Llwyddodd y prosiect i wneud cynnydd aruthrol gan ragori ar y targedau a bwrw iddi i gyflawni ystod o weithgareddau ledled y tri awdurdod lleol. Bu heriau o ran recriwtio gyfyngu ar y gwaith yn Wrecsam a Sir y Fflint i gychwyn ond fe aeth y tîm prosiect rhagddi i gytuno ar ddull amgen i gynnig y cymorth oedd ei angen yn yr ardaloedd hyn er mwyn bodloni amcanion y prosiect.
Y nod oedd sicrhau bod y prosiect yn seiliedig ar leoedd gan ganolbwyntio ar anghenion bob Awdurdod Lleol. O ganlyniad i hyn, fe gafodd y prosiect ei gyflawni’n lled wahanol ledled yr Awdurdodau Lleol:
- Yn Sir Ddinbych, bu’r prosiect yn canolbwyntio ar ddatblygu Partneriaethau Ffibr Cymunedol a chefnogi preswylwyr a chynghorau cymuned i ddatblygu cynlluniau a strategaethau er mwyn manteisio ar fand eang yn effeithiol.
- Yn Wrecsam a Sir y Fflint, bu’r prosiect yn canolbwyntio ar ddatblygu’r defnydd o amryw dechnolegau digidol er budd i fusnesau, unigolion ac adrannau’r cyngor.
Ym mhob un o’r achosion dan sylw, bu i’r cyllid ychwanegol ariannu gweithgarwch ychwanegol na fyddai wedi’i gyflawni heb y cyllid hwnnw.
Bu i’r prosiect gynorthwyo rhai ardaloedd i gyflawni cysylltedd digidol ar raddfa sy’n effeithiol er mwyn cysylltu cartrefi a busnesau. Mae’n debyg na fyddai’r ardaloedd hyn wedi cyflawni hynny heb gymorth y rôl Swyddog Digidol yn sgil yr heriau ynghlwm â deall y system a chyfathrebu gyda Openreach.
Dyma rai o’r gweithgareddau a roddwyd ar waith i gyflawni hyn:
- Cyfathrebu a chodi ymwybyddiaeth ym mhlith unigolion, cartrefi, busnesau a grwpiau cymunedol (gan gynnwys cynghorau tref a chymuned).
- Datblygu partneriaethau – meithrin cysylltiadau rhwng mudiadau a allai fwrw iddi i fynd i’r afael ag uchelgeisiau wedi’u targedu megis tlodi gwledig.
- Cymorth ar gyfer meithrin Partneriaethau Ffibr Cymunedol (FCP).
- Ennyn diddordeb a chyfeirio mewn cymunedau er mwyn sicrhau eu bod yn alluog yn ddigidol.
- Casglu gwybodaeth er mwyn ategu ceisiadau cymunedol drwy Bartneriaethau Ffibr Cymunedol. Bu hyn yn waith trylwyr lle bu gofyn inni gysylltu gyda phob tŷ’n unigol er mwyn asesu’r galw a’r cwmpas.
- Meithrin perthnasau a dealltwriaeth o raglenni gyda Openreach, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
- Cydweithio er mwyn cyflwyno ystod o synwyryddion digidol i gynhyrchu data arsylwi a ellir ei ddefnyddio i sicrhau bod gwasanaethau’r cyngor yn fwy effeithlon ac er mwyn cefnogi cynlluniau datblygu economaidd parhaus.
- Dosbarthu ehangach o fewn awdurdodau lleol, ledled partneriaethau Gogledd Cymru a drwy gynnal trafodaethau gydag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.
Roedd rhai o’r heriau ynghlwm â’r prosiect hwn y tu hwnt i reolaeth staff y prosiect, megis y newidiadau i gymhwysedd a gweithrediad cynllun talebau Gigabit Llywodraeth y DU yng Nghymru.
Dyma hyn rydym wedi’i ddysgu hyd yma:
- Anawsterau recriwtio unigolion, a’u cadw, ar gyfer swyddi’r cyngor lle mae gofyn am gyfuniad o wybodaeth cysylltedd TG manwl a sgiliau cyfathrebu ardderchog.
- Yr angen am ddealltwriaeth fanwl o ofynion ariannu a phrosesu gwahanol gynlluniau, yn ogystal â’r angen am ymchwil manwl yn y fan a’r lle ar lefel gymunedol.
- Yr heriau sy’n gysylltiedig â chynnal ystod o synwyryddion ledled meysydd daearyddol eang.
- Mynd i’r afael â phroblemau pherchnogaeth a throsglwyddo gwybodaeth.
- Goresgyn ansicrwydd ymysg poblogaethau lleol ynghylch yr ystod o ddatblygiadau digidol ac unrhyw ganlyniadau i unigolion.