Neuadd Llanbedr Dyffryn Clwyd

Neuadd bentref yn troi at egni adnewyddadwy gyda chymorth Cadwyn Clwyd

underline

Mae neuadd bentref yn Nyffryn Clwyd wedi symud yn nes at gyrraedd targed sero net – gan ei wneud yn un o’r adeiladau cyhoeddus mwyaf carbon niwtral yng Nghymru.

Mae neuadd bentref Llanbedr Dyffryn Clwyd newydd gael ei addasiadau ynni adnewyddadwy diweddaraf drwy gronfa Cymunedau Gwyrdd, sy’n cael ei weinyddu gan Asiantaeth Datblygiad Gwledig, Cadwyn Clwyd.

Mae’n eu rhoi ymhell ar y blaen i darged net sero y Llywodraeth ar gyfer 2050 ac mae’r gronfa o £1.3 miliwn yn dal yn agored i yn ôl Rheolwr Prosiect Cymunedau Gwyrdd, Haf Roberts a ddywedodd:

“Mae’n debyg mai dyma un o neuadd bentrefi carbon niwtral cyntaf yng Nghymru. Yma yn Llanbedr mae’n nhw wedi edrych ar bob agwedd o’u hymagwedd – mae campfa awy agored, system ailgylchu dŵr glaw, pwmp gwres ffynhonnell aer a nawre gwefrydd beiciau trydan a system PV estynedig wedi’w osod drwy’r gronfa Cymunedau Gwydd.”

“Mae’r gefnogaeth gan y gronfa Cymunedau Gwydd wedi caniatau iddynt ychwanegu 15 o baneli solar newydd a batri 9.5 kilowat fel y gellir storio trydan a gynhyrchir yn ystod y dydd i’w ddefnyddio 24/7.

“Mae £7,000 pellach o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi talu am oleuadau symud-sensitif y tu allan sydd wedi’w ongli i lawr er mwyn lleihau llygredd golau a chydymffurfio â Pholisi Awyr Dywyll y Llywodraeth.

“Dyma’r prosiect Cymunedau Gwyrdd cyntaf i’w gwblhau ac mae’n ychwanegol at y gwaith blaenorol sydd wedi’i wneud yn neuadd y pentref yma yn Llanbedr lle mae’n nhw wedi dangos gwir ymrwymiad i’r amgylchedd.”

Mae cronfa Cymunedau Gwyrdd yn darparu arian i roi hwb i brosiectau cynaliadwy a arweinir gan y gymuned ar draws ardaloedd gwledig o fewn siroedd Dinbych, Conwy, Fflint a Wrecsam. Fe’i hariennir gan gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig (EAFRD).

Mae’r systemau newydd gan gynnwys y batri wedi’w gosod gan Hafod Renewables o Dremeirchion, arbenigwyr mewn systemau ynni gwyrdd a dywedodd eu Rheolwr David Jones: ‘Mae hyn yn golygu bod gan Llanbedr bellach system fodern a chyfoes.

“Bydd y systemau sydd ganddyn nhw yma yn para am 25 mlynedd – dim ond ar gyfer gwasanaeth blynyddol fydd angen i ni ddod draw.

“Mae’n gymuned wych yma, yn flaengar iawn ac yn edrych bob amser i ddiogleu dyfodol yr adeilad.”

Dywedodd Ron Bell, Rheolwr y Neuadd: “Mae wedi’i gadarnhau o ymrwymiad i’r amgylchedd ac awydd i leihau costau tra’n gwneud y Neuadd Bentref mor hygyrch â phosibl.

“Rydym wedi wedi cefnogaeth aruthrol gan Cadwyn Clwyd ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a gwaith gwych di’w wneud gan Hafod Renewables.”

“Mae’n golygu ein bod wedi diogelu’r neuadd bentref ar gyfer y dyfodol ac ychwanegu cyfleusterau ychwanegol gyda’r gampfa awyr agored a’r pwynt gwefru beiciau a fydd, gobeithio, yn denu mwy o ymwelwyr i’r ardal.”

“Mae cyfanswm y gost wedi bod yn £28,875 sydd wedi’i dalu gan y grantiau a nawr mae gennym ni neuadd bentref fodern iawn sy’n brysur drwy’r wythnos gyda gweithgareddau’n amrywio o reilffyrdd model i bartion pen-blwydd, yoga, Pilates, karate a thenis bwrdd.”

Nod y prosiect Cymunedau Gwyrdd yw cyflawni nodau Deddf Llesiant Cenhedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru drwy ganolbwytio ar adferiad Covid-19 a thwf gwyrdd ar lefel gymunedol.

Mae’n gan Lywodraeth Cymru o dan Gronfa ENRaW (Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant) i gefnogi gwelliannau i ble mae pobl yn byw, gweithio a chwarae.

Mae’n cwmpasu ardaloedd gwledig y pedair sir lle gall prosiectau bioamrywiaeth a seilwaith gwyrdd hyrwyddo gwelliannau amgylcheddol a lles cymunedol.

Gall cymunedau sydd gyda syniad am brosiect o fewn y siroedd cymwyr ddatgan diddordeb drwy lenwi’r ffurflen sydd ar gael ar wefan Cadwyn Clwyd.