Covid 19 – Cadwyn Clwyd a Grwpiau Gweithredu Lleol yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam yn darparu arian LEADER ar gyfer cymorth rheng flaen.
Yn sgil ymateb chwin, sefydlwyd prosiect cydweithredol wedi’i ariannu gan LEADER ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru wledig ac fe gafodd ei lansio 24ain o Fawrth. Mae’r prosiect yn helpu grwpiau cymunedol i ddatblygu a threialu ffyrdd newydd o ddarparu cymorth cymunedol rheng flaen.
Mae Cadwyn Clwyd a Grŵp Gweithredu Lleol Sir Ddinbych yn falch o fedru cefnogi tîm newydd ‘Llesiant Cymunedol’ Tai Clwyd Alyn i’w cynorthwyo i addasu eu dulliau i roi’r gefnogaeth orau i drigolion Gogledd Cymru sydd wedi eu heffeithio’n andwyol gan y pandemig COVID-19. Yn rhan o’r tîm mae swyddogion cymunedol a chyngor am arian/hawliau lles. Mae wedi ei sefydlu i ddarparu gwasanaeth i drigolion agored i niwed mewn tai cymdeithasol sydd yn byw mewn tlodi. Bydd y peilot yn profi ymagwedd arloesol o ddarparu gwasanaethau sylfaenol anstatudol i bobl agored i niwed yng nghyd-destun y pandemig a’r mesurau cyfyngiadau symud. Yn benodol, mae’r tîm llesiant newydd yn helpu trigolion agored i niwed drwy:
Mae Cyngor Tref Treffynnon yn rhedeg menter unigryw i gefnogi grwpiau cymunedol a mentrau sydd yn cefnogi pobl agored i niwed a’r rhai hynny sydd wedi eu hynysu o ganlyniad i’r pandemig Covid-19 a mesurau cyfyngiadau symud y llywodraeth. Mae’r grwpiau lleol, mentrau cymdeithasol a’r elusennau sy’n weithgar yn yr ardal yn ymgymryd â thasgau amrywiol; megis casglu a dosbarthu parseli bwyd, casglu a dosbarthu’r post a pharseli eraill, casglu a dosbarthu presgripsiynau, a mynd ar negeseuon amrywiol eraill. Ymysg y grwpiau yma mae: Danny’s, Pen y Maes Graig, Llafur Cymru, Undeb Credyd, grwpiau busnes, ysgolion a banciau bwyd, a llawer mwy. Yn ychwanegol at gefnogi gwirfoddolwyr rhagorol y dref, mae Cyngor y Dref – gyda’u Swyddog Prosiect a Datblygu, Clerc y Dref, 4 o aelodau wardiau allweddol a’r Cynghorwyr Sir – wedi chwarae rhan weithredol gyda’r cydlynu, prynu offer, dosbarthu dyddiol, casgliadau, rhannu a hyrwyddo bwletinau gwybodaeth dyddiol.
Mae Canolfan Enfys, Llannerch Banna, mewn safle delfrydol i ymateb i’r pandemig COVID-19 am ei bod yn ganolfan gofal dydd sydd wedi ei hen sefydlu ac sydd yn weithgar iawn ymysg cymunedau lleol ym Marchwiail, Bangor Is-y-coed, Owrtyn, Llannerch Banna a Holt.
Yn ystod yr argyfwng Covid 19 cysylltodd dwsinau o wirfoddolwyr â hwy yn awyddus i’w cynorthwyo gyda’r gwaith o ddosbarthu’r gwasanaeth pryd ar glud cyfredol a chefnogi unigolion sydd wedi eu hynysu drwy gasglu eu siopa a’u presgripsiynau.
Trwy gyllid LEADER, mae’r ganolfan yn cyflogi Cydlynydd Gwirfoddolwyr i’w cefnogi dri diwrnod yr wythnos ac mae’r ganolfan hefyd yn darparu Cyfarpar Diogelu Personol ar gyfer y gwirfoddolwyr.
Adam Bishop – 01490 340505 neu adam.bishop@cadwynclwyd.co.uk
Donna Hughes – 01490 340500 neu donna.hughes@cadwynclwyd.co.uk