dysgu mwy am eich sir

Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth Newydd yn Sir Ddinbych

underline

Yn ddiweddar, lansiwyd Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth newydd sbon yn Sir Ddinbych. Mae’r cynllun rhad ac am ddim hwn wedi’i gynllunio i wella profiad ymwelwyr i bobl sy’n gweithio mewn twristiaeth, gweithio gydag ymwelwyr, sy’n byw neu’n astudio yn yr ardal.

Cynhyrchwyd cyfres o fodiwlau hyfforddi rhyngweithiol ar-lein gyda chwisiau ar wahanol themâu megis trefi a dinasoedd Sir Ddinbych, cerdded, beicio, hanes, ac iaith a diwylliant Cymru. Mae pob modiwl yn cymryd 30-60 munud i’w gwblhau gyda thestun i’w ddarllen, delweddau a ffilmiau i’w gwylio wrth i bobl ddysgu mewn gwahanol ffyrdd.

Mae 3 lefel o ddyfarniadau – efydd, arian ac aur, yn dibynnu ar faint o fodiwlau a gwblhawyd. Bydd pob person yn derbyn tystysgrif, bathodyn pin a sticeri ffenestri ar ôl cwblhau’r gwobrau. Mae yna hefyd adnoddau ar-lein i bobl lawrlwytho dogfennau cysylltiedig, brandio a dolenni i wefannau perthnasol.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych:

“Nod y cynllun yw creu lefel gwybodaeth sylfaenol ac ymdeimlad o le i sicrhau bod negeseuon cyson yn cael eu cyfleu am yr ardal. Mae’r hyfforddiant ar-lein yn cynnig dull hyblyg ac yn galluogi pawb i ddysgu ar eu cyflymder, eu hwylustod a’u lleoliad eu hunain. Rydym yn gobeithio y bydd llawer o fusnesau yn gwreiddio’r cynllun yn eu rhaglenni sefydlu staff presennol i gynyddu eu dealltwriaeth o’r cynnig twristiaeth lleol ac ymfalchïo mewn bod yn rhan o gymuned â diddordeb cyffredin. Rydym yn gyffrous iawn o fod yn lansio’r cynllun yn Sir Ddinbych gan mai hwn yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru.”

Bydd cyfres o deithiau dysgu hefyd yn cael eu cynnig i Lysgenhadon, er mwyn gwella ac ategu at y dysgu ar-lein. Bydd pobl yn cael y cyfle i ymweld ag amrywiaeth o uchafbwyntiau twristiaeth gan gynnwys Safle Treftadaeth y Byd 11 milltir, AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, a Dyffryn Clwyd. Bydd gweithdai i rannu arfer gorau ac annog gweithio mewn partneriaeth hefyd yn cael eu trefnu.

Mae nifer o fusnesau a gymerodd ran yn y profion defnyddwyr wedi cwblhau’r modiwlau ac mae’r adborth cychwynnol wedi bod yn gadarnhaol iawn –

Dywed Fiona Sayle, o Corwen Holidays:

“Rydw i mor falch fy mod wedi ennill fy Ngwobr Arian Llysgennad Sir Ddinbych. Llawer o ddiolch i Dwristiaeth Sir Ddinbych am ddarparu cwrs mor addysgiadol a diddorol. Byddwn yn argymell pawb sy’n angerddol am Dwristiaeth a Sir Ddinbych i gymryd yr her.”

Mae’r prosiect wedi derbyn cyllid drwy Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Ian Lebbon, Cadeirydd Partneriaeth Rheoli Cyrchfan Sir Ddinbych:

“Byddwn yn annog busnesau, unigolion a myfyrwyr i ddod yn Llysgenhadon Twristiaeth i ddyfnhau eu gwybodaeth o’r sir a helpu i roi hwb i’n heconomi leol. Y nod yn y tymor hwy yw creu strydoedd mawr, cymunedau a hyd yn oed trefi Llysgennad a chael ein cenhedlaeth iau i gymryd rhan drwy sefydlu Llysgenhadon Twristiaeth Ifanc.”

Am fwy o wybodaeth ynghylch y cynllun ac i gwblhau’r modiwlau, ewch i – www.denbighshireambassador.wales / www.llysgennadsirddinbych.cymru