Mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael gan Cadwyn Clwyd wedi bod yn amhrisiadwy.”

 

Mae Parc y Gorffennol yn yrHôb ger Wrecsam yn gwmni dielw a sefydlwyd yn 2014 gan Paul Harston, Prif Weithredwr Roman Tour.

Ei weledigaeth oedd trawsnewid chwarel dywod a graean segur yn barc gwledig 120 erw gyda llyn 35 erw, gan gynnig cyfle i’r gymuned leol ddod i fwynhau y gofod gwyrdd prydferth, yn ogystal â bod yn gartref i brosiect Adeiladu Caer Fawr Prydain.

Mae hwn yn safle archeoleg arbrofol unigryw, lle mae caer Rufeinig bren o’r ganrif 1af OC yn cael ei hailadeiladu gan ddefnyddio dulliau a deunyddiau fel yr hen ddyddiau.

Mae grwpiau ysgol, addysgu yn y cartref a sefydliadau eraill yn ymweld yn ystod dyddiau addysgol ac maent yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ail-greu hanesyddol ar y safle megis wythnos Auxilia Rhufeinig a phenwythnosau Llychlynnaidd.

Ond, fel Cwmni Buddiannau Cymunedol (CIC), nid ydynt yn derbyn unrhyw arian swyddogol ac roedd yn rhaid iddynt godi’r arian sydd ei angen ar gyfer rhedeg a datblygu’r safle trwy ddyddiau addysgol yn ogystal â chodi tâl mynediad bychan. Maent hefyd yn gwneud cais am grantiau, ac yn ddiweddar maent wedi adeiladu bloc toiledau compostio gyda grant y Loteri Genedlaethol.

Er mwyn eu galluogi i gynhyrchu incwm eu hunain, roedd Parc y Gorffennol eisiau adeiladu tŷ crwn cyn-hanesyddol, gyda lle i ddal hyd at 200 o bobl.

Cawsant eu cefnogi drwy Gronfa Ffyniannus Sir y Fflint, a weinyddir gan fenter gymdeithasol Cadwyn Clwyd, fel rhan o becyn gwerth £4.75 miliwn i gefnogi cymunedau a busnesau yng ngogledd ddwyrain Cymru.

Eu gweledigaeth yw datblygu’r safle yn ganolfan genedlaethol ar gyfer lles naturiol – gyda’r tŷ crwn newydd yn eu galluogi i gynnal gweithdai arbrofol ar y safle. Bydd y tŷ crwn hefyd yn cael ei ddefnyddio i gynnal gweithgareddau addysgol i ysgolion, ac yn cael ei  logi’n allanol.

Mae’r grant gan Cadwyn Clwyd wedi eu galluogi i gwblhau’r gwaith o adeiladu’r tŷ crwn, gan iddo dalu am 70% o gost y to. Mae’r to yn strwythur unigryw, gan ei fod yn cyfuno technoleg to cynfas modern gyda deunyddiau traddodiadol – gan ddefnyddio ffelt iwrt traddodiadol ar gyfer inswleiddio.

“Mae Parc y Gorffennol yn hafan werdd sy’n cefnogi lles yn y gymuned. Fe’i defnyddir ar gyfer gweithgareddau hamdden a chwaraeon ac mae’n darparu profiadau addysgol anhygoel, ymarferol i bobl ifanc.

“Bydd y grant hwn ac adeiladu’r tŷ crwn newydd yn sicrhau bod Parc y Gorffennol yn parhau i fod wrth galon y gymuned leol.

“Byddwn yn gallu parhau i ddatblygu’r safle a fydd yn cael effaith gadarnhaol iawn yn y tymor hir ar y cwmni, a’r gymuned leol.”

Lorrae Campbell, Swyddog Grantiau Parc y Gorffennol