cyllid cronfa allweddol ar gyfer cymunedau Sir wrecsam

Cyllid o £300mil i hybu cymunedau Wrecsam

underline

Mae grwpiau gwirfoddol ledled Wrecsam ar fin derbyn hwb o £300,000 i drawsnewid cymunedau lleol.

Mae Cronfa Cymunedau Ffyniannus Wrecsam, wedi’i rheoli gan Cadwyn Clwyd ac AVOW – Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam – eisoes wedi cynnig hanner miliwn o bunnoedd ar gyfer prosiectau lleol.

Bellach mae ail gyfran o gyllid wedi’i gadarnhau a bydd yn rhaid cyflwyno’r ceisiadau i fanteisio ar ran ohoni erbyn dydd Iau, Mehefin y 26ain.

Manteisiodd cyfanswm o 28 o grwpiau a mudiadau cymunedol o ledled y fwrdeistref sirol ar Gam Cyntaf y Gronfa, ac mae Cam Dau yn golygu cyfanswm o £800,000 ar gyfer y sir, rhan o gyfres ehangach o brosiectau wedi’u rheoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a ariannwyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Roedd grantiau cam cyntaf y cyllid yn amrywio o £38,000 ar gyfer Ardal Chwarae i Blant Bach yn Yr Orsedd a £47,000 tuag at gyfleuster chwaraeon Plas Kynaston yng Nghefn Mawr i £6,000 ar gyfer grŵp Cerdded Nordig yn Erddig a £7,600 tuag at y Ddôl Meddylgarwch yn Y Waun.

Dywedodd Rheolwr Menter Gymunedol Cadwyn Clwyd: “Roedd ymateb wych i gam cyntaf y cyllid felly mae’n bleser gennym allu cynnig ail gyfle i gymunedau lleol ymgeisio.

“Roedd yna nifer fawr o gynigion cadarnhaol dros ben i elwa cymunedau lleol ledled Wrecsam yn ystod y cam cyntaf ac rydym yn sicr y byddwn yn gweld ymateb tebyg yn ystod yr ail gyfle.

“Bydd grantiau o hyd at £50,000 o Refeniw a £35,000 o Gyfalaf ar gyfer ystod eang o brosiectau o grwpiau gwirfoddol a chymunedol, cynghorau cymuned, elusennau, mentrau cymdeithasol a chydweithfeydd.

“Felly os ydych chi’n awyddus i ailwampio eich neuadd bentref neu gyfleusterau chwaraeon, datblygu mannau gwyrdd a gerddi, prosiectau celf a chrefft neu hyd yn oed cychwyn cynllun cynhyrchu ynni adnewyddadwy, rhowch alwad inni.

“Roedd y cam gyntaf yn hynod boblogaidd ac roedd wedi’i or-danysgrifio’n aruthrol sy’n dangos angen ac effeithiolrwydd y math hwn o gymorth cymunedol i drigolion lleol allu meithrin cydnerthedd mewn cymunedau ledled Bwrdeistref Wrecsam.”

Jo Young, Swyddog Cyllid a Grantiau AVOW sy’n cydweithio gyda Helen Williams, Cadwyn Clwyd i weinyddu’r cynllun a dywedodd: “Roedd y cam cyntaf yn hynod boblogaidd gyda deilliannau ardderchog ar gyfer cymunedau ledled Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac mae’n bleser gennym allu cynnig ail gyfran o gyllid.

“Mae hyn yn cynnig cyfle arall i grwpiau lleol fanteisio ar gyllid i drawsnewid a gwella eu gwasanaethau ac amgylcheddau a darparu cyfleusterau modern a llawn dychymyg i’w cymunedau.

“Y tro hwn dim ond hyn a hyn o amser mae’r cynllun ar waith a bydd yn rhaid i grwpiau fod yn barod i fwrw iddi gyda’u prosiectau er mwyn eu cwblhau erbyn Ionawr yr 31ain.

“Os oes ganddyn nhw unrhyw ymholiadau mae croeso iddyn nhw roi galwad i Helen neu minnau oherwydd ein rôl ni ydy eu helpu drwy’r broses a chefnogi grwpiau cymunedol i gyflawni eu prosiectau.”

Yn ystod cam cyntaf y Gronfa Allweddol Gymunedol, derbyniodd 28 prosiect ledled Bwrdeistref Sirol Wrecsam grantiau ar gyfer ystod eang o brosiectau gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a dderbyniodd £900 miliwn ychwanegol yng Nghyllideb yr Hydref i’w fuddsoddi’n lleol erbyn Mawrth 2026.

I wybod mwy, cysylltwch gyda Helen Williams, Cadwyn Clwyd, ar 01490 340500, e-bost: helen.williams@cadwynclwyd.co.uk neu ewch i http://cadwynclwyd.co.uk/ neu Jo Young, yn AVOW, ar 01978 312556, e-bost jo.young@avow.org