Cronfa Twf Twristiaeth Sir y Fflint

Cwmni jin yn Sir y Fflint yn cynnig llwncdestun i gronfa dwristiaeth ac yn annog cwmnïau eraill i ymgeisio

underline

Lansiwyd cronfa £270,000 arbennig i hybu’r diwydiant twristiaeth yn Sir y Fflint.

Caiff busnesau sy’n cyfrannu tuag at economi ymwelwyr y sir eu hannog i ymgeisio am gyllid o ail gam Cronfa Grant Twristiaeth Sir y Fflint cyn y dyddiad cau ar Orffennaf yr 31ain.

Yn ystod cam cyntaf y rhaglen, fe ddyrannwyd 36 grant a oedd yn gyfanswm o £462,000, gan greu 15.5 swydd cyfwerth ag amser llawn a diogelu 117 o swyddi.

Cadwyn Clwyd, yr asiantaeth adfywio, sy’n gyfrifol am ddyrannu’r grantiau ac maen nhw’n galw ar gwmnïau i gysylltu gyda nhw.

Aeth swyddog partneriaethau busnes Cadwyn, Donna Hughes, i ymweld â Distyllfa Bryniau Clwyd i weld sut bu i’r perchnogion, Fiona Lewis a Simon Ollman, ddefnyddio grant o’r gyfran wreiddiol i roi hwb i’w busnes.

Tîm gŵr a gwraig ydyn nhw ac maen nhw’n cynnal y distyllfa o’u cartref yn Licswm, ger Treffynnon, gan greu’r Jin Cariad arobryn.

Fe wnaethon nhw dderbyn grant o dros £7,700, gan ddefnyddio’r cyllid i brynu cyfarpar distyllu ynghyd â chynhwysydd cludo i’w ddefnyddio fel storfa.

Bu i’r cyllid hefyd dalu am gasebo a pheiriant rhew er mwyn i’r cwpwl ei ddefnyddio mewn sesiynau blasu jin mewn bariau a digwyddiadau yn yr awyr agored.

Yn ôl Donna, roedd y distyllfa yn enghraifft wych o’r math o fusnes yr oedd y cynllun grant, a ariannwyd gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, wedi’i sefydlu i’w cefnogi.

Dywedodd:

“Mae Cronfa Twf Twristiaeth Sir y Fflint yn arbennig ar gyfer busnesau sy’n cyfrannu tuag at yr economi ymwelwyr yn Sir y Fflint yn ei chyfanrwydd.

“Rydym wedi derbyn ceisiadau llwyddiannus gan gaffis, y sector manwerthu, siopau fferm a siopau delicatessen – unrhyw beth sy’n cyfrannu tuag at yr economi ymwelwyr yn Sir y Fflint.”

Fe wnaeth Donna annog busnesau i gyflwyno’u ceisiadau cyn gynted â phosibl. Dywedodd: “Y neges i fusnesau ydy mae’n rhaid ichi fwrw iddi ar unwaith oherwydd mae’r dyddiad cau ar ddiwedd Gorffennaf.

“Dylai unrhyw fusnes sy’n ystyried ymgeisio am grant ddarllen y Nodiadau Canllaw ar wefan Cadwyn Clwyd ac yna clicio’r ddolen i’r ffurflen gais ar-lein sydd hefyd ar y wefan.

“Byddai hefyd yn ddefnyddiol pe baen nhw’n rhoi galwad i naill ai fi ar 07833 084352 neu Carwyn Jones ar 01490 340500 i egluro’n gryno ar gyfer beth mae angen y grant arnyn nhw.”

Dywedodd Fiona Lewis, a oedd yn ddiolchgar dros ben:

“Byddai wedi bod yn amhosibl inni ddatblygu’r busnes heb y grant.

“Rydym wedi datblygu’n organig; byddai wedi cymryd blynyddoedd maith inni brynu’r peiriannau a’r cyfarpar angenrheidiol.

“Yn wir, mae’r cynlluniau grant hyn yn rhan hanfodol o dwf a datblygiad cymaint o fusnesau bach.

“Un o’r pethau gorau am y rhaglen ydy gallu cysylltu gyda’r tîm mor rhwydd.

“Os ydych chi’n cael trafferth, gallwch roi galwad iddyn nhw, roedd y cymorth wnaethon ni ei dderbyn yn arbennig. Mae’r grant wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

“Er enghraifft, mae’r ardal storio sydd gennym bellach yn fodd inni brynu nwyddau mewn sypiau, sy’n arbed arian inni ac yn lleihau ein hôl-troed carbon.

“Ac erbyn hyn mae gennym ni ofod storio ar gyfer popeth rydym yn eu defnyddio ar gyfer ein digwyddiadau.

