Diolch i Cadwyn Clwyd, gallwn bellach wasanaethu ein cwsmeriaid yn America yn fwy effeithlon a phroffesiynol o’n swyddfa yn Rhuthun.”

Mae Autoventive Ltd, sydd wedi’i leoli yn Rhuthun, Sir Ddinbych, yn darparu Gwasanaethau TG logistaidd i’r diwydiant modurol.

Sefydlwyd y cwmni yn 2017 gan Gareth Hughes, y Prif Weithredwr, ac maent yn gweithio’n bennaf gyda chleientiaid yn yr Unol Daleithiau.

Fel busnes bach, roedd Autoventive yn wynebu costau gweithgynhyrchu, ynni a chyffredinol cynyddol ac yn ei chael hi’n anodd recriwtio’r bobl iawn mewn marchnad hynod arbenigol.

Roeddent hefyd yn wynebu costau sylweddol wrth deithio i America pryd bynnag y byddai rhywbeth yn codi gyda chwsmeriaid. Felly, mae’r cyllid o £15,411.32 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, a weinyddir gan Cadwyn Clwyd, wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol.

Caniataodd y grant i’r cwmni fuddsoddi mewn offer cynadledda o safon uchel, gan eu galluogi i greu ystafell gynadledda bwrpasol, gyda digon o le i nifer o weithwyr gwrdd â chleientiaid a darpar gleientiaid ar-lein.

Dywedodd Gareth Hughes, Prif Weithredwr Autoventive, “Rydym eisoes yn gweld manteision logistaidd ac ariannol o gael y cyfleuster cynadledda. Er bod angen i staff deithio i’r Unol Daliaethau o hyd ar gyfer materion hanfodol, does dim angen iddyn nhw deithio yno ar gyfer cyfarfodydd cyffredinol neu sesiynau hyfforddi grŵp mwyach.

“Gall cyfarwyddwyr nawr gyfathrebu â darpar gwsmeriaid yn uniongyrchol o’n swyddfa yn Rhuthun, gan ddileu’r angen i bob cyfarfod cychwynnol gael ei gynnal wyneb yn wyneb yn yr Unol Daliaethau.

“Os bydd cwsmer draw yno yn dod ar draws problem, yn aml mae angen mewnbwn gan hyd at bum aelod o’r tîm yma yn Rhuthun. Diolch i’r drefn gynadledda newydd, gallwn ni i gyd gymryd rhan mewn galwad ar yr un pryd, gan sicrhau cyfathrebu clir heb wasgu o gwmpas un gliniadur.

“Rydym hefyd yn gweld manteision amgylcheddol sylweddol o’r grant. Mae ein hallyriadau CO2  blynyddol o deithio i UDA wedi’u lleihau’n sylweddol.

“Yn ogystal, mae wedi gwneud cyfarfodydd mewnol staff, sesiynau hyfforddi, a hyd yn oed digwyddiadau cymdeithasol yn haws i’w trefnu, heb fod angen lleoliadau allanol.

“Yn y tymor hir, mae ystyriaethau amgylcheddol bellach yn flaenllaw yn ein ffyrdd o weithio. Rydym wedi integreiddio arferion mwy gwyrdd yn ein swyddfa o ddydd-i-ddydd ac yn parhau i adeiladu ar yr ymdrechion hyn.

“Gyda’r cyfleuster hwn, gallwn bellach wasanaethu ein cwsmeriaid yn America yn fwy effeithlon a phroffesiynol o’n swyddfa yn Rhuthun.”