Clawddnewydd...

Pentref Clawddnewydd gyda pwll i fod yn falch ohono unwaith eto

underline

Mae pwll sych a fu unwaith yn fan dyfrio pwysig i dda byw a oedd yn teithio ar ffordd hynafol y porthmyn wedi’i adfer i’w hen ogoniant. Mae’r pwll yng Nghlawddnewydd yn sefyll ochr yn ochr â thafarn y pentref, y Glan Llyn, ac unwaith eto mae dŵr yn taro ar ei ymylon diolch i weddnewidiad o £26,500 gan Cadwyn Clwyd.

Mae’r cynlluun wedi cael ei ganmol gan Darren Millar, Aelod o’r Senedd dros Orllewin Clwyd, a ddywedodd: “Pryd bynnyg y byddaf yn dod i Glawddnewydd mae’r ysbryd cymunedol yma bob amser wedi creu argraff arnaf.”

“Un o’r pethau sydd bob amser yn fy syfrdanu yw sut rydych yn dod at eich gilydd fel cymuned ac yn gwneud pethau oherwydd nid yw’n digwydd ym mhobman – mae gennych rinwedd hud yma.

“Dydw i ddim wedi gweld prosiect mor ysbrydoledig ers amser maith, oherwydd rydych chi wedi trawsnewid darn o dir blinedig yng nghanol y pentref yn rhywbeth y gallwch chi ei fwynhau a bod yn falch ohono.

“Rwy’n siwr y bydd yn fwrlwm o weithgarwch yma yr haf hwnn ac yn llawn bywyd gwyllt.”

Mae’n debyg bod presenoldeb y pwll, sy’n cael ei fwydo gan ffynnon naturiol, yn esbonio bodolaeth y dafarn a’r pentref a dyfodd o amgylch man gorffwys y porthmyn.

Ond wrth i’r ffynnon sychu, roedd y pwll wedi mynd yn flêr yn ôl Hywel Jones, Cadeirydd Cyngor Cymuned Derwen.

Dywedodd: “Roedd wedi dirywio’n arw. Byddai dal dŵr ynddo yn y gaeaf pan oedd y glaw yn ei lenwi ond yn yr haf fe sychodd, ac roedd posib cerdded ar ei draws.

“Roedd wedi tyfu’n wyllt ac yn llawn sbwriel oedd wedi’i daflu i mewn yno neu ei chwythu i mewn ac roedd yn gymaint o drueni oherwydd byddai’r rhan fwyaf o bentrefi yn rhoi unrhyw beth i gael pwll fel hwn.

“Roedden ni eisiau gwneud rhywbeth yn ei gylch, darparodd Prosiect Cymunedau Gwyrdd Cadwyn Clwyd y cyllid a cefnogaeth prosiect hefyd.”

Goruwchwyliodd y Cyngor Cymuned y prosiect sydd wedi gweld maint y pwll yn lleihau ychydig a’i leinio i atal colli dŵr yn yr haf ac mae bellach yn cael ei fwydo gan dwll turio a ddriliwyd 62 metr gan Dragon Drilling, ychydig i lawr y ffordd ym Mryn SM.

Mae’r ardal wedi’i hail-blannu a seddau wedi’u gosod ac ychwanegodd Hywel Jones: “Mae’r holl waith a deunyddiau wedi’u darparu’n lleol.

“E Jones a’i Fab o Glawddnewydd oedd yn gwneud y gwaith tir, UK Lining o Gerrigydrudion yn leinio’r pwll, roedd y ffens gan J Lloyd a’i Fab, o Bryn SM, A L Williams o Bwllglas, yn gwneud y gwaith trydanol a Llefelys Rees o Derwen, yn gosod i fyny sied y pwmpdy.”

“Y pellach y bu’n rhaid i ni fynd oedd i Ddinbych ar gyfer seddi gan Meifod Wood Products tra bod aelodau’r cyngor a’r gwirfoddolwyr wedi darparu’r llafur.

“Roedd ieir dŵr a hwyaid gwyllt yn arfer bod ar y pwll cyn iddo sychu ond nawr rydyn ni’n gobeithio y byddan nhw’n ôl yn fuan ac mae Ysgol Carreg Emlyn yn awyddus i’w ddefnyddio ar gyfer eu hastudiaethau amgylcheddol.”

Dywedodd Haf Roberts, Arweinydd Cymunedau Gwyrdd Cadwyn Clwyd: “Mae Cyngor Cymuned Derwen wedi gweithio’n galed iawn i adfer y pwll yng Nglan Llyn, gan ddefnyddio contractwyr lleol yn bennaf a chefnogi’r economi leol.

“Mae’n wych ei weld wedi’i gwblhau. Bydd yn ganolbwynt i’r gymuned gyfan yng Nghlawddnewydd i fwynhau manteision gofod awyr agored tawel.

“Mae pyllau yn ffordd dda o hybu bioamrywiaeth gan eu bod yn denu’r infertebratau bychain y mae cymaint o rywogaethau eraill yn dibynnu arnynt am eu bwyd, ac yn y blaen i fyny’r gadwyn fwyd.

“Gyda chefnogaeth barhaus ar gyfer cynnal a chadw a glanhau, bydd y pwll yn fan deiniadol i bobl leol dreulio amser o’i gwmpas am flynyddoedd i ddod yn ogystal â darparu noddfa werthfawr i fywyd gwyllt.”

Ariennir y prosiect Cymunedau Gwyrdd drwy Raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020 o gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD).