Sir Ddinbych Ffyniannus

Busnesau yn Sir Ddinbych yn cael eu hannog i ymgeisio am gyllid o’r gronfa £1miliwn

underline

Mae busnesau yn Sir Ddinbych yn cael eu hannog i ymgeisio am gyfran o gronfa sylweddol gwerth £1 miliwn sydd newydd ei chyhoeddi.

Ail ran o Gronfa Busnes Sir Ddinbych Ffyniannus ydy’r gronfa hon sydd wedi’i dyrannu gan asiantaeth adfywio Cadwyn Clwyd ac mae’n dilyn cronfa gychwynnol gwerth £1.3 miliwn y bu i bron i 100 o gwmnïau ledled y sir elwa ohoni.

Bellach mae £1 miliwn ychwanegol ar gael i’w gipio gyda grantiau o hyd at £35,000, ac mae’r dyddiad cau ar ddydd Iau, Gorffennaf yr 31ain.

At hyn, mae grantiau llai o hyd at £2,000 ar gael ac mae Cadwyn Clwyd yn disgwyl lefel yr un mor uchel o ddiddordeb y tro hwn.

Bu i gyllid o’r gyfran gyntaf helpu achub siop fferyllfa pentref 150 oed yn Nyserth. Bu i’r busnes ffynnu yn sgil derbyn y cyllid gyda diolch i system trefnu apwyntiadau cyfrifiadurol.

Ravi Kiran Palutla, y fferyllydd toddiannau, wnaeth feddwl am y syniad ar gyfer Fferyllfa Dyserth ac nid yn unig mae’r syniad wedi rhoi hwb i’w fusnes ond gallai fynd i’r afael â’r amseroedd aros maith y mae pobl yn eu hwynebu ym Meddygfeydd Cymru.

Aeth ati i ddatblygu system trefnu apwyntiadau ar-lein sy’n fodd i gwsmeriaid drefnu ymgynghoriadau wyneb-yn-wyneb er mwyn i Ravi bresgripsiynu meddyginiaethau a thriniaethau neu, lle’n briodol, cyfeirio cleifion at feddygfa.

Pan gymrodd Ravi’r awenau dros Fferyllfa Peter Morgan gynt yn Nyserth yn 2023 roedd yn ymddangos y byddai’n wynebu trafferthion i geisio goroesi ond dwy flynedd yn ddiweddarach mae’r system apwyntiadau cyfrifiadurol wedi cynyddu nifer y cwsmeriaid 44 y cant ac wedi gweld apwyntiadau’n esgyn o 20 y mis i 300.

Ariannwyd y datrysiad llwyddiannus, y system trefnu apwyntiadau cyfrifiadurol, gyda grant o £1,897 gan Gronfa Busnes Sir Ddinbych Llwyddiannus, wedi’i weinyddu gan Cadwyn Clwyd. Bellach mae’r gronfa wedi’i hail-agor ar gyfer ail gyfnod o wariant.

Ychwanegodd Ravi:

“Fe wnaeth grant o ddim ond £1,897 fy ngalluogi i ddiweddaru’r wefan i’w wneud yn fwy ymarferol a gosod system archebu gyfrifiadurol sydd wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol.

“Mae poblogaeth ardal Dyserth yn oddeutu 2,000 ac er mwyn sicrhau fy mod yn cynnal busnes dichonol, mae angen dros 4,000 o gleifion arna i ac mae’r system gyfrifiadurol wedi caniatáu imi gronni hynny.

“Gan fod yr apwyntiadau’n cael eu trefnu ar-lein does dim pwysau arnom i ateb galwadau a threfnu apwyntiadau ein hunain felly o ganlyniad rydym wedi bwrw iddi i ddatblygu gwasanaethau newydd.

“Mae’r rhain yn amrywio o drin meigryn, heintiau wrinol neu ar y frest, darparu tabledi bore wedyn i atal cenhedlu a chynnig brechlynnau Covid sydd yn ei dro wedi denu cleifion o gyn belled â Dolgellau a Chricieth.

“Rydym eisoes yn cynnig ymgynghoriadau teithio rhithiol yn ddiogel dros y we. Mae hyn yn lleihau’r angen i’r claf deithio ddwywaith i’r fferyllfa, unwaith ar gyfer ymgynghoriad, a’r ail dro ar gyfer gweinyddu’r brechlyn. Byddwn yn datblygu busnes fflebotomi preifat yn fuan.

“Rwy’n ymwybodol fod awdurdodau iechyd yng Nghymru’n bwrw golwg ar ein system ac yn dwyn i ystyriaeth y posibilrwydd o’i gynnig ledled y wlad. Cronfa Sir Ddinbych Ffyniannus sydd wedi ein galluogi i roi hyn ar waith.

“Byddwn yn ei gynnig ar raddfa lai yn fferyllfeydd Sir Dinbych i gychwyn yna bydd hyn yn gyfle inni ddysgu o’r broses weithredu. Bydd y gwersi byddwn yn eu dysgu yn ddefnyddiol ar gyfer y prosiect cenedlaethol sydd ar y gweill yn y 18 mis nesaf.”

Dywedodd Swyddog Partneriaeth Busnes Cadwyn Clwyd Donna Hughes:

“Mae’n rhyfeddol y gwahaniaeth mae wedi’i wneud i fusnes Ravi ac i fanteisio ar ofal iechyd yng Ngogledd Sir Ddinbych.

“Manteisiodd ar gyllid yn ystod cam cyntaf cronfa Sir Ddinbych Ffyniannus a allai dalu hyd at 70 y cant o werth prosiect hyd at uchafswm o £35,000 ar gyfer cynllun gwerth £50,000.

“Mae llwyddiant syniad Ravi yn dangos gallai’r math hwn o gyllid wneud gwyrthiau i fusnesau.

“Mae’n cynnig posibiliadau di-ri felly yn sgil hynny mae’n bleser gennym allu cynnig £1 miliwn pellach mewn grantiau sydd hefyd yn cynnwys cynlluniau llai o rhwng  £1,000 a £2,000.

“Roedd y cam cyntaf yn boblogaidd dros ben ac roedd hyn yn amlwg o’r nifer o grantiau roedd modd inni eu cynnig. At hyn, mae’n dangos yr angen am y math hwn o gymorth a’i effeithlonrwydd er mwyn i bobl leol ddatblygu busnesau gyda’r holl fuddion iddyn nhw a thrigolion eu cymunedau.”

Daw’r cyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin, wedi’i weinyddu gan Lywodraeth y DU, a gyhoeddodd £900 miliwn o gyllid yn eu Cyllideb yr Hydref i’w fuddsoddi’n lleol erbyn Mawrth 2026.