Mae trefi a phentrefi ledled Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael eu heirio i lunio prosiectau gwyrdd arloesol er mwyn ennill darn o gronfa gwerth £1.3 miliwn gyda’r nod o hybu’r amgylchedd leol.
Nod y gronfa Cymunedau Gwyrdd yw i ddarparu cefnogaeth i brosiectau cynaliadwy a arweinir gan gymunedau. Bydd y gronfa’n cael ei lansio’r mis yma, a fydd yn weithredol ar draws ardaloedd gwledig yn siroedd Conwy, Dinbych, Fflint a Wrecsam.
Gall hyd at 30 o gymunedau ledled y rhanbarth elwa o’r gronfa, gyda gwahoddiad yn cael ei ymestyn i gymunedau i gyflwyno eu cynigion ar gyfer cynlluniau a all amrywio o greu gerddi gwenyn i goridorau bioamrywiaeth a rhwydweithiau beic.
Mae’n cael ei weinyddu gan asiantaeth ddatblygu wledig Cadwyn Clwyd, sy’n cael ei gefnogi gan y rhaglen Datblygiad Gwledig a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD), a Llywodraeth Cymru.
“Y neges yw i ddod a phobl a natur ynghyd, oherwydd un o’r gwersi rydym wedi ei ddysgu o’r pandemig ydi pwysigrwydd mannau gwyrdd ar gyfer ein hiechyd corfforol a meddyliol.
Mae ansawdd yr amgylchedd leol yn ein heffeithio’n uniongyrchol ac felly nod y fenter yma yw i wella a datblygu mannau gwyrdd cymunedol, cryfhau bioamrywiaeth lleol a lliniaru effeithiau newid hinsawdd.”
Nod y prosiect yw i gyflawni’r nodau llesiant yn Neddf Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol, drwy ganolbwyntio ar adferiad Covid a thwf gwyrdd ar lefel gymunedol.
Mae’n gynllun sydd wedi’w ariannu gan gronfa ENRaW (Enabling Natural Resources and Well-being) Llywodraeth Cymru, sydd yn cefnogi gwelliannau i ble mae pobl yn byw, gweithio a chwarae.
Mae partneriaid Cadwyn Clwyd yn y prosiect yn cynnwys Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwdeistref Sir Conwy, Cyngor Sir Fflint a Chyngor Bwdeistref Sir Wrecsam.
“Mae’n amser nawr gan ein bod wedi mynd i fyd o newid hinsawdd a isadeiledd gwyrdd gyda COP 26 rownd y gornel ac mae’r prosiect yma i gyd yn ymwneud a gwella ansawdd bywyd, yn enwedig yn dilyn y pandemig.
“Mae’r prosiect hwn wir yn dod â gwerthoedd gwyrdd i’r gymuned a byddwn yn gweld y buddion i’r holl gymuned er enghraifft plannu coed, pwyntiau gwefru trydan – prosiectau y gall pawb elwa ohonynt.”
Gall cymunedau sydd gyda syniad ar gyfer prosiect ddatgan eu diddordeb drwy lenwi’r ffurflen sydd ar gael ar ein gwefan.