BLASU – Yn ystod yr Hydref eleni, fe gynhelir fiesta 40 diwrnod o brofiadau yn ymwneud â bwyd, – er mwyn dathlu’r amrywiaeth wych o gynnyrch sydd gan Ogledd Ddwyrain Cymru i’w gynnig.
Bydd Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru yn rhedeg trwy fis Medi, Hydref ac i fis Tachwedd. Cynhelir 30 o ddigwyddiadau fydd yn arddangos sut y gall ymwelwyr a thrigolion lleol flasu traddodiad coginio cyfoethog y rhanbarth.
Felly, os mai achlysur tei du gyda lluniaeth wrth rafftio ar yr Afon Ddyfrdwy sydd yn mynd â’ch bryd, neu de prynhawn mewn llyfrgell cyn brif weinidog ym Mhenarlâg, Sir Fflint, neu wledda mewn gwisg ganoloesol yn amgueddfa Wrecsam, gallwn eu cynnig hwy a llawer o opsiynau eraill i chi.
Cefnogir y rhaglen gan yr asiantaeth adfywio gwledig Cadwyn Clwyd, ynghyd ag AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac awdurdodau lleol Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam.
Daw’r arian o gronfa o bron i £8 miliwn o gyllid a weinyddir gan Cadwyn Clwyd, Corwen, o Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Fe’i hariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (CAEDG) a Llywodraeth Cymru, fel rhan o gynllun chwe blynedd i adfywio cymunedau gwledig a’u heconomïau.
Bydd Cadwyn Clwyd yn cefnogi Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, ond y bwriad ar ôl hynny yw sefydlu digwyddiad blynyddol a hunangynhaliol fydd yn cynnwys profiadau bwyta, teithiau cynhyrchu, arddangosiadau, blasu, gweithdai a dosbarthiadau meistr. Yn ogystal, byddem yn cyfuno â gwyliau bwyd Llangollen, Yr Wyddgrug a Wrecsam sydd eisoes wedi eu sefydlu.
“Yr hyn ‘da ni’n wneud yw defnyddio’n bwyd gwych fel cyfrwng i arddangos yr ardal gyfan.
“Rydym wedi llunio rhaglen o brofiadau bwyd unigryw, ac rydym am i gymaint o bobl â phosibl ddarganfod, profi a bwyta’r gorau o’r hyn sydd gan Ogledd Ddwyrain Cymru i’w gynnig.
“Os ‘da chi am fynd i rafftio, am weithio mewn gardd gymunedol, mynychu gwledd ganoloesol, ymweld â fferm wyau neu chwilota am fwyd gwyllt, gellwch wneud hyn. A bydd pob achlysur yn gyfle i chi brofi blasau unigryw’r ardal.”
Mae Pip Gale, o Far Gwin Gales yn Llangollen, yn rhan o’r profiad Rafftio Rheibus (Ravenous Rafting), sef blasu canapés o gynhwysion lleol, cyn cael taith dŵr gwyn ar hyd yr Afon Ddyfrdwy ac yna mwynhau cinio dydd Sul yn Gales. Bydd hyn eto’n amlinellu cynhwysion lleol allweddol.
“Da ni’n byw mewn lle anhygoel ac mae gennym fwyd anhygoel. Ac rydym bellach am gydweithio i roi Gogledd Ddwyrain Cymru ar y map bwyd,” dywedodd.
“Mae cynnyrch yr ardal hon yn arbennig o dda. Mae pawb yn gwybod fod ein cig oen ni’n anhygoel, ond mae yma gymaint o gynhyrchwyr bwyd eraill yn paratoi cynhyrchion hyfryd sy’n haeddu cael gwell cyhoeddusrwydd, boed yn gwrw neu seidr cartref neu siocled, mêl a hufen iâ.”
“Mae Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru wedi creu amrywiaeth wych o weithgareddau sydd yn cyfuno ein tirwedd a’n treftadaeth anhygoel â’r bwyd y mae’r rhanbarth hwn yn ei gynhyrchu.
“Mae’r blasau anhygoel yma’n haeddu cael eu hadnabod yn ehangach, ac rydym o’r farn y bydd y prosiect yn cyflawni hyn drwy wneud i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd werthfawrogi beth sydd gan yr ardal i’w gynnig.”
Hyd yma mae Cadwyn Clwyd wedi dyrannu dros £5 miliwn ar brosiectau LEADER ar draws Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, ac wedi cysylltu â Grwpiau Gweithredu Lleol, a gafodd y gair olaf ar y cyllid.
Os am fwy o wybodaeth am Cadwyn Clwyd, gellwch eu ffonio ar 01490 340500, e-bostio ar admin@cadwynclwyd.co.uk
Os am fwy o wybodaeth am Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru, ewch i www.tastenortheastwales.org