Gall grwpiau cymunedol a busnes yng nghefn gwlad Sir Ddinbych, Sir y Fflint neu Wrecsam fynegi diddordeb i gael cymorth ariannol tuag at Astudiaethau Dichonoldeb, Prosiectau Peilot, neu brosiectau Hyfforddiant / Mentora. Mae angen i brosiectau ffitio o fewn un o bum thema LEADER:
Gall LEADER gefnogi hyd at 70% o gostau prosiect (bydd angen i ymgeiswyr / prosiectau gael y 30% sy’n weddill o arian cyfatebol). Mae costau cymwys yn cynnwys ffioedd a gwasanaethau proffesiynol, a chostau offer ar raddfa fach (dim mwy na £10,000 gan gynnwys TAW). Ni all cronfa LEADER gefnogi prosiectau cyfalaf neu brosiectau y tu allan i’r ardal wledig gymwys. Mae angen cwblhau prosiectau erbyn 31 Mawrth 2023.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Nodiadau Canllaw LEADER Cadwyn Clwyd. Am gyngor pellach, ffoniwch 01490 340 500.
Os oes gennych chi syniad am brosiect, llenwch yn gyntaf ffurflen Datganiad o Ddiddordeb (DOD) a’i e-bostio i admin@cadwynclwyd.co.uk
Mae LEADER 2014-2020 [wedi’i ymestyn i 30 Mehefin 2023] yn gynllun o fewn Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig (RDP) 2014-2020, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD). Mae’n gynllun i archwilio dulliau newydd arloesol a thechnolegau arbrofol i fynd i’r afael â thlodi, creu swyddi, adfer ar ôl Covid-19, a sbarduno datblygiad economaidd cynaliadwy. Mae yna swm bychan o arian LEADER yn weddil cyn diwedd y rhaglen.
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Datganiadau o Ddiddordeb (DOD) i Cadwyn Clwyd yw Dydd Gwener 26ain Awst 2022. Yna bydd ceisiadau llawn yn cael eu llunio gyda phrosiectau addas.