Cydweithredu a Datblygu’r Gadwyn Gyflenwi’r

Prosiect Mynediad Digidol

underline

Derbyniodd Prosiect Mynediad Digidol NEWYDD arian prosiect gan gynllun Cydweithredu a Datblygu’r Gadwyn Gyflenwi’r Cynllun Datblygu Gwledig a oedd â’r nod o leihau allgáu digidol yng nghefn gwlad gogledd-ddwyrain Cymru. Trwy ddull partneriaeth yn cyflogi 2 swyddog cyfwerth ag amser llawn, nod y prosiect oedd datblygu camau gweithredu cydweithredol i alluogi atebion i rwystrau y mae cymunedau lleol yn eu hwynebu wrth gael mynediad i seilwaith digidol. Amlygwyd yr angen am y prosiect ymhellach drwy effaith pandemig Covid-19 ar gymunedau gwledig. Ymgysylltodd y prosiect yn weithredol â phartneriaid, rhanddeiliaid, cymunedau, busnesau a thrigolion i fynd i’r afael ag allgáu digidol.