Ardal: Erddig

Sector: Awyr Agored

Gwerth y Prosiect: £4,262 am storfa

Mae gan Grŵp Cerdded Nordig Erddig 240 o aelodau, gyda 130 ohonynt yn cyfarfod yn rheolaidd i fynd am dro ledled gogledd Cymru. Mae’r grŵp yn cwrdd dair gwaith yr wythnos ac yn cynnig teithiau ar dair lefel – uwch, canolradd a hamddenol.

Mae ganddynt 21 o arweinyddion wedi hyfforddi mewn cymorth cyntaf, a chwech hyfforddwr cerdded Nordig, sy’n golygu eu bod yn gallu hyfforddi pobl sydd erioed wedi rhoi tro arni o’r blaen.

Mae’r mwyafrif o’r aelodau dros 60 oed. Mae’r rhesymau am ymuno yn amrywio o fod eisiau cadw’n heini, i gadw’r meddwl yn iach a lleihau unigrwydd.

Dywedodd Ysgrifennydd Grŵp Cerdded Nordig Erddig, Gareth Lloyd, “Yn wahanol i rai grwpiau cerdded eraill, dydyn ni ddim yn codi tâl aelodaeth. Rydym hefyd yn cynnig i aelodau newydd ddefnyddio ein ffyn am ddim, sy’n rhan o’n ethos o gynnig gweithgareddau heb gostau uchel ynghlwm.

“Ond mae cynnal tair taith yr wythnos a digwyddiadau cymdeithasol yn costio dipyn o arian, felly rydym yn gorfod chwilio’n gyson am grantiau ar gyfer unrhyw gostau neu ddigwyddiadau ychwanegol.

“Mae’r grant Cymunedau Ffyniannus Cronfa Allweddol Gymunedol Wrecsam wedi’i weinyddu gan Cadwyn Clwyd ac AVOW wedi caniatáu i ni brynu ‘container’ i ddal ein offer yn ddiogel. Cyn hynny, roedd rhaid i ni dalu £20 y mis am ofod i gadw’r offer.

“Bellach, does dim angen i ni boeni am ofod storio pan fyddwn ni’n prynu offer newydd ac mae’r arian fyddai wedi mynd i dalu am storfa yn gallu cael ei ddefnyddio i ddatblygu ein rhaglen o ddigwyddiadau.  Mae’r grant wedi ein galluogi i ni gynllunio i’r dyfodol heb orfod poeni am gostau storio offer.”