“Mae’r grant hwn wedi cymryd llawer o bwysau oddi ar ein hysgwyddau a gallwn nawr weld dyfodol hyfyw i’r busnes.”
Mae Tree Tops and Train Tracks yn wersyll eco, wedi’i leoli yng nghanol coetir hynafol yn nyffryn Bryniau Clwyd.
Prynodd Seb a’i wraig Hannah y coetir nôl yn 2018 ar ôl gweld bwlch yn y farchnad o fewn twristiaeth yng Nghymru ar gyfer unedau glampio unigryw ac o safon uchel.
Ond roedd angen llawer o fuddsoddiad cyfalaf ar eu busnes bach. Nid yn unig roedd yn rhaid iddynt brynu’r tŷ a’r tir, ond roedd angen iddynt hefyd sicrhau bod seilwaith digonol i ymwelwyr gyrraedd y coetir – a phrofodd hynny yn anodd ac yn ddrud iawn.
Roedd yn anodd iawn wedyn cael yr incwm oedden nhw ei angen i ddatblygu’r busnes fel yr oeddent wedi breuddwydio. Felly, bu’n rhaid iddynt ddechrau’n fach gyda phebyll yn hongian o’r coed a safleoedd gwersylla.
Ond mae grant £17,300 gan Cadwyn Clwyd wedi caniatáu iddynt ddatblygu ochr glampio’r busnes ac adeiladu eu caban cyntaf, gan sicrhau ei fod wedi’i insiwleiddio yn dda, gyda to byw, goleuadau solar o amgylch y caban a thân coed tu mewn i’r caban.
Dywedodd Seb, “Roedden ni eisiau rhoi cyfle i’n cwsmeriaid gael eu trochi ym myd natur ond hefyd tanio dychymyg ar gyfer gwyliau glampio gwahanol a chyffrous.
“Roeddem eisiau ddefnyddio ein coed cynaliadwy ein hunain o’r goedwig i adeiladu cabanau newydd, a gwnaethom brynu ein melin ein hunain i sicrhau y gallem dorri ein coed ein hunain.
“Ond fe sylweddolon ni’n gyflym iawn bod popeth yn ddrud iawn a bod yn rhaid i ni ddechrau’n fach – roedden ni’n ofni na fydden ni’n gallu datblygu ein busnes fel y breuddwydion ni.
“Dyna pam rydym mor ddiolchgar am y grant gan Cadwyn Clwyd gan ei fod wedi ein galluogi i adeiladu ein caban cyntaf – sydd wedi cael effaith aruthrol ar wella ein busnes. Mae wedi agor ein coetir drwy gydol y flwyddyn yn hytrach nag yn dymhorol yn unig ac mae’n dod â thwristiaeth o safon uwch i’n portffolio.
“Yn y tymor hir, mae wedi symud ein busnes ymlaen yn aruthrol a heb y grant bydden ni flynyddoedd ar ei hôl hi o’i gymharu â ble’r ydym ni nawr.
“Mae’r grant hwn, ac agor ein caban cyntaf, wedi cymryd llawer o bwysau oddi ar ein hysgwyddau a gallwn weld dyfodol hyfyw i’r busnes.
“Mae hefyd wedi ein galluogi i gynnig digwyddiadau cymunedol, fel ein ‘Dydd Mercher Gwaith’ – digwyddiad misol lle gall pobl leol ddod yma a mwynhau bod yn y coed yn dysgu sgiliau newydd.”