Mae prosiect Arloesi Cymunedol Sir Ddinbych yn ddull bartneriaith rhwng Asiantaeth Datblygiad Gwledig Cadwyn Clwyd a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych. Bydd y gweithgareddau yn ffocysu ar ddatblygiad economaidd lleol a arweinir gan gymunedau, a fydd yn galluogi cymunedau daearyddol a sectoraidd o fewn Sir Ddinbych i wireddu a meithrin arloesedd ac agwedd entrepreneuaidd ar lefel lleol a micro. Bydd prosiect Cronfa Adnewyddu Cymunedol y Deyrnas Unedig yn ymddwyn fel catalydd ar gyfer ymyrraeth bellach drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Bydd elfen Cadwyn Clwyd yn cyflawni’r gweithgareddau canlynol:
Byddwn yn cyflawni buddsoddiad mewn busnesau lleol a chymunedau drwy gefnogi cymunedau, busensau a entrepreneuriaid ar lefel micro a lleol er mwyn rhyddhau eu potensial creadigol a chefnogi arloesedd. Bydd gweithgareddau yn ffocysu ar:
Byddwn yn gweithio gyda:
Os ydych yn grŵp cymunedol yn Sir Ddinbych sydd â syniad am brosiect, y cam cyntaf yw datgan eich diddordeb drwy lenwi Datganiad o Ddiddordeb (DoD). Ceir manylion llawn yn y Nodiadau Cyfarwyddyd.
Dychwelwch y DoD drwy e-bost at: admin@cadwynclwyd.co.uk gan gyfeirio at Arloesedd Cymunedol Sir Ddinbych yn y llinell bwnc.
Os ydych yn fusnes ac eisiau gwneud cais am Grant Arloesedd Sir Ddinbych, cyfeiriwch at y Nodiadau Cyfarwyddyd.
Os ydych yn meddwl eich bod yn bodloni’r meini prawf ar gyfer cyllid grant, cwblhewch y Datganiad o Ddiddordeb a’i ddychwelyd drwy e-bost at gwawrelena@barsbyassociates.com gan gyfeirio at Grant Arloesedd Sir Ddinbych yn y llinell bwnc.
Mae Cadwyn Clwyd (Asiantaeth Datblygu Gwledig) wedi ymuno ag arbenigwyr ynni DEG (Datblygiadau Egni Gwledig) i gynnig 12 archwiliad ynni am ddim i sefydliadau yn Sir Ddinbych sy’n rheoli adeiladau cymunedol. Mae’r argyfwng hinsawdd presennol a’r argyfwng costau byw yn cyflwyno heriau mawr i grwpiau cymunedol sy’n rhedeg adeiladau cymunedol hanfodol, megis neuaddau pentref a… Read More…
Mae arloeswyr ac entrepreneuriaid sydd â syniadau am brosiectau cynaliadwy yn cael eu hannog i wneud cais am grantiau a fydd yn ysgogi adferiad economaidd ôl-Covid yn Sir Ddinbych. Dan arweiniad Cadwyn Clwyd a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSDd), bydd prosiect Arloesedd Cymunedol Sir Ddinbych gwerth £600,000 yn canolbwyntio ar annog cwmnïau micro, grwpiau… Read More…
Mae Cronfa Adfywio Cymunedol y DU yn rhaglen Llywodraeth y DU ar gyfer 2021/22. Nod hwn yw cefnogi pobl a chymunedau sydd fwyaf mewn angen ledled y DU i dreialu rhaglenni a dulliau newydd i baratoi ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredinol y DU. Mae’n buddsoddi mewn sgiliau, cymuned a lleoedd, busnes lleol, a chefnogi pobl i mewn i gyflogaeth. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-community-renewal-fund-prospectus