Bu i fusnesau blaenllaw o Langollen a’r fro fanteisio ar gyfle gan Glwb Bwyd Da Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy i gymryd rhan yn yr hyfforddiant Gwasanaeth Cwsmer Aur Welcome Host er mwyn gofalu bod eu timau staff yn bodloni safonau gwasanaeth cwsmer rhyngwladol.
Cafodd y cwrs ei gynnal gan Cadwyn Clwyd sy’n derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Cynllun Datblygu Gwledig 2014 – 2020. Fe gaiff y cynllun ei ariannu drwy Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Ymysg y busnesau wnaeth anfon eu staff ar y cwrs oedd Neuadd Tyn Dwr, Gales of Llangollen, ManorHaus, One Planet Adventure, Riverbanc, the Sun Trevor a ProAdventure.
Roedd y cwrs yn un diwrnod llawn a oedd yn arwain at ennill cymhwyster City & Guilds mewn Gwasanaeth Cwsmer. Roedd y cwrs yn ymdrin â sut i fynd i’r afael â sefyllfaoedd heriol, newid cwynion i fod yn brofiad cadarnhaol a sut i ddatblygu perthnasau parhaol sy’n annog pobl i fanteisio ar wasanaethau eto ac i argymell y gwasanaethau. Gan ymwneud â phwysigrwydd gwasanaeth cwsmer, bu’r cwrs yn sôn sut gall pryniant o £10 arwain at werth £50,000 o fusnes yn y dyfodol os gaiff y pryniant cyntaf ei drin yn effeithiol.
Dywedodd Pip Gale, perchennog a rheolwr Gales Wine Bar yn Llangollen “Roedd yn gyfle gwych a oedd yn ymdrin â’r tasgau hynny y mae disgwyl inni eu cyflawni. Fe wnes i ddysgu llawer yn y cwrs, gan gynnwys ffordd newydd o sgwrsio gyda fy nhîm ynghylch rhoi ein gwerthoedd ar waith. Rydw i’n edrych ymlaen at weld beth mae fy staff wedi ei ddysgu yn y cwrs hefyd”. Dywedodd Mathew Povey o Neuadd Tyn Dwr , Llangollen y bu’r diwrnod yn “gwrs arbennig a wnaeth ennyn fy niddordeb gyda syniadau a dulliau newydd y bydd modd imi eu rhoi ar waith ar unwaith. Rydw i’n edrych ymlaen at rannu’r syniadau hyn gyda gweddill y tîm yn Neuadd Tyn Dwr.”
Dywedodd Robyn Lovelock, cydlynydd Clwb Bwyd Da Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy “Rydw i wrth fy modd y bu’r hyfforddiant mor llwyddiannus. Gyda’r holl fusnesau ynghlwm yn rhannu eu degawdau o brofiad gwasanaeth cwsmer gyda gweddill aelodau’r cwrs hyfforddiant. Roedd pwysau mawr er mwyn gofalu ei fod yn cynnig gwybodaeth o’r newydd a ffyrdd newydd o ddenu cwsmeriaid. Arwyddair ein tref ydy ‘Ble mae Cymru’n Croesawu’r Byd’ felly roedd hyn yn gyfle gwych i fusnesau wirio ydyn nhw’n bodloni safonau o’r radd flaenaf . Bydd y cwrs hefyd yn sail wych ar gyfer cynllunio busnes er mwyn cymryd rhan yn rhaglen Llysgennad Sir Ddinbych hwyrach ymlaen eleni.”