Ardal: Wrecsam

Sector: Elusennol

Gwerth y prosiect: £2,335.11 ar gyfer ‘Cysylltu ein cymuned – creu seilwaith digidol deinamig ar gyfer ein pobl’

Mae Llyfrgell Gymunedol Gresffordd yn cael ei harwain a’i rheoli gan wirfoddolwyr. Fe’i sefydlwyd gan y gymuned yn Mai 2014 pan gaeodd y cyngor ddwy lyfrgell leol i arbed arian.Yn ogystal â chynnig yr holl wasanaethau arferol mewn llyfrgell, mae hefyd yn cynnal Clwb Lego a Chlwb Crefftau i blant a Chlwb Llyfrau i’r oedolion. Mae hefyd yn cynnal grwpiau crefft amrywiol.

Dywedodd cyfarwyddwr ac ymddiriedolwr Llyfrgell Gymunedol Gresffordd, Jan Jones, “Roeddem eisiau gallu cynnig gofod i gynnal cyfarfodydd hybrid. Roeddem yn gwybod fod rhai sefydliadau yn chwilio am hyn ac nad oedd unrhyw lefydd eraill cyhoeddus amlwg yn cynnig hyn yn yr ardal.

“Rydym hefyd yn bwriadu defnyddio’r offer newydd ar gyfer sesiynau hyfforddi ar-lein gyda thrigolion oedrannus. Fydden nhw, fel arfer, ddim yn gallu ymuno â hyfforddiant ar-lein ond nawr byddant yn gallu dod i’r llyfrgell a gwneud yr hyfforddiant gyda’i gilydd, gan leihau eu heithrio digidol.

Bydd yr hyfforddwr yn arwain y cyfarfod ar-lein, gan ddefnyddio ein hoffer cyfarfod hybrid.

Bydd yr offer yn ein galluogi i gael mynediad at hyfforddiant a gwybodaeth o unrhyw le yn y byd. Er enghraifft, bydd ein grwpiau crefft yn gallu cysylltu â rhywun i ddangos techneg benodol, hyd yn oed os yw’r person hwnnw’n byw yn Awstralia!

Bydd hefyd yn galluogi aelodau grŵp sydd wedi symud i ffwrdd i barhau i ymuno â’n grwpiau amrywiol o bell.

Gyda’r offer newydd hwn, rydym yn ceisio cysylltu cymunedau, ehangu posibiliadau a chynyddu cynhwysiant digidol.”