Cefnogi gwelliannau...

Cyfleusterau Cymunedol Cynaliadwy

underline

Mae Cadwyn Clwyd (Asiantaeth Datblygu Gwledig) wedi ymuno â arbenigwyr ynni DEG (Datblygiadau Egni Gwledig) i gynnig 12 awdit ynni am ddim i sefydliadau cymunedol yn Sir Ddinbych sy’n rheoli adeiladau cymunedol.

Mae’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng costau byw yn cyflwyno heriau mawr i grwpiau cymunedol sy’n rhedeg adeiladau cymunedol angenrheidiol, megis neuaddau pentref a thref, clybiau chwaraeon a mentrau sy’n eiddo i’r gymuned.

Bydd yr archwiliadau ynni yma yn archwilio effeithlonrwydd ynni adeiladau, gan ddarparu adroddiad fydd yn cynnig cyngor ac argymhellion i helpu grwpiau cymunedol i leihau eu costau hirdymor a lleihau allyriadau carbon.

Mae’r prosiect peilot hwn ar gael am amser byr yn unig.  Os oes gennych chi ddiddordeb, cysylltwch â ni. Bydd angen i adeiladau cymwys fod wedi eu lleoli’n Sir Ddinbych ac yn gallu dangos eu bod yn gweithredu er budd y gymuned. Am fwy o wybodaeth ac i wneud cais am awdit ynni e-bostiwch:

awditynni@DEG.cymru

Neu ymwelwch a’r wefan: https://www.deg.wales/

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU. Mae Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU yn rhaglen gan Lywodraeth y DU ar gyfer 2021/22. Nod hyn yw cefnogi’r bobl a’r cymunedau mwyaf anghenus ledled y DU i dreialu rhaglenni a dulliau newydd o baratoi ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae’n buddsoddi mewn sgiliau, cymuned a lle, busnes lleol, a chefnogi pobl i gyflogaeth. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-community-renewal-fund-prospectus