O’r gymuned a thu hwnt

Arloesi mewn argyfwng

underline

Diweddariad gan Rhwydwaith Cymru Wledig

Mae asiantaethau menter lleol ar flaen y gad o ran cefnogi busnesau a chymunedau lleol yn ystod pandemig Covid-19. Drwy ysgogi rhwydweithiau lleol ac adeiladu ar gysylltiadau cryf ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol, mae’r asiantaethau hyn wedi ymateb yn gyflym i roi ymatebion hyblyg, arloesol ar waith. Mae llawer o’r asiantaethau lleol yn cael eu hariannu gan LEADER, sef rhaglen yr UE sy’n galluogi Grwpiau Gweithredu Lleol i ymateb yn gyflym i faterion a chyfleoedd lleol.

» Yng ngogledd-ddwyrain Cymru, gweithredodd Cadwyn Clwyd a’r Grwpiau Gweithredu Lleol yn sir Ddinbych, sir y Fflint a Wrecsam yn gyflym i ddatblygu a threialu ffyrdd newydd o ddarparu cymorth cymunedol rheng flaen yng nghyd-destun Covid-19.  Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o brosiectau gyda mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol fel rhwydweithiau gwirfoddol sy’n darparu gwasanaethau sylfaenol hanfodol, defnyddio technoleg i gefnogi pobl ag anableddau dysgu yn sir y Fflint wledig a threialu ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau bwyd i bobl sy’n agored i niwed yn Wrecsam wledig gyda phwyslais ar gyrchu’n lleol ac yn gynaliadwy.

» Mae Menter Môn yn gweithio ledled Ynys Môn a Gwynedd.  Mae gwybodaeth ganolog ar wefan Menter Môn yn dweud wrth bobl pa fusnesau  a sefydliadau sy’n cynnig cymorth ar Ynys Môn. Yng Ngwynedd, drwy Arloesi

Gwynedd, mae “Carwen”, un o geir trydan y gymuned wedi’i addasu i gael ei ddefnyddio i gyflenwi bwyd yn Nyffryn Ogwen. Caiff ei bweru gan PV solar digarbon sydd newydd ei osod.

» Mae Antur Teifi yn rhoi cymorth i fusnesau drwy alwadau ffôn, gweminarau ac amrywiaeth o lwyfannau technoleg i estyn allan at fusnesau a chymunedau. Mae wedi gallu cael gafael ar adnoddau’n gyflym o Gronfa Fferm Wynt Brechfa i helpu gwasanaethau rheng flaen.

» Mae PLANED yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o gefnogi cymunedau sir Benfro. Mae wedi hyrwyddo enghreifftiau o fentrau gwirfoddoli cymunedol gwych sy’n defnyddio siopau pentref a neuaddau pentref. Mae PLANED wedi defnyddio podlediadau i hyrwyddo’r mentrau hyn yn ogystal â’r cymorth sydd ar gael gan amrywiaeth o asiantaethau.

Mae cael pwynt cyswllt lleol uchel ei barch, y gellir ymddiried ynddo, wedi bod yn bwysig i bobl sy’n chwilio am gymorth ar yr adeg anarferol hon. Mae’r argyfwng presennol wedi taflu goleuni ar yr effeithiau hanfodol y gall y rhwydwaith o asiantaethau cadarn hyn sy’n canolbwyntio ar arloesi eu sicrhau.

» Yn ddiweddar, mae Menter Môn a bwytai Dylan’s wedi lansio menter o’r enw Neges i ddanfon parseli bwyd i Ynys Môn a Gwynedd. Roedd yn bwysig bod cymaint o fwyd lleol â phosib yn cael ei gyrchu ar gyfer y fenter hon. Llwyddodd Menter Môn i ddwyn ynghyd bartneriaid megis y Ganolfan Technoleg Bwyd, Llangefni ar gyfer diogelwch bwyd, yr awdurdodau lleol ar gyfer atgyfeiriadau a chynhyrchwyr bwyd lleol drwy Môn Larder. Cafodd hyn i gyd ei wneud mewn 10 diwrnod, gan adeiladu ar yr ymddiriedaeth sydd gan sefydliadau ym Menter Môn a defnyddio’i chysylltiadau lleol sydd wedi hen ennill eu plwyf.

» Mae PLANED yn poeni’n ofnadwy am drafferthion microfusnesau yn y sector twristiaeth. Mae gan y sefydliad enw da yn rhyngwladol am gefnogi mentrau twristiaeth yn y gymuned a bydd yn defnyddio ei wybodaeth, ei arbenigedd a’i rwydweithiau i helpu’r sector i ailadeiladu.

» Mae Antur Teifi yn nodi bod nifer yr ymwelwyr mewn rhai trefi yng Nghymru wedi gostwng 90% yn ystod achosion Covid-19. Dywed un bragdy y gallai cymaint ag un o bob deg tafarn gau. Mewn ardaloedd gwledig, y

busnesau hyn yw un o’r cysylltiadau cymdeithasol olaf mewn cymunedau. Bydd angen cymorth hyblyg, ystwyth ar ardaloedd gwledig wrth i’r economi ailadeiladu er mwyn manteisio ar gyfleoedd newydd mewn byd sydd wedi newid.

» Mae Cadwyn Clwyd wedi sefydlu prosiect cydweithredu LEADER gwerth £54,000 i helpu cymunedau gwledig ledled gogledd-ddwyrain Cymru i frwydro yn erbyn epidemig coronafeirws. Mae’r sefydliad yn gweithio gyda dros 20 o fentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol i sicrhau bod gwasanaethau sylfaenol a hanfodol yn cael eu darparu i gymunedau gwledig. Mae’r prosiect cydweithredu hefyd yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â thlodi a gweithio gyda grwpiau difreintiedig. Mae Cadwyn Clwyd hefyd yn darparu cronfeydd ffermydd gwynt yng Nghonwy a sir Ddinbych i gefnogi cymunedau yn ystod yr argyfwng presennol. Mae ganddo hanes o sicrhau bod cyllid yn cyrraedd llawr gwlad ac o gefnogi, galluogi a grymuso i wneud gwir wahaniaeth i’w cymunedau wrth iddynt wynebu dyfodol ansicr.

Mae’r gallu i ddwyn ynghyd sefydliadau a busnesau ar draws sectorau wedi bod yn ffactor allweddol yn llwyddiant y cynlluniau arloesol hyn. Fodd bynnag, yn fwy na hyn, mae wedi gallu gweithredu’n gyflym i ymateb i syniadau newydd ac i gynnig atebion. Nid yw’r gallu i wneud hyn wedi digwydd dros nos. Mae’r sefydliadau hyn wedi hen ennill eu plwyf yn eu cymunedau, mae pobl yn ymddiried ynddynt ac mae ganddynt enw da am gyflawni. Maent wedi gweithio gyda chymunedau, busnesau bach a microfusnesau ers blynyddoedd lawer. Roedd Antur Teifi yn dathlu ei ben-blwydd yn 40 y llynedd. Dathlodd PLANED 30 mlynedd o gefnogaeth i ddatblygu lleol dan arweiniad y gymuned yn 2018 ac mae Cadwyn Clwyd a Menter Môn wedi cyrraedd eu carreg filltir 25 mlynedd.  Mae’r cyfan ar un adeg wedi’u hariannu gan LEADER, (nid yw Antur Teifi yn rhoi’r rhaglen ar waith mwyach), rhaglen yr UE sy’n cefnogi arloesedd lleol ym maes datblygu economaidd. Mae’r sefydliadau, gan weithio drwy Grwpiau Gweithredu Lleol, yn gweithredu ar lefel gymunedol i nodi cyfleoedd, gan ddwyn ynghyd atebion posibl, wedyn treialu a thyfu menter arloesol briodol. Ni fydd Cymru’n gymwys ar gyfer LEADER yn y dyfodol gan fod y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd

Mae angen adeiladu ar gryfderau a phrofiad LEADER mewn rhaglenni datblygu economaidd newydd ar gyfer Cymru. Mae angen i enw da’r Asiantaethau Menter sydd wedi’u sefydlu’n lleol fod yn ddull cyflawni ar gyfer meithrin entrepreneuriaid newydd, cryfhau cadwyni cyflenwi lleol a datblygu sgiliau newydd ar gyfer y cyfnod ar ôl Covid-19 yng Nghymru. Mewn ardaloedd gwledig yn arbennig, mae’r gwaith lleol hwn yn cefnogi, yn meithrin ac yn ehangu menter gan ddefnyddio’r Gymraeg.

Mae pobl eisoes yn meddwl sut y gellir cynnal datblygiadau arloesol ac egni a sut y gall economïau lleol ffynnu ar ôl i’r pandemig dawelu. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod coronafeirws wedi newid ein bywydau yn ddramatig a bydd yn cael effaith barhaol ar bob un ohonom. Mae wedi galw am syniadau, ond nid dyma’r amser i fenter newydd “gael gwared ar yr hen syniadau”. Dyma’r amser i ariannu’r asiantaethau lleol hynny sy’n gallu gweithio ar draws sectorau, gan weithredu’n gyflym a sbarduno arloesedd yn y gymuned.

 

Mwy o wybodaeth

» Antur Teifi https://twitter.com/antur_teifi/status/1247511349867020289

» Cadwyn Clwyd https://cadwynclwyd.co.uk/providing-leader-funds-frontline-support/

» Menter Môn https://www.mentermon.com/ên/priosectau/ymateb-i-covid-19/

» PLANED http://planed.libsyn.com/