“Mae’n wych fod gennym ni’r gasebo oherwydd mae’n fodd inni dynnu sylw pobl mewn digwyddiadau, mae wedi hybu gwerthiannau heb os oherwydd gallai pobl ein gweld ni’n rhwydd ac maen nhw’n gwybod lle ydym ni.”

Fe lansiodd y cwpwl eu busnes yn 2018 ac mae eu tri o blant yn cynnig help llaw iddyn nhw gyda’r gweithrediadau’n aml.

Aeth y cwpwl ati i ddistyllu jin wedi i Simon ddioddef gwaedlif ar yr ymennydd yn ôl yn 2013 a wnaeth ei atal rhag dychwelyd i’r yrfa roedd yn ei fwynhau fel peiriannydd sifil.

Dywedodd Fiona:

“Roeddem yn chwilio am ryw fath o ffisiotherapi a fyddai’n helpu Simon ar ei daith at wella ac am rywbeth y byddai modd inni ei gyflawni gyda’n gilydd fel teulu.

“Fe aethom â Simon i ddigwyddiad jin ac fe wnaeth o flasu’r jin a dweud ei fod yn blasu fel coelcerth. O ganlyniad, fe benderfynodd rhoi cynnig ar greu jin ei hun.

“Felly dyna sut wnaethon ni gychwyn arni, fe wnes i brynu distyllbair copr 10 litr ac yn dilyn blwyddyn neu ddwy o arbrofi a pherffeithio ein ryseitiau fe wnaethom lansio yn 2018.

“Fe wnaethom ni lansio Jin Cariad ym mar gwin Archie’s ym Mhrestatyn ymhlith teulu a ffrindiau ac roedd pawb yn gefnogol iawn. Yn dilyn hynny, fe wnaeth Archie’s werthu ein jin y tu ôl i’r bar ac yna cyn pen dim roedd pobl eraill yn gofyn inni a fyddai modd iddyn nhw ei werthu yn ogystal.”

Roedd y cwpwl yn distyllu eu jin yn eu cartref i gychwyn ond erbyn hyn mae ganddyn nhw ystafell ddistyllu yn eu gardd ynghyd ag ystafell flasu.

Mae Fiona yn gweithio llawn amser yn ystod y dydd ac yn gweithio yn y busnes jin gyda’r nos ac ar benwythnosau.

Bellach mae’r distyllfa yn creu pum blas jin, gyda’u blas cyrains duon yn ennill gwobr aur yng Ngwobrau Distyllu Cymru y llynedd.

At hyn, fe gafodd Simon ei enwi’n ddistyllwr y flwyddyn yn yr un digwyddiad gwobrwyo.

Erbyn hyn mae’r cwpwl yn creu fodca hefyd gyda’u Fodca Pure and Simple yn ennill gwobr aur yn 2024 yn ogystal.

Dywedodd Fiona:

“Rydym wrth ein bodd yn gwneud hyn, yn enwedig fel teulu.

“Wnaethom ni ddim canolbwyntio ar dwf yn y gorffennol, ond byddwn yn canolbwyntio arno fel teulu yn y dyfodol, yn enwedig gan ein bod ni wedi derbyn y grant.

“Byddaf heb os nac oni bai yn annog busnesau i ddysgu mwy am y cynllun grant. Byddwch yn derbyn cymorth a chefnogaeth gwerth chweil gyda’ch cais.

“Mae yna cymaint o fusnesau bach bendigedig yn Sir y Fflint a allai elwa’n sylweddol o’r cynllun grant.”

Derbyniodd amrywiaeth o fusnesau eraill gymorth yn ystod cam cyntaf y cynllun grant, gan gynnwys mannau gwefru i Geir Trydan, paneli solar, tirlunio, ailwampio ceginau, podiau glampio, hyfforddiant a hyd yn oed clwydi defaid.

Gallai busnesau micro, bach a chanolig presennol, a busnesau newydd yn y sectorau twristiaeth ac economi ymwelwyr yn Sir y Fflint ymgeisio am grant.

Nod y prosiect ydy annog mentrau i feithrin arloesedd a buddsoddiad sy’n cyfrannu’n adeiladol tuag at yr economi twristiaeth ac ymwelwyr yn Sir y Fflint.

Ariennir prosiect Cronfa Twf Twristiaeth Sir y Fflint gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF), drwy’r flaenoriaeth fuddsoddi ‘cefnogi busnesau lleol’.

Mae nod y prosiect yn cyd-fynd gyda nodau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU i hybu cynhyrchiant, cyflogau, swyddi a safonau byw drwy hybu’r sector preifat, gan ganolbwyntio ar gefnogi mentrau micro a bach yn Sir y Fflint.