Gallai trefi a phentrefi ledled Sir y Fflint elwa o gronfa gwerth bron i £400,000 i uwchraddio eu cymunedau lleol – ond y cyntaf i’r felin gaiff falu.
Mae’n ail ran o Gronfa Allweddol Gymunedol Sir y Fflint wedi’i dosbarthu gan Cadwyn Clwyd a Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint a hynny ar sodlau’r gronfa gychwynnol gwerth £775,000.
Manteisiodd dros 50 o grwpiau a mudiadau cymunedol ledled y sir ar Gam Un y Gronfa Allweddol Gymunedol, ac mae Cam Dau yn golygu cyfanswm o dros £1.1miliwn ar gyfer y sir, sy’n rhan o gyfres ehangach o brosiectau o dan ofal Cyngor Sir y Fflint sydd wedi’u hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Y dyddiad cau ar gyfer y gyfran ddiweddaraf o gyllid o gronfa gwerth £375,000 ydy dydd Sul, Mehefin yr 8fed, a dywedodd Rheolwr Menter Gymunedol Cadwyn Clwyd Helen Williams: “Cawsom ymateb aruthrol i’r gyfran gyntaf o gyllid a oedd yn boblogaidd dros ben ac rydym yn disgwyl ymateb tebyg.
“Bydd grantiau o hyd at £35,000 am ystod eang o brosiectau cymunedol o adfywio neuaddau pentref, cyfleusterau chwaraeon, mannau gwyrdd a gerddi i gynhyrchu ynni adnewyddadwy, rheoli gwastraff a chynlluniau diwylliannol.
“At hyn, bydd grantiau o hyd at £5,000 ar gyfer gwaith cyn prosiectau megis astudiaethau dichonoldeb ac adroddiadau ymgynghoriaeth arbenigol.
“Roedd y cam gyntaf yn hynod boblogaidd ac roedd wedi’i or-danysgrifio’n aruthrol sy’n dangos angen ac effeithiolrwydd y math hwn o gymorth cymunedol i drigolion lleol allu meithrin cydnerthedd mewn cymunedau ledled Sir y Fflint trefol a gwledig.”
Dywedodd Shaun Darlington o Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint, sy’n cydweithio gyda Helen: “Roedd y cam gyntaf yn boblogaidd iawn. Roedd y grwpiau’n ddiolchgar dros ben ac roedd y deilliannau’n arbennig.
“Y tro hwn dim ond hyn a hyn o amser mae’r cynllun ar waith a bydd yn rhaid i grwpiau fod yn barod i fwrw iddi gyda’u prosiectau er mwyn eu cwblhau erbyn Tachwedd y 30ain.
“Mae bob amser yn bwysig i unrhyw un sydd ag unrhyw ymholiad i roi galwad i Helen neu minnau oherwydd ein rôl ni ydy eu helpu drwy’r broses.”
Yn ystod cam cyntaf y Gronfa Allweddol Gymunedol, derbyniodd 53 prosiect ledled Sir y Fflint grantiau am ystod eang o brosiectau o £2,900 am fyrddau newydd yn Neuadd Bentref Llanasa i £47,000 am lawr newydd y tu mewn ac ‘astro-turf’ y tu allan yng Nghlwb Criced Cei Connah.
Daw’r cyllid o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, wedi’i weinyddu gan Lywodraeth y DU, a wnaeth gyhoeddi eu Cyllideb Hydref o £900 miliwn ychwanegol o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn Mawrth 2026.
I wybod mwy, cysylltwch gyda Helen Williams, Cadwyn Clwyd, ar 01490 340500, e-bost: helen.williams@cadwynclwyd.co.uk neu ewch i http://cadwynclwyd.co.uk/ neu Shaun Darlington, Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint, ar 01352 744027.