Cefnogi Mentrau

Hyfforddiant Busnes Am Ddim yn Dod i Drefi ledled Sir Ddinbych

underline

Mae Cadwyn Clwyd yn falch o lansio rhaglen newydd o hyfforddiant busnes am ddim sydd wedi’i chynllunio i helpu busnesau Sir Ddinbych i ddatblygu sgiliau newydd, gwella perfformiad a chynllunio ar gyfer twf yn y dyfodol.

Rhaglen y Gweithdai

📍 Llangollen – 25 Mehefin 2026
Gwella eich adnoddau gwerthiannau e-fasnach a digidol

📍 Y Rhyl – 2 Gorffennaf 2026
Marchnata digidol a phresenoldeb ar-lein effeithiol

📍 Llanelwy – 23 Gorffennaf 2026
Defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf ar gyfer busnes

📍 Rhuthun – 20 Awst 2026
Llif arian a sut i gynhyrchu arian parod yn gyflym

📍 Dinbych – 17 Medi 206
Cynllunio, tyfu ac ehangu eich busnes

Archebwch Eich Lle

Mae’r gweithdai’n rhad ac am ddim, ond mae’n hanfodol archebu lle ymlaen llaw. Mae cod QR penodol ar gyfer pob gweithdy ar y poster hyrwyddo – sganiwch y cod QR ar gyfer y sesiwn o’ch dewis i gofrestru.

Am wybodaeth archebu, cliciwch yma.

Edrychwn ymlaen at groesawu busnesau o bob cwr o Sir Ddinbych a’u cefnogi i dyfu a llwyddo.
Cynllun Grant Twf ac Arloesi Mentrau Cymdeithasol

Sir Ddinbych Ffyniannus

underline

Ceisiadau Nawr ar Gau

 

Mae Sir Ddinbych Ffyniannus yn annog mentrau gymdeithasol i fwrw iddi i arloesi, mabwysiadu technolegau ynni effeithlon a charbon isel a rhoi cynnig ar gynnyrch, prosesau a darpariaeth gwasanaeth newydd.

Bydd y prosiect yn cynnig modd i fusnesau ehangu a datblygu yn ogystal â chefnogi cyflwyniad technolegau arloesol a ffordd newydd o gynnal busnes

Am y cyllid:

Bydd Cynllun Grant Twf ac Arloesi Menter Gymdeithasol – Sir Ddinbych Ffyniannus yn cynnig cyllid hyd at 90% o wariant CYFALAF cymwys ar gyfer prosiectau, gyda dyfarniadau rhwng £1,000 a £9,000.

Mae’r cynllun grant estynedig hwn yn ddewisol ac fe’i gweithredir ar sail “y cyntaf i’r felin” yn dibynnu ar argaeledd cyllid a chwblhau’r prosiect o fewn yr amserlen benodol.

Bydd pob cynnig cyllid yn amodol ar gymeradwyaeth ceisiadau gan Banel Adolygu Grantiau.

Pwy all ymgeisio:

Bydd Cynllun Grant Twf ac Arloesi Menter Gymdeithasol – Sir Ddinbych Ffyniannus yn cynnig cymorth ariannol i fentrau cymdeithasol sy’n gweithredu yn Sir Ddinbych.

Beth yw Menter Gymdeithasol?

Menter gymdeithasol yw “busnes ag amcanion cymdeithasol yn bennaf y mae ei wargedion yn cael eu hailfuddsoddi’n bennaf at y diben hwnnw yn y busnes neu yn y gymuned, yn hytrach na chael eu gyrru gan yr angen i wneud y mwyaf o elw i gyfranddalwyr a pherchnogion.”

 

Sut i ymgeisio:

Ceir manylion llawn cyllid grant Sir Ddinbych Ffyniannus yn y NODIADAU CYFARWYD.

Unwaith y byddwch wedi darllen y canllawiau, cwblhewch gais ar-lein drwy’r ddolen hon.

Os hoffech drafod eich syniadau, cysylltwch â:

Helen Williams ar 01490 340500 / 07584 139011

Cefnogi Mentrau

Sir Ddinbych Ffyniannus

underline

mae ceisiadau ir gronfa yma wedi cau

Ariennir Sir Ddinbych Ffyniannus gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyninat Gyffredin y DU drwy’r flaenoriaeth fuddsoddi ‘cefnogi busnesau lleol’. Mae nod y prosiect yn cyd-fynd â nodau’r Gronfa Ffyninat Gyffredin y DU i hybu cynhyrchiant, cyflog, swyddi a safonnau byw drwy dyfu’r sector preifat, gyda ffocws ar gefnogi mentrau micro a bach yn Sir Ddinbych.

Yr amcanion yw:

  • Creu swyddi a hybu cydlyniant cymunedol, drwy fuddsoddiadau sy’n adeiladu ar ddiwydiannau a sefydliadau presennol, ac yn amrywio o gymorth i ddechrau busnesau i welliannau gweladwy i gyfleusterau manwerthu, lletygarwch a hamddem lleol.
  • Cynyddu buddsoddiad y sector preifat mewn gweithgareddau sy’n hybu twf, drwy gymorth wedi’i dargedu i ficrofusnesau a busnesau bach i ymgymryd ag arloesedd newydd i gwmni, mabwysiadu technolegau a thechnegau carbon isel sy’n gwella cynhyrchiant, sy’n defnyddio ynni’n effeithlon ; a dechrau neu tyfu eu hallforion.

 

Am y cyllid:

Bydd y gronfa’n cefnogi mentrau micro a bach yn Sir Ddinbych yn uniongyrchol trwy ddarparu dau gynllun grant tuag at gostau sy’n ymwneud â chyflwyno cynhyrchion neu brosesau newydd:

  1. Prosiectau mwy: grant cyfalaf a refeniw o 70%, gydag uchafswm gwariant prosiect o £50,000 (sef £35,000 o arian grant a £15,000 o arian cyfatebol ymgeiswyr). Mae isafswm gwerth cais am grant o £3,000.
  2. Grant Cychwyn Busnes Micro a Busnes bach: grant refeniw hyd at 100% gydag uchafswm gwariant prosiect o £2,000. Er mwyn galluogi’r gronfa i gyrraedd cymaint o fusnesau â phosibl, bydd cyfraniad arian parod cyfatebol yn sgorio’n uwch yn y panel. Mae isafswm gwerth cais am grant o £1,000.

Pwy all ymgeisio:

Bydd busnesau micro a bach presennol, busnesau newydd a mentrau cymdeithasol yn gymwys i wneud cais. Bydd y prosiectau yn galluogi mentrau i arloesi; mabwysiadu technolegau ynni-effeithlon a charbon isel; a threialu cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newydd. Bydd ffocws ar ehangu busnes, cefnogi cyflwyno technolegau arloesol a ffyrdd newydd o wneud busnesau.

Sut i ymgeisio:

Ceir manylion llawn cyllid grant Sir Ddinbych Ffyniannus yn y NODIADAU CYFARWYD.

Unwaith y byddwch wedi darllen y canllawiau, cwblhewch gais ar-lein drwy’r ddolen hon.


		

Os hoffech drafod eich syniadau, cysylltwch â:

Donna Hughes ar 01490 340500 / 07833 084352