlo fy hun yn ymlacio wrth agosáu at y ganolfan.”
Ymwelydd cyson yng Nghanolfan Gymunedol Cymau