Croeso i DEN!

Rhwydwaith Mentergarwch Sir Ddinbych - DEN

underline

Mae Rhwydwaith Mentergarwch Sir Ddinbych – DEN yn  fenter newydd sbon gyda’r bwriad o gefnogi busnesau lleol ar bob cam o’u taith. P’un ai lansio busnes newydd neu’n tyfu menter sefydledig ydych chi, mae DEN yn darparu’r cysylltiadau, y wybodaeth a’r cyfleoedd i’ch helpu i ffynnu.

Wedi’i lansio gan Cadwyn Clwyd, a’i ariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mae DEN yma i helpu busnesau ledled Sir Ddinbych i adeiladu rhwydweithiau cryfach, datblygu sgiliau newydd a datgloi cyfleoedd twf.

BETH MAE DEN YN EI GYNNIG:

  • Digwyddiadau rhwydweithio am ddim ledled Sir Ddinbych
  • Gweithdai ar farchnata, cyllid, cynaliadwyedd a mwy
  • Cymorth i fusnesau newydd ac entrepreneuriaid

 

DIGWYDDIADAU RHWYDWEITHIO

Mae ein Digwyddiadau Rhwydweithio DEN yn sesiynau anffurfiol, croesawgar gyda’r bwriad o ddod â busnesau lleol at ei gilydd. Mae pob digwyddiad yn cynnwys:

  • Lluniaeth a rhwydweithio cyfeillgar
  • Sgyrsiau byr, craff gan siaradwyr gwadd
  • Golwg y tu ôl i’r llenni ar fusnes gwestai lleol

Cadwch lygad allan – bydd dyddiadau a lleoliadau’n cael eu cyhoeddi yn fuan!

GWEITHDAI BUSNES

Rydym yn cyflwyno cyfres o weithdai busnes am ddim ledled Sir Ddinbych, yn llawn arweiniad ymarferol a chyngor arbenigol. Bydd y pynciau’n cynnwys:

  • Marchnata ac adeiladu brand
  • Rheoli arian a llif arian
  • Adeiladu busnes cynaliadwy
  • A llawer mwy

 

Digwyddiadau sydd ar y gweill

Mae’r sesiynau anffurfiol rhad hyn ar agor i bawb, busnesau bach neu fawr, ac maent yn ffordd hamddenol o wneud cysylltiadau newydd, rhannu syniadau a darganfod cyfleoedd.

YN BAROD I DYFU EICH BUSNES GYDA DEN?

P’un a ydych chi newydd ddechrau neu’n edrych i ehangu, mae DEN yma i’ch helpu i wneud cysylltiadau ystyrlon, cael mynediad at gymorth gwerthfawr, a thyfu eich busnes yn hyderus.
📧  gofrestru Cysylltwch â ni: admin@cadwynclwyd.co.uk

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau, gweithdai a chyfleoedd busnes yn eich ardal chi.