Bydd gwaith yn cychwyn yn fuan ar adnewyddu agweddau allanol hen fanc HSBC yng Nghorwen! Sicrhawyd arian trwy raglen Ffyniant Bro y DU i ailwampio’r adeilad i gynnwys rendro, peintio a thrwsio gwaith haearn. Bydd y gwaith yn dechrau ar 30ain o Awst 2023 a bydd yn cymryd tua 16 wythnos. Oherwydd lleoliad yr adeilad, bydd angen rheoli traffig ar gyfer gwaith a wneir ar ochr yr A5 i’r adeilad. Bydd diweddariadau ar gynnydd y gwaith yn cael eu postio ar ein tudalen Facebook: https://www.facebook.com/cadwynclwyd/