Gwirfoddoli yn y Gwanwyn – digwyddiad i arddangos gwaith gwirfoddol ar Ebrill y 25ain ym Mhlas Pentwyn, Coedpoeth. Dewch draw i fwrw golwg ar amrywiaeth a phwysigrwydd gwirfoddolwyr i fudiadau a grwpiau lleol ynghyd â’r gymuned. Bydd nifer o weithgareddau ymarferol ichi roi cynnig arnyn nhw fel bragu seidr a phladuro.
Prosiect gwerth miliynau o bunnoedd i newid safle gwaith dur hanesyddol gynt i fod yn safle diwydiannol hanesyddol mwyaf blaenllaw Prydain yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr.
Mae gan Ymddiriedolaeth Treftadaeth Brymbo griw o dros 120 o bobl sy’n rhoi o’u hamser ac egni i adfer y safle diffaith ger Wrecsam.
Bu i’r Ymddiriedolaeth fynd ati gyda phrosiect £5 miliwn i adfer adeiladau yn hen safle gwaith dur Brymbo a oedd, yn ei anterth, yn cyflogi 2,500 o weithwyr ac yn cludo dur o safon o amgylch y byd.
Cafodd dur ei gynhyrchu ym Mrymbo am y tro cyntaf ym 1795 a phan fu i’r ffatri gau ym 1990 pan gollodd 1100 eu swyddi, roedd yn ysgytwad sylweddol i’r ardal. Fodd bynnag, mae cynlluniau uchelgeisiol yr Ymddiriedolaeth eisoes yn dwyn ffrwyth – yn llythrennol.
Mae perllan i dyfu afalau er mwyn bragu seidr, mae cychod gwenyn er mwyn creu mêl hefyd caiff Coedwig Ffosiliau wedi ei ddadorchuddio gan fwyngloddio brig ei gynnal. Mae hefyd cynlluniau uchelgeisiol ar y gweill i ailgysylltu’r safle gwaith dur i’r rhwydwaith rheilffordd.
Er hyn, mae angen mwy o rym gwirfoddolwyr a bu i asiantaeth adfywio gwledig Cadwyn Clwyd gydweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i gynnal diwrnod hyfforddi gwirfoddolwyr mis nesaf.
Bydd y diwrnod hyfforddi ar ddydd Iau, Ebrill y 25ain ym Mhlas Pentwyn, Coedpoeth. Bydd y digwyddiad yn cynnig cyflwyniad i wirfoddoli ar gyfer trigolion yr ardal sy’n dymuno gweithio er lles eu cymuned.
Mae’r digwyddiad yn ymwneud gyda Chwarel Y Mwynglawdd Ymddiriedolaeth Treftadaeth Brymbo – lle mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn cynnal cynllun sylweddol – a sawl prosiect a grŵp yn ardal Wrecsam. Bydd y gwaith yn ymwneud â Groundwork, Yr Ymddiriedolaeth Coetir, AVOW, Grŵp Gerddi Plas Pentwyn a Chlwb Camera Coedpoeth.
Bu i’r prosiect dderbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Cynllun Datblygu Gwledig 2014-2020, gaiff ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Caiff y prosiect ei ariannu gan Cadwyn Clwyd gyda chyllid LEADER drwy Grŵp Gweithredu Lleol Wrecsam. Mae yna dal oddeutu £500,000 o gyllid yn weddill yn Wrecsam o gronfa £2.6 miliwn fel rhan o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Cynllun Datblygu Gwledig 2014-2020.
Dywedodd Lynze Rogers, Cydlynydd Gwirfoddolwyr yn Ymddiriedolaeth Treftadaeth Brymbo: “Mae gwirfoddolwyr yn annatod i’n gwaith yma, ac mae gennym ni dros 120 o wirfoddolwyr yn cyflawni bob math o swyddi yma. Fodd bynnag, mae angen mwy arnom, yn enwedig pobl sy’n fodlon torchi eu llewys i adfer y safle hwn.
“Mae’n fan sylweddol ac mae’n glodfawr iawn am ei hanes ond hefyd am ei goedwig ffosiliau, y bywyd gwyllt yma a’r prosiectau fel ein Seidr Treftadaeth Brymbo a’r cychod gwenyn.
“Mae dal angen mwy o wirfoddolwyr arnom ni, yn enwedig pobl sy’n fodlon torchi eu llewys a helpu. Mae sawl budd iddyn nhw hefyd oherwydd mae gwirfoddoli fel hyn yn ffordd wych o gyfarfod pobl newydd, dysgu sgiliau newydd a gall fod yn ffordd ichi fynd rhagddi i ddod o hyd i waith.”
Dywedodd un gwirfoddolwr, Holly Wilcock, 29 o Rhos: “Fe ddoes i yma am dro un diwrnod, wnes i gyfarfod â’r bobl yma a phenderfynu dechrau gwirfoddoli yma.
“Roedd pobl wastad yn dweud fod gen i ddawn am werthu, felly fe es i ati i sefydlu safle ebay i werthu eitemau wedi eu cyfrannu inni ac fe wnes i lwyddo i ennill £2,000. Roeddwn i arfer gweithio yn y byd adwerthu ond roeddwn i’n mwynhau codi arian yma cymaint fel imi geisio am swydd gydag elusen Tŷ Gobaith. Bues i’n llwyddiannus gyda fy nghais swydd ond rydw i’n dal i wirfoddoli yma.”
Bu Holly yn dysgu sut i weldio, gan Paul Bowen, 58 o Southsea oedd yn gweithio yn yr adran archwilio yn y safle gwaith dur am bedair blynedd.
Mae Paul yn cynnig cyfle i rai o’r gwirfoddolwyr ddysgu rhai o’i sgiliau a dywedodd: “Roedd y dur gorau yn y byd, ac roeddwn i wrth fy modd yma. Mae’n siŵr y buaswn i’n dal yn gweithio yma pe bai’r safle dal ar agor. Roeddwn i wrth fy modd gyda’r bobl, yr amgylchedd teuluol a’r cyfeillgarwch.
“Fe wnes i ddychwelyd ychydig flynyddoedd yn ôl am ddiwrnod agored a dw i wedi bod yn dod yn ôl yma ers hynny. Rydw i wrth fy modd yn gwirfoddoli yma, ac rydw i’n cael boddhad mawr o wneud hynny.”
Bu Frances Suckley, o Frymbo, yn wirfoddolwr am y pedair blynedd diwethaf ac roedd ei thad, Eric Newsom yn yrrwr trên yn y safle gwaith dur.
Dywedodd Frances: “Mae’n rhan o’n treftadaeth sydd angen inni ei hamddiffyn er lles y gymuned ac mae’n ffordd o fy nghadw’n brysur ac yn heini.
“Bu imi gwblhau cwrs ar ddefnyddio torrwr prysgwydd. Rydym yn mynd ati i dorri coed a llwyni. Hefyd bu imi gwblhau cwrs weldio yn ddiweddar, felly os oes angen inni drwsio giatiau, fe alla i wneud hynny – mae’n bwysig mentro gwahanol bethau.”
Dywedodd Donna Hughes, Swyddog Partneriaethau Busnes Cadwyn Clwyd: “Mae yna gymaint o gyfleoedd gwirfoddoli yma yn Wrecsam a sawl prosiect, felly mae’n gyfle i bethau arwain at lawer mwy o waith gwerth chweil.
“Mae hefyd yn ddefnyddiol i bobl ifanc ei ychwanegu at eu CV ac mae’n gyfle i bawb gyfrannu rhywbeth yn ôl i’w cymuned, dysgu sgiliau newydd, cyfarfod pobl a gweithio mewn amrywiaeth o feysydd yn ymwneud ag ystod o brosiectau difyr ac atyniadol.”
Dywedodd Hayley Morgan, o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam : “Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer arddangos gwaith ein holl grwpiau yn yr ardal a sut mae Brymbo, Y Mwynglawdd, Melin y Nant a’r Bers yn gysylltiedig o ran treftadaeth ddiwydiannol ar y cyd, y bobl a’r amgylchedd.
“Y syniad ydy cymryd rhan ym mhobman oherwydd mae’n bosib y bydd sgiliau gwirfoddolwyr Brymbo yn fuddiol ar gyfer gweithgareddau prosiectau eraill fel Chwarel y Mwynglawdd neu’r mwyngloddiau plwm ac i’r gwrthwyneb.”
I wybod mwy am y Diwrnod Agored i Wirfoddolwyr, cysylltwch gyda Hayley.morgan@wrexham.gov.uk neu ffoniwch 01978 667328.
GWIRFODDOLI YN Y GWANWYN
DYDD IAU, EBRILL Y 25AIN 2019
PLAS PENTWYN, COEDPOETH, LL11 3NA
YMYSG Y GWEITHGAREDDAU A SESIYNAU BLASU MAE CYFEIRIANNU, SGILIAU GWYLLTGREFFT, DARGANFOD FFOSILAU, GWASGU AFALAU A BRAGU SEIDR, CREU EICH BWYDWR ADAR EICH HUN, PLADURO, CREU CREFFTAU A LLAWER IAWN MWY.