Mae coetir rhyfeddol â grewyd gan gynweithiwr cymdeithasol yn trawsnewid bywydau yn ogystal â chefn gwlad ar ffiniau Sir Ddinbych a Sir y Fflint.
Syniad Lucy Powell yw Outside Lives, ac gyda’i thîm o bron i 200 o wirfoddolwyr yn troi’r tir o amgylch Neuadd Aberduna, ger Maeshafn, yn faes breuddwydion ecogyfeillgar.
Mae’r prosiect yn cael ei helpu gan ddau grant gwerth cyfanswm o bron i £60,000 o Gronfa Cymunedau Gwyrdd, gwerth £1.3 miliwn sy’n cael ei rhedeg gan yr asiantaeth adfywio gwledig Cadwyn Clwyd.
Mae’r prosiect Cymunedau Gwyrdd yn cael ei gefnogi gan raglen Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW) Llywodraeth Cymru a’i ariannu drwy Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD).
Mae’r Gronfa’n cefnogi prosiectau cynaliadwy a arweinir gan y gymuned ar draws ardaloedd gwledig Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Chonwy, a nod Cymunedau Gwyrdd yw dod â phobl a natur ynghyd i drawsnewid eu hardal leol yn le mwy dymunol i fyw, gweithio a ymweld. Mae’r gronfa hefyd yn anelu i gynyddu cyfleoedd i wirfoddoli’n lleol yn yr awyr agored tra hefyd yn creu cyfleoedd i fywyd gwyllt ffynnu.
Mae Cymunedau Gwyrdd wedi cynnig grantiau o hyd at £30,000 a throsodd i fwy na 30 o gymunedau gwledig yn Sir Ddinbych, Conwy, Sir y Fflint a Wrecsam i gymryd rhan yn y prosiect.
Dywedodd Lucy: “Fe wnaeth y grant cyntaf ein helpu i adeiladu’r llwyfannau gwylio bywyd gwyllt sy’n cael eu defnyddio’n aruthrol gan ymwelwyr â’r safle ac ers hynny mae’r arian o’r gronfa Cymunedau Gwyrdd wedi ein helpu i ddarparu toiledau anabl ar frig a gwaelod y llwybrau cadair olwyn rydym wedi eu creu.
“Rydym hefyd wedi achub y pwll a grewyd yn wreiddiol gan fy nhad – mae fy rhieni’n hyw yn Neuadd Aberduna – ac mae’n hafan i fywyd gwyllt ac rydym hefyd yn creu coridor bywyd gwyllt sy’n cysylltu ein coetir â darn cyfagos sy’n eiddo i Coed Cadw.
“Mae grantiau Cadwyn wedi golygu ein bod wedi gallu gwneud yn siwr bod lleoedd i bobl yma a lleoedd i natur na allwn eu cyffwrdd ond gallwn weld beth sy’n digwydd yno.”
Dywedodd Rheolwr Prosiect Cymunedau Gwyrdd Cadwyn Clwyd, Haf Roberts: “Mae’r tîm yn Outside Lives wedi gweithio’n galed iawn i wthio gwelliannau ymlaen ar y safle gyda cymorth gan Cymunedau Gwyrdd.
“Mae’n galluogi’r gymuned leol i elwa o’r asedau amgylcheddol a gynigir gan y pwll a’r llwyfan gwylio, a’r cyfleoedd addysgol a llês a gynigir gan yn yr ystafell ddosbarth a mannau cwnsela mewn lleoliadau amrywiol ar y safle.
“Cwblhawyd y gwaith mewn dau gam – y cyntaf gyda grant o ychydig llai na £30,000 a’r ail gyda grant o £28,600; cyfanswm o £58,600.
“Mae’n wych gweld cymaint o waith o safon yn cael ei wneud mewn ffordd ddyfeisgar mewn cyfnod byr o amser.
“Mae’r prosiect yn galluogi’r gymuned leol i gysylltu â byd natur drwy’r cyfleusterau awyr agored a ddarperir ar y safle, gan ddod â buddion amgylcheddol tra hefyd yn cefnogi lles personol a thwf.”
Cafodd cysyniad Lucy ddechrau anodd wrth i Covid darro gyda’u lansiad ychydig ddyddiau i ffwrdd. Ond, fe wnaethom nhw oroesi’r storm honno ac mae hi’n credu eu bod wedi bod i’r amlwg ohono yn sefydliad cryfach a mwy amrywiol.
Maent hefyd wedi gweithio’n galed i’w wneud yn gynaliadwy, gan ddefnyddio ynni’r haul cymaint â phosibl a defnyddio cynaeafu dŵr glaw i ychwanegol at eu prif gyflenwad dŵr a dynnir o ffynnon leol.
Meddai: “Fe wnaethon ni ddechrau’r prosiect hwn yn 2019 ar roedden ni’n barod i fynd yn 2020 pan darodd y cloi cyntaf ond mewn ffordd sydd wedi gweithio ar ein mantais ni oherwydd roedd yn rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd eraill o barhau ac felly fe aethon ni â’r prosiect ar-lein.
“Fe aethon ni â’n dosbarthiadau ar-lein a chreu cymuned yno a wnaeth i ni sylweddoi nad lle yn unig oedd Outside Lives, ei fod yn gysyniad y gellid ei gyflwyno mewn pob math o ffyrdd.
“Rydyn ni nawr yn cynnal diwrnodau cymunedol mewn lleoliadau yn yr Wyddgrug felly ma hynny’n ein gwneud ni’n sefydliad gydol y flwyddyn sy’n bwysig oherwydd dydyn ni ddim eisiau gor-fanteisio ar y safle yma.
“Mae’n rhaid i ni fod yn sensitif i anghenion y lle yma ac mae hynny’n golgyu bod ar y ffordd a mynd allan i’r cymunedau lle mae ein hangen fwyaf.
“Rwy’n sicr yn teimlo fy mod wedi gallu cael effaith gadarnhaol ar fwy o fywydau yma nag y gallwn fel gweithiwr cymdeithasol.”
Mae Outside Lives wedi’i leoli ychydig y tu allan i Gwernymynydd, o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac mae hefyd yn cael ei gefnogi gan Adran Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych.
Am fwy o wybodaeth am Cadwyn Clwyd cysylltwch â nhw ar 01490 340500, e-bostiwch: admin@cadwynclwyd.co.uk