cronfa adnewyddu cymunedol

Elwodd prosiectau trawsnewidiol

underline

Elwodd prosiectau trawsnewidiol o gyllid sylweddol a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar ddwy gymuned yn Sir Ddinbych.

Roedd Clwb Rygbi’r Rhyl a’r Cylch (RFC) a phrosiectau Dendrocronoleg Rhuthun ymhlith 14 o fentrau i sicrhau cefnogaeth ariannol gan Arloesedd Cymunedol Sir Ddinbych trwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU dan arweiniad Cadwyn Clwyd.

Bydd cynllun Rhuthun yn canolbwyntio ar dwristiaeth ac mae’n brosiect gwerth £24,999 i gomisiynu arbenigwr dendrocronoleg i ddyddio pren cartref hynafol, ac ar gyfer lluniadau o ddetholiad o adeiladu. Ymunodd yr archeolegyff Fiona Gale, y cyn bensaer Gareth Evans i drefnu’r astudiaeth – sy’n nodi dyddiadau drwy gylchoedd coed – gyda’r bwriad o greu llwybr i ymwelwyr a thrigolion ei fwynhau.

Meddai Carol:

“Mae gan Ruthun amrywiaeth mor drawiadol o hen adeiladau, a bydd y prosiect hwn yn caniatau inni weld sut y gwnaeth crefftwyr canoloesol a diweddarach eu hadeiladu a pha mor dda y maent wedi goroesi prawf amser.” Ychwanegodd Gareth: “Mae hwn yn brosiect arloesol ar gyfer yr ardal sy’n cyfuno technoleg cadwraeth a dehonhliad i dwristiaid”

“Bydd y gwaith yn cael ei ddatblygu’n llenyddiaeth ymwelwyr, o bosibl fel llwybrau treftadaeth ac ar gyfer hyrwyddo digidol i helpu i farchnata’r dref – rydym yn ddiolchgar i Arloesedd Cymunedol Sir Ddinbych am eu cefnogaeth i’n helpu wireddu hyn.”

 

Yn y cyfamser, yng Nglwb Rygbi’r Rhyl a’r Cylch, bu prosiect gwerth £20,00 yn fodd i aelodau bwrdd gomisynu astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer ‘ysgubor hyfforddi’ dan do 800 metr sgwâr gyda chawodydd ac ystafelloedd newid ychwanegol, a darluniau pensaer dilynol.

Diolchodd y Cyfarwyddwr Dai Roberts i Gyngor Sir Ddinbych, Cadwyn Clwyd a sefydliadau partner am eu helpu i wireddu eu gweledigaeth.

“Mae’n brosiect mawr fydd yn cael effaith enfawr ar y clwb ac yn caniatau i ni hyfforddi am mhob tywydd,” meddai Dai.

“Mae gennym ni fwy na 400 o chwaraewyr – gan gynnwys 350 o blant – ond hefyd llawer o elusennau a phartneriaid trydydd sector sy’n defnyddio’r cyfleusterau yma felly bydd o fudd iddyn nhw hefyd.

“Rydym wedi bod ar Ffordd Tynewydd nawr ers bron i bedair blynedd ac mae wirioneddol angen ymestyn ein cynhwysedd gan ein bod yn gorfod troi pobl i ffwrdd.

“Mae’r cynnig yma yn ateb perffaith ac mae’n caniatau i ni gynyddu ein gallu, a fydd yn ein galluogi i wneud hyd yn oed mwy ar gyfer ein cwsmeriaid a’n cymunedol leol yn y tymor hir.”

Ychwanegodd cyd-gyfawrwyddwr David Jones:

“Gallwn nawr lunio cynllun, gwneud cais am ragor o arian a cheisio caniatad cynllunio ar gyfer yr adeilad”

“Does dim cyfleusterau eraill fel hyn yn y dref felly bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr I’n cymuned am flynyddoedd i ddod